Agenda item

Aelod Cabinet: Y Cynghorydd Peredur Jenkins

 

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau  (ynghlwm).

 

11.40am – 12.40pm

Cofnod:

Cyflwynodd bawb eu hunain.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Adnoddau'r cyd-destun ac ychwanegodd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol fod y Cyngor yn cymryd ei ddyletswydd o ofal ar unrhyw adeg o ddifri’ ac yn gwneud popeth i hyrwyddo’r cymorth sydd ar gael ymysg y gweithlu.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn manylu ar y ddarpariaeth ar gyfer cynnal a chefnogi staff mewn cyfnod o dorri ar wasanaethau a newid mawr yn y ffordd mae’r gwasanaethau yn cael eu cyflawni drwy ymateb i gwestiynau’r Cyfarfod Paratoi mewn perthynas ag:-

 

·         Asesiad gorau’r Cyngor ar hyn o bryd o nifer y staff all gael eu heffeithio gan y toriadau a’r arbedion effeithlonrwydd.

·         Strategaeth y Cyngor ar gyfer paratoi’r gweithlu ar gyfer y toriadau a’u cefnogi yn ystod y broses ynghyd â’r trefniadau o ran symud staff o fewn y Cyngor a dod o hyd i gyfleoedd eraill o fewn y Cyngor.

·         Cefnogaeth emosiynol i staff sy’n wynebu colli eu swyddi.

·         Trefniadau gydag asiantaethau eraill ar gyfer adnabod sgiliau staff ac adleoli staff gydag asiantaethau eraill.

·         Unrhyw waith sy’n mynd rhagddo, neu gynlluniau ar y gweill, i gefnogi staff cyfredol i fod yn sefydlu eu busnesau eu hunain er mwyn ateb y gofynion am ddarpariaeth newydd / gwahanol.

·         Unrhyw asesiad a gynhaliwyd ynghylch straen ar y staff sy’n weddill, a chasgliadau hynny.

·         Unrhyw gamau a gymerwyd ar gyfer dechrau paratoi i gefnogi staff ar gyfer yr ad-drefnu nesaf.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet a’r swyddogion ar yr atebion ysgrifenedig yn yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau pellach gan yr aelodau mewn perthynas â:-

 

·         Phryder y gallai swyddi ddiflannu cyn i gyfleoedd eraill godi.

·         Yr angen i ragweld cyfleoedd tymor hwy a chyfleoedd i ail-hyfforddi.

·         Y ffaith nad yw’r sefyllfa am wella ac mai’r gwasanaethau lleol sy’n cael eu taro bob tro.

·         Bod y Cyngor yn cymryd y gwaith o gefnogi a chynnal o ddifri’ a’i fod eisoes wedi cynorthwyo unigolion i barhau mewn cyflogaeth.

·         Yr angen i gefnogi’r staff fydd ar ôl yn wyneb y pwysau cynyddol fydd arnynt a’r ffaith y gall fod yn anodd i’r staff hynny gael yr amser i fynychu sesiynau hyfforddi.

·         Pwysigrwydd y cyswllt gyda’r Adran Economi a Chymuned o safbwynt cynghori pobl sy’n gadael gwasanaeth y Cyngor ac yn awyddus i sefydlu eu busnes eu hunain, ac ati.

·         Y deialog ymlaen llaw cyn ystyried unrhyw ddiswyddiadau.

·         Anhawster adleoli staff mewn rhai achosion oherwydd natur wledig y sir.

·         Parhad y drefn apêl a’r niferoedd achosion tebygol.

 

Yn ei sylwadau cloi, nododd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol fod darpariaeth y Cyngor yn y maes hybu iechyd a lles ei staff wedi ei gydnabod ar lefel genedlaethol.  Dyfarnwyd y Cyngor fel sefydliad lefel aur o ran y safon iechyd corfforaethol ac yn Ebrill y llynedd, gwahoddwyd y Cyngor i roi cyflwyniad ar ei waith yn y maes mewn cynhadledd genedlaethol yn Llundain.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif negeseuon y drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Derbyn yr adroddiad a diolch am y gefnogaeth sy’n cael ei chynnig.

·         Monitro’r sefyllfa wrth i effaith y toriadau amlygu eu hunain dros y misoedd nesaf.

 

Diolchwyd i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am eu holl waith ac am y drafodaeth.

 

Ar ddiwedd y cyfarfod, gofynnodd y Cadeirydd i’r swyddogion ymchwilio i’r posibilrwydd o symud cyfarfod paratoi 6 Ionawr o’r prynhawn i’r bore er mwyn hwyluso cynnal cyfarfod o’r Ymchwiliad Craffu Tai Gwyliau a Threthi yn y prynhawn, gan hefyd symud cyfarfodydd 4 Chwefror ac 14 Mawrth o’r pwyllgor hwn i’r prynhawn, os yn bosib’.

 

 

Dogfennau ategol: