Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Amlygwyd bod cais gan Mr A i adnewyddu ei drwydded gyrrwr hacni / hurio preifat wedi ei wrthod gan Is bwyllgor 21.11.18. Nododd Mr A bod y digwyddiad wedi cymryd lle ar ei noson stag a bod ei ymddygiad allan o gymeriad. Roedd yn edifar am yr hyn a wnaeth ac eglurodd ei fod wedi ymddiheuro i berchennog y siop am ei ymddygiad ar y bore canlynol. Nid oedd yn ymwybodol bod derbyn rhybudd yn cael ei ystyried fel collfarn ac y byddai yn ymddangos ar ei gofnod DBS. Mynegodd ei fod bellach yn gweithio ac wedi derbyn cymhwyster ymatebydd cyntaf – cyflwynodd ddatganiad personol, tystlythyrau a geirda i gefnogi ei gais.

 

Nid oedd gan ei ddarpar gyflogwr (petai y cais yn cael ei ganiatáu) unrhyw sylw ychwanegol

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         datganiad personol yr ymgeisydd , tystlythyrau / geirda

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarnau am gyfres o droseddau (Ionawr 2010). Roedd y drosedd gyntaf am fethu ac ildio i’r ddalfa ar yr amser a nodwyd yn groes i ofynion adran 6 Deddf Mechnïaeth 1976. Cafodd ddirwy o £100 a gorchymyn i dalu £85 costau. Roedd yr ail drosedd o fod yn feddw ac afreolus o dan Adran 91 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1967 (Ionawr 2010) lle cafodd ddirwy o £50. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Wolverhampton (Chwefror 2010) am ddinistrio eiddo yn groes i adran 1 Deddf Difrod Troseddol 1971. Cafodd ddirwy o £65 a gorchymyn i dalu costau o £85. Yn Mai 2017 derbyniodd yr ymgeisydd rybudd gan Heddlu Gogledd Cymru am ddefnyddio geiriau / ymddygiad bygythiol a sarhaus / ymddygiad afreolus er mwyn achosi braw / trallod yn groes i Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986.


Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Mae paragraff 2.3 o’r Polisi yn cadarnhau bod “materion eraill i’w hystyried” yn cynnwys rhybuddion.

 

      Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr           1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run          ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.  Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried (gan gynnwys rhybuddion) am ymosodiad cyffredin a /neu drosedd o dan A4 Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Nodi’r hefyd, ym mharagraff 6.6, y bydd cais yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd, neu fater arall i’w ystyried yn gysylltiedig â hynny o fewn y 10 mlynedd diwethaf

 

Rhoddodd yr Is Bwyllgor ystyriaeth hefyd i baragraff 16.1 o bolisi'r Cyngor sydd yn ymwneud ag ail-droseddu. Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu sydd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo.  O dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i benderfyniad bod troseddau y cais hwn yn union yr un fath â'r rhai a gafodd eu hystyried gan Is-bwyllgor 21 Tachwedd 2018 mewn cysylltiad â chais blaenorol a wnaed gan yr ymgeisydd yn 2018 am drwydded yrru cerbyd hacni / hurio preifat. Er nad oedd yr Is-bwyllgor presennol wedi'i ymrwymo'n llwyr gan ganfyddiadau Is-bwyllgor 2018, rhoddwyd sylw dyledus iddynt.

 

Canfu Is-bwyllgor 2018 nad oedd unrhyw ddarpariaeth benodol yn y Polisi oedd yn berthnasol i’r troseddau o fod yn methu ag ildio i fechnïaeth a bod yn feddw ​​ac yn afreolus. Er bod y troseddau hyn yn rhai a ystyriwyd yn ddifrifol, yng ngoleuni eu natur hanesyddol ac yn absenoldeb unrhyw Bolisi perthnasol a oedd yn argymell gwrthod, nid oedd y collfarnau hyn, yn unigol, yn sail i wrthod y cais. Roedd Is-bwyllgor y cais cyfredol yn cytuno.

 

Wrth ystyried rhybudd 2017, canfu Is-bwyllgor 2018 fod y rhybudd mewn perthynas â throseddau trais. Daeth Is-bwyllgor 2019 i’r un canlyniad.

 

Gyda'i gilydd, roedd Is-bwyllgor 2018, yn ystyried bod collfarnau 2010 a rhybudd 2017 yn golygu bod mwy nag un gollfarn neu fater i’w ystyried yn disgyn o fewn 10 mlynedd am drosedd o natur dreisgar, ac felly, o dan baragraff 6.6 o’r Polisi roeddynt yn sail i wrthod y cais. Yn ychwanegol, roedd yr Is bwyllgor o’r farn bod troseddu dro ar ôl tro gan ddangos diffyg parch at les eraill neu am eiddo, yn berthnasol i baragraff 16.1 o’r polisi.

 

Blwyddyn yn ddiweddarach, ystyriwyd bod collfarn 2010 a rhybudd 2017 yn parhau i gyfrif fel ‘mwy nag un collfarn neu fater i'w ystyried o fewn 10 mlynedd ar ôl gwneud cais’ ac y byddai hyn yn aros felly hyd ddiwedd y cyfnod 10 mlynedd – yn yr achos yma 7 Chwefror 2020. Roedd ail droseddu gan ddangos diystyrwch i eraill neu eiddo hefyd yn parhau o fewn 10 mlynedd ac felly, o dan yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor presennol yn fodlon bod y rhagdybiaethau o blaid gwrthod o dan baragraffau 6.6 a 16.1 o'r Polisi yn gymwys. Hyd yn oed pe bai collfarn 2010 yn cael ei diystyru, roedd rhybudd 2017 yn parhau yn ddigonol fel sail i wrthod y cais o dan baragraff 6.5 o’r Polisi hyd ddiwedd y cyfnod tair blynedd – yn yr achos yma 29 Mai 2020.

 

Amlygodd y Cyfreithiwr nad yw darpariaethau'r Polisi yn orfodol a bod modd gwyro oddi ar yr argymhellion os yw ffeithiau'r achos yn cyfiawnhau hynny. Rhoddwyd sylw arbennig i baragraff 3.5 o’r adroddiad, sydd yn cynnwys difrifoldeb y troseddau, perthnasedd, dyddiad y cafodd y drosedd ei chyflawni, dyddiad y gollfarn ac oedran yr ymgeisydd ar adeg y gollfarn, y ddedfryd a roddwyd gan y Llys ac os yw’r troseddau yn perthyn i batrwm o droseddu, yn ogystal ag unrhyw ffactorau perthnasol eraill.

 

Wedi ystyried cefndir y digwyddiad yn 2017 nid oedd Is Bwyllgor 2018 yn fodlon, er i’r      ymgeisydd gyfaddef ei fod yn euog, bod y rhesymau dros ei ymddygiad yn ddigonol i esgusodi’r drosedd. Nodwyd bod gan yr ymgeisydd drwydded gyrru hacni ar  yr amser y           derbyniodd rybudd gan Heddlu Gogledd Cymru ond nad oedd y wybodaeth yma wedi        cael ei rannu gyda’r Adran Trwyddedu. Ymddengys bod y wybodaeth wedi ei rannu wrth         gwblhau cais adnewyddu trwydded. Er eglurhad yr ymgeisydd nad oedd yn ymwybodol         bod angen datgelu’r wybodaeth am y rhybudd nid oedd yr Is Bwyllgor yn derbyn hyn      gan fod ffurflen gais am drwydded yn nodi yn glir yr angen am wybodaeth troseddau a             rhybuddion. Fel gyrrwr, dylai fod yn ymwybodol o’r angen yma.

 

Ystyriodd yr Is bwyllgor nad oedd yr ymgeisydd wedi gwneud datganiad gonest i’w gyflogwr a bod hyn yn amlygu ynddo’i hun, nad oedd yn berson addas a phriodol.

 

Fodd bynnag, o dderbyn datganiad personol, tystlythyrau a geirda oedd, ymhlith materion eraill, yn gysylltiedig â'r digwyddiad a arweiniodd at rybudd 2017 roedd yr Is-bwyllgor yn derbyn bod yr ymgeisydd ar delerau da â pherchennog y siop a'i fod wedi ymddiheuro am ei ymddygiad. Er nad yw'n esgusodi'r drosedd, roedd yn darparu cyd-destun pwysig i’r Is-bwyllgor ei ystyried o ran gwyro oddi wrth gwrthod y cais. Yn dilyn y penderfyniad gan Is-bwyllgor 2018 nad oedd yr ymgeisydd yn addas a phriodol oherwydd iddo beidio â datgelu manylion ei droseddau i’w gyflogwr, roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno tystlythyrau cymeriad ychwanegol i gefnogi ei ail gais. Ystyriwyd hefyd waith yr ymgeisydd ynghyd a’i gyfrifoldeb fel ymatebydd cyntaf - dwy swydd sydd yn gofyn am lefel uchel o ymddiriedaeth.

 

Derbyniodd yr Is-bwyllgor bod anonestrwydd yr ymgeisydd i ddatgelu ei droseddau i’r Adran Trwyddedu a chyn gyflogwr bellach wedi eu gwyrdroi gan i’r ymgeisydd ddysgu o’i gamgymeriadau a newid cyfeiriad ers penderfyniad 2018 drwy dderbyn cyfrifoldebau ac ennill ymddiriedaeth yn ei swyddi.

 

Nododd Cadeirydd yr Is-bwyllgor nad oedd y cais yn un syml i'w benderfynu, fodd bynnag, wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon gwyro oddi wrth y Polisi a phenderfynu bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.