Agenda item

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, datganiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau,  y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. 

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y collfarnau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Eglurodd bod Mr B wedi newid cyfeiriad ac nad oedd ei riant wedi cyfeirio llythyrau ymlaen ato. O ganlyniad methodd ymateb i hysbysiad dirwy am fethu talu toll.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd cynrychiolydd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu, datganiad DBS a datganiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau

 

Yn mis Hydref 2015 derbyniodd yr ymgeisydd dri phwynt cosb am dorri terfyn cyflymder statudol ar ffordd gyhoeddus. Yn Hydref 2017 derbyniodd 6 pwynt cosb am fethu a rhoi gwybodaeth am hunaniaeth y gyrrwr.

 

Nid oedd materion pellach i’w hystyried.


Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.3 o’r Polisi yn cadarnhau bod “materion eraill i’w hystyried” yn cynnwys rhybuddion.

 

Mae paragraff 12.2 sydd yn rhestru troseddau traffig difrifol at ddibenion y Polisi. Ymysg y troseddau mae MS90 (methu darparu gwybodaeth am hunaniaeth y gyrrwr) gyda 12.3 yn nodi y byddai cais yn cael ei wrthod os oes collfarn yn erbyn yr ymgeisydd ac nad yw wedi bod yn rhydd rhag collfarn am 6 mis o leiaf.

 

Ystyriwyd paragraff 13.1 sydd yn amlygu bod troseddau sydd yn derbyn rhwng 1 a 3 pwynt cosb yn ‘fân droseddau traffig’.  Mae paragraff 13.2 yn nodi na fyddai collfarn neu fater arall i’w ystyried am fân drosedd traffig yn debygol o arwain at wrthod cais.

 

Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarn 2015 am oryrru yn drosedd mân a gyda’r pwyntiau wedi eu terfynu ym mis Hydref 2018, penderfynwyd nad oedd yn sail i wrthod y cais. Daeth yr Is bwyllgor i’r casgliad bod methu a rhoi gwybodaeth am hunaniaeth yn drosedd draffig difrifol. Fodd bynnag, gan fod hyn wedi digwydd dros 6 mis yn ôl, nid oedd paragraff 12.3 yn berthnasol a’r Is bwyllgor yn fodlon nad oedd yn sail i wrthod y cais.

 

Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol, i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.