I ystyried adroddiad Pennaeth Cynorthwyol Cyllid (Refeniw a Risg)
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Refeniw a Risg) yn diweddaru’r
Pwyllgor ar drefniadau atal twyll ac atal llygredd y Cyngor, cynnydd ar y
rhaglen waith am y tair blynedd nesaf ynghyd a datblygiadau cenedlaethol yng
nghyd-destun twyll yn erbyn y sector gyhoeddus. Atgoffwyd yr Aelodau bod
rhaglen waith Strategaeth Gwrth-dwyll, Gwrthlygredd a Gwrth Lwgrwobrwyo Cyngor Gwynedd ar gyfer 2019 -
2022 wedi ei mabwysiadu gan y Pwyllgor ar y 14eg o Chwefror 2019.
Amlygwyd nad oedd
swyddogion y Cyngor yn ymchwilio i honiadau o dwyll yn ei erbyn ar hyn o bryd.
Er hynny, ers Ebrill 1af 2019, adroddwyd bod y Gwasanaeth Budd-dal wedi
cyfeirio 22 o achosion Budd-dal Tai i’r Adran Gwaith a Phensiynau (Llywodraeth
DU) am ymchwiliad pellach. Nodwyd nad yw’r Adran Gwaith a Phensiynau yn
ymchwilio i dwyll Gostyngiad Treth Cyngor, a felly fod camau pendant wedi eu
cymryd i ddatblygu sgiliau yn fewnol i ymchwilio i’r twyll yma. Ategwyd bod 3 o
swyddogion budd-dal a 3 o swyddogion trethi yn gweithio ar gymhwyster CIPFA Accredited
Counter Fraud Technician ar hyn o bryd sydd yn fuddsoddiad arwyddocaol i
weithdrefnau atal twyll y Cyngor.
Yng nghyd-destun
defnyddio data, cyfeiriwyd at y gweithrediad i asesu’r posibilrwydd o
ddefnyddio data’n well er mwyn adnabod ac ymchwilio i dwyll. Ategwyd mai’r
cynllun cyfredol i adnabod ac ymchwilio i dwyll yw ymarferiad y Gwasanaeth
Trethi i adolygu rhai o’r disgowntiau ac eithriadau a ganiateir i gyfrifon
Treth Cyngor y Sir. Amlygwyd , mewn ymchwil diweddar, mai hawliadau ffug am
Ddisgownt Person Sengl yw’r trydydd math mwyaf cyffredin o dwyll sydd yn cael
ei weithredu gan oedolion yng Nghymru. Nodwyd bod 18,000 o gartrefi Gwynedd yn
derbyn disgownt person sengl Treth Cyngor ac er mwyn sicrhau bod pob eithriad a
disgownt a ganiateir yn gywir, bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda chwmni
Datatank i adolygu hawlwyr disgownt. Os darganfyddi’r hawliadau anghywir bydd y
Cyngor yn diweddu’r hawliadau, ysgrifennu at y trethdalwyr ac yn ceisio
adennill y gostyngiad.
Tynnwyd sylw at
adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a gafodd ei gyhoeddi ym Mehefin 2019 sydd
yn rhoi darlun o’r mathau o dwyll y gellid eu cyflawni yn erbyn y sector
gyhoeddus yng Nghymru. Nodwyd mai cais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y
Cynulliad Cenedlaethol oedd darparu’r
adroddiad fel bod modd adrodd ar y trefniadau sydd yn ei lle o fewn y gwahanol
fathau o gyrff cyhoeddus. Cymeradwywyd cynnig yr Archwilydd Cyffredinol i
gynnal adolygiad pellach (cam 2) i archwilio pa mor effeithiol yw trefniadau
atal twyll yn ymarferol ac i wneud argymhellion ar gyfer gwella. Adroddwyd bod
bwriad cyhoeddi cam 2 o’r adolygiad ym mis Mehefin 2020 gydag awgrym i adrodd
i’r Pwyllgor ganlyniad y gwaith ac unrhyw faterion sydd yn benodol i Wynedd.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn a thwyll yn ymwneud â throsglwyddo eiddo hunan-ddarpar
allan o’r Gyfundrefn Treth Cyngor, nodwyd mai cyfrifoldeb Asiantaeth Swyddfa’r
Prisiwr yw casglu gwybodaeth a dod i benderfyniad ar faterion twyll o’r math
yma. Mewn sylw ynglŷn â’r angen i wirio gwaith a phenderfyniad y prisiwr,
nodwyd bod modd cysylltu gyda swyddogion y llywodraeth i wneud ymholiadau
pellach.
PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad ynghyd a nodi amserlen Swyddfa Archwilio Cymru i adrodd ar
ganlyniadau cam 2 o adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol.
Dogfennau ategol: