Agenda item

Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn.

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn adroddiad ar waith y Gwasanaeth AHNE. Rhoddwyd diweddariad ar y prosiectau canlynol:

 

·        Hyfforddiant Sgiliau Gwledig

·        Sbwriel Morol

·        Rhywogaethau Ymledol

·        Tanddaearu Gwifrau Trydan

·        Cynnal Asedau – Cyfleon Gwirfoddoli

·        Cystadleuaeth Ffotograffiaeth AHNE

·        Prosiectau Cyfalaf – Cyllid Llywodraeth Cymru, sef:-

-       Eglwys Carnguwch - gwaith trwsio ac ail-osod giatiau a gosod arwyddion i gyfeirio o gyfeiriad Llwyndyrys

-       Gwaith adnewyddu wal derfyn Cae’r Nant a chreu bwlch fel lle pasio i gerbydau

-       Gwella Llwybrau Cilan

-       Gwella Mynediad i Dir Mynediad Bwlch Mawr, Gyrn Ddu, Gyrn Goch

 

Dosbarthwyd ychydig gopïau o lyfryn gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynglŷn â phrosiect ffermio “Talu am Ganlyniadau” ym Mhorth Gwylan, a nododd y Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn fod ganddi fwy o gopïau yn y swyddfa petai’r rhywun yn dymuno copi.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Gan gyfeirio at y bwriad i osod tap dŵr cyhoeddus ger y toiledau yn Abersoch, nododd cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru fod modd darparu paneli wrth ymyl pwyntiau ail-lenwi yn egluro pam bod angen lleihau’r defnydd o blastigion.  Awgrymwyd bod y Swyddog AHNE Llŷn yn trafod ymhellach gyda’r cynrychiolydd.

·         Nododd aelod fod Jac y Neidiwr yn fwy o broblem na Changlwm Siapan gan ei fod yn lledaenu yn llawer cynt.  Mewn ymateb, nododd y Swyddog AHNE Llŷn y byddai’r Uned yn dal i fynd ar ôl hyn, ond bod ‘Himalayan Balsam’ yn broblem fawr yn yr ardal bellach.  Nododd fod y planhigyn wedi ymledu o’r mynydd yn Nefyn i lawr i’r traeth ac efallai y byddai’n brosiect da i ymgeisio am arian ar ei gyfer gan Lywodraeth Cymru.  Ychwanegodd fod llawer o waith wedi’i wneud ar hyn ym Môn a bod y bartneriaeth ‘Himalayan Balsam’ yno yn mapio’r ardaloedd hynny lle mae’r planhigyn yn tyfu.  Awgrymwyd cysylltu â’r bartneriaeth ym Môn i weld oes modd ymestyn y gwaith mapio i gynnwys Llŷn hefyd.

·         Nododd aelod nad oedd yna unrhyw beth ar wefan yr AHNE ynglŷn â’r Prosiect Awyr Dywyll, er bo cyfeiriad at hyn yn aml ar y gwefannau cymdeithasol.  Mynegwyd dymuniad i weld llawer o ddigwyddiadau’n cymryd lle unwaith y byddai’r Swyddog Prosiect yn ôl yn ei gwaith.

·         Holodd aelod a fyddai’n bosibcael prosiect i gael gwared â’r coed helyg ar Garn Boduan gan fod perygl iddynt ymledu ac amharu ar yr olion yno.  Awgrymodd y Swyddog AHNE Llŷn y gellid cynnwys hyn yn y cynllun rheoli.  Nododd yr aelod y byddai’n pasio manylion cyswllt y perchennog ymlaen i’r swyddog.

·         Nododd aelod fod Scottish Power wedi uwchraddio un o’u llinellau yn Sarn Bach a holwyd a fyddai’n bosibtrafod gyda hwy ymlaen llaw i weld a fyddai modd eu tanddaearu.  Mewn ymateb, eglurodd y Swyddog AHNE Llŷn fod Scottish Power yn fwy awyddus i danddaearu mewn rhai llefydd nag eraill, a chyfeiriodd at dair o linellau y bwriedir eu tanddaearu y flwyddyn nesaf.  Awgrymwyd gofyn i Scottish Power ddarparu mapiau yn dangos y lleoliadau ar fap OS.

·         Nododd aelod fod angen torri’r rhododendron gerllaw’r rhaeadr wrth fynd at Gyrn Goch.

·         Nododd aelod fod y grisiau yn arwain i fyny at chwarel Tyddyn Hywel wedi’u gosod gan y cyn-weithwyr a’i bod yn werth eu dilyn yr holl ffordd i fyny i weld y gwaith yn y top.

·         Nododd aelod ei fod yn hynod falch o’r gwaith adnewyddu wal derfyn Cae’r Nant a bod lledu’r ffordd wedi gwneud gwahaniaeth mawr.  Fodd bynnag, mynegodd aelod arall fod pryder am or-yrru ar y ffordd.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

 

 

Dogfennau ategol: