Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn
I ystyried yr
adroddiad
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Dyfrig Siencyn yn amlinellu’r hyn a gyflawnwyd dros y 6 mis diwethaf gan Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn. Atgoffwyd yr aelodau bod y Bwrdd
wedi cytuno ar feysydd blaenoriaeth fyddai’n gwella llesiant economaidd,
amgylcheddol a diwylliannol y ddwy sir ac wedi sefydlu is-grwpiau i weithredu swyddogaethau’r
Bwrdd.
Adroddwyd bod y Bwrdd yn derbyn yr angen i
ganolbwyntio ar yr hyn y gellid ei gyflawni yn yr hinsawdd sydd ohoni gan fod
adnoddau’r corff cyhoeddus o dan bwysau a bygythiadau pellach mewn arbedion. Er
hynny, drwy gydweithio gellid manteisio
ac adnabod cyfleoedd i weithio mewn ffyrdd gwahanol a chyflwyno dulliau
arloesol o weithredu.
Rhoddwyd diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn
y chwe maes blaenoriaeth.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau
canlynol gan Aelodau unigol:
·
Tlodi – mynegwyd siom a phryder nad oedd
is-grŵp yn arwain ar y gwaith yn bresennol
·
Awgrym i adolygu cyfansymiau rent tai cymdeithasol
·
Bod angen cynnwys cefnogaeth i deuluoedd / gofalwyr
ym maes gwaith Iechyd a Gofal Oedolion
·
Newid Hinsawdd - graddfa’r effaith angen mwy o
gefnogaeth. A yw’r Llywodraeth yn ymateb i’r hyn y mae’r Bwrdd yn ceisio ei
weithredu?
·
Newid Hinsawdd yn fater byd eang ond, ym maes llifogydd
a oes modd addysgu pobl ynglŷn â’r effaith / i arafu newid hinsawdd yn
hytrach na derbyn bod hyn yn digwydd?
·
O ystyried tangyflawniad Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr, angen sicrhau bod blaenoriaethau’r Is-grŵp Iechyd yn cael
eu harwain yn effeithiol gan gynrychiolydd o’r Bwrdd Iechyd
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sicrhau
arweiniad effeithiol ar yr agweddau iechyd nodwyd bod yr is-grŵp yn
cyfarch dwy flaenoriaeth a bod y Bwrdd Iechyd a’r ddwy Sir yn cydweithio yn
arbennig o dda. Ategwyd mai rôl yr Awdurdodau Lleol a’r Bwrdd Iechyd yw darparu
gwasanaeth effeithiol ac mai rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw ychwanegu
gwerth i’r hyn sydd eisoes yn digwydd gan y cyrff cyhoeddus yn unigol.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â diffyg
gwaith yn y maes tlodi, nodwyd mai trefniadau budd-daliadau Llywodraeth San
Steffan a’u gallu cyllidebol sydd yn creu sefyllfaoedd o dlodi ac mai cyfyng yw
gallu’r Awdurdod Lleol i adnabod darn o waith / prosiect penodol i geisio
gwneud argraff yn y maes. Derbyniwyd y sylw bod gwaith angen ei wneud i adnabod
maes gwaith /darganfod prosiectau all gyflawni a gwneud gwahaniaeth. Mewn
perthynas a’r Bwrdd Gwasnaethau Cyhoeddus cytunwyd i ystyried y gwaith sydd
eisoes ar y gweill gan yr Awdurdodau Lleol yn y maes tlodi cyn ystyried beth
gall y Bwrdd wneud i ychwangeu gwerth i hynny. Bydd yr Awdurdodau Lleol yn
darparu cyflwyniad ar gynnydd yn y maes tlodi yn ystod cyfarfod nesaf y Bwrdd
ym mis Mawrth.
Mewn
ymateb i sylw ynglŷn â gwir effaith Newid yr Hinsawdd, nodwyd bod
Ymgynghori aeth Gwynedd eisoes yn gwneud gwaith da yn lleol a’r dyletswyddau
hynny yn cynyddu wrth i’r broblem gynyddu. Awgrymwyd bod Llywodraeth Cymru drwy
gydweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru wedi newid agwedd tuag at y problemau yn
genedlaethol. Ategwyd bod datrysiadau i rai problemau yn sylweddol a thu hwnt
i’r gallu i unrhyw awdurdod lleol ei gyflawni ar ben ei hun.
Derbyniwyd yr awgrym bod modd ‘addysgu pobl’
fod yn faes y gellid ei fabwysiadu yn hytrach nag ymateb i’r sefyllfa yn unig
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phwy
sydd yn monitro gwaith yr is grwpiau, adroddwyd bod Tîm Cefnogi’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus yn sicrhau bod cynnydd yng ngwaith yr is-grwpiau ac yng
nghyfarfodydd chwarterol o’r Bwrdd, bydd
yr adroddiadau cynnydd yn cael eu herio. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a
risgiau a sut bydd disgwyl i adroddiad ar dlodi gael ei gyflwyno yn Rhagfyr 2019 os nad oes is-grwp
yn arwain ar y gwaith, nodwyd y bydd cofrestr risg yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Bwrdd.
Yn ogystal bydd yr Awdurdodau Lleol yn rhoi diweddariad are u cynlluniau tlodi.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad
Dogfennau ategol: