Agenda item

Dymchwel adeilad presennol ac adeiladu adeilad preswyl 3 llawr yn cynwys 28 fflat gofal ychwanegol (16 fflat 2 ystafell wely a 12 fflat 1 ystafell wely, defnyddiau llawr daear atodol yn cynnwys cyfleusterau cymunedol, swyddfa, ystafell beiriannau, storfa bin a storfa 'buggy') ynghyd â llefydd parcio a tirlunio cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dylan Bullard

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

         Dymchwel adeilad presennol ac adeiladu adeilad preswyl 3 llawr yn cynnwys 28 fflat gofal ychwanegol (16 fflat 2 ystafell wely a 12 fflat 1 ystafell wely, defnyddiau llawr daear atodol yn cynnwys cyfleusterau cymunedol, swyddfa, ystafell beiriannau, storfa bin a storfa 'buggy') ynghyd â llefydd parcio a thirlunio cysylltiol.

 

a)         Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli o fewn tref Pwllheli ac o fewn Ardal Gadwraeth. Eglurwyd bod y bwriad yn cael ei ddisgrifio fel fflatiau gofal ychwanegol i rai sydd dros 55oed gyda’r cynlluniau yn dangos y byddai’r fflatiau yn hunangynhaliol gydag ystafell(oedd) gwely, stafell ymolchi, lolfa a chegin yn ogystal â lolfa gymunedol a chegin gymharol fechan cysylltiedig.

 

         Amlygwyd bod yr Adran Oedolion, Gofal a Llesiant wedi cadarnhau eu bod yn gefnogol i’r cais ac wedi nodi bod galw am y math yma o ddarpariaeth yn debygol o godi dros yr 20mlynedd nesaf gyda Pwllheli wedi ei adnabod fel ardal twf. Nodwyd mai ADRA yw’r ymgeisydd a bod y wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais yn amlygu y byddai 100% o’r unedau yn rai fforddiadwy sygolygu bod y bwriad yn bodloni gofynion polisi TAI15. Adroddwyd bod yr Uned Strategol Tai hefyd wedi cadarnhau bod y bwriad yn cyfarch gofynion yr ardal, a bod Cymdeithas Tai yn bartner ar gyfer y datblygiad hwn. Roedd yr eiddo hefyd yn cwrdd â Gofynion Ansawdd Datblygu, ac wedi ei gynnwys o fewn rhaglen i dderbyn Grant Tai Cymdeithasol.

 

         Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd bod edrychiad cefn yr adeilad newydd yn rhannol ddeulawr a rhannol drillawr ac yn wynebu cefn tai teras Penlon Llŷn. Eglurwyd y cynlluniau diwygiedig yn ymwneud gyda ffenestri a pherthynas y datblygiad a’r tai presennol yn ogystal â rhai o’r pellteroedd rhyngddynt ac unrhyw effaith ar fwynderau preswylwyr y tai. Nodwyd bod bwriad defnyddio’r ardal rhwng yr adeilad newydd a ffin y tai teras fel gardd gymunedol gyda maes parcio i’r dwyrain o’r adeilad yn cael ei gadw ar gyfer defnydd parcio.

 

         Yng nghyd-destun llecynnau agored, amlygwyd bod polisi ISA5 yn cadarnhau'r angen i asesu anghenion yr ardal ar gyfer darparu llecynnau agored priodol o ganlyniad i’r datblygiad bwriedig (mwy na 10 o unedau byw). Er hynny, yn unol â geiriad y Canllaw Cynllunio Atodol nid oedd angen gwneud cais am gyfraniad o lecyn agored yn y cyd-destun yma.

 

         Wrth ystyried materion bioamrywiaeth, nodwyd bod Arolwg Cynefin wedi ei dderbyn gyda’r Uned Bioamrywiaeth wedi cadarnhau bod yr adroddiad yn delio gyda’r rhan fwyaf o bryderon bioamrywiaeth ar y safle. Ategwyd, fel bod modd cefnogi’r bwriad bod angen cadarnhau’r argymhellion a’r mesurau lliniaru o fewn y Datganiad Lliniaru sydd i gynnwys dull tynnu’r to i leihau effaith ar ystlumod ac adar. Bydd angen cynnwys amserlen a manylion penodol o’r math o focsys ystlumod a nythu sydd i’w cynnwys yn yr adeilad newydd a’u lleoliad ynghyd a chynlluniau diwygiedig. Caiff y Datganiad Lliniaru ei gynnwys fel amod.

 

         Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol a’i fod yn cydymffurfio gyda gofynion y polisïau perthnasol lleol a chenedlaethol. Nodwyd gan fod cynlluniau diwygiedig derbyniol wedi eu derbyn fod yr argymhelliad wedi ei ddiwygio i ganiatáu yn ddarostyngedig i amodau perthnasol.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol:-

 

·           Nad yw'r cynllun diwygiedig yn ymateb yn llawn i’r pryderon. Derbyniwyd bod datrysiad rhesymol wedi ei gyflwyno, ond bod modd gwella ymhellach, yn enwedig y ddau lawr sydd yn goredrych dros dai Stryd Llyn

·           Rhai egwyddorion yn annerbyniol - y cynllun yn ormesol, yn orddatblygiad o’r safle

·           Pryderon goredrych - rhai tai o fewn 17m o’r datblygiad

·           Gall y cynllun fod yn fwy sympathetig

·           Darpariaethau parcio annigonol  - er i’r adroddiad nodi bod parcio ar gyfer 22 yn ddigonol, gall y ffigwr, mewn gwirionedd fod oddeutu 56

·           Cais i’r pwyllgor ohirio er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda’r datblygwr i geisio datrysiadau

 

c)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeiswyr y prif bwyntiau canlynol:-

 

·         Bod y datblygiad yn cynnig 28 uned fforddiadwy

·         Bod Adra yn ymateb yn strategol i’r galw cynyddol am unedau o’r fath - modelau tebyg wedi eu datblygu ym Mangor a Phorthmadog - cyfle erbyn hyn i Bwllheli gael y ddarpariaeth

·         Ystyriaethau wedi eu gwneud i leihau pryderon y gwrthwynebwyr o ran materion goredrych a mwynderau gweledol - ategwyd bod y datblygiad yn un trefol ac felly goredrych yn fater tebygol

·         Bod bwriad gwella a lledaenu maint y palmentydd i hyrwyddo mynediad diogel i’r dref / siopa

 

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio'r penderfyniad am y rhesymau canlynol:

·         bod yr egwyddor a’r prosiect yn dderbyniol ond angen cynnal trafodaethau pellach gyda’r asiant i ddatrys pryderon trigolion Stryd Pen Llyn

·         angen ymateb ymhellach i bryderon goredrych a pharcio

·         cyfle i geisio gwybodaeth bellach a gwneud ymholiadau pellach

·         angen sicrhau bod pob elfen yn cael ei ystyried yn llawn ac nad oedd angen brysio

 

d)         Mewn ymateb i’r sylwadau mynegodd y Rheolwr Cynllunio mai nifer isel o bryderon lleol oedd wedi ei derbyn o ystyried mai cynllun trefol yw’r bwriad. Ategwyd bod pellter o 17m yn dderbyniol (rhwng ffiniau tai Stryd Llyn) i ganol tref ac mai anorfod fyddai rhywfaint o oredrych. Amlygwyd nad oedd gan yr Adran Priffyrdd wrthwynebiad i’r bwriad a bod y dyluniad yn cynnwys parcio ar lefel briodol i’r defnydd arfaethedig. Nodwyd hefyd bod cais i’r datblygwr wella’r cyswllt ar droed rhwng y safle a chanol y dref.

 

Mewn ymateb i’r cynnig i ohirio, mynegodd Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd nad oedd mantais dros ohirio’r cais gan fod y cais yn cyfarch y materion cynllunio ac yn cwrdd â’r gofynion. Ategwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng y Gwasanaeth Cynllunio a’r ymgeisydd ynghyd ag ymgynghoriad cyhoeddus

 

dd)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Croesawu bod yr unedau yn 100% fforddiadwy

·         Bod y safle yn le addas ar gyfer y math yma o ddatblygiad - yn gyfleus i’r dref ac felly yn diwallu angen cael car

·         Bod yr adeilad presennol ei hun yn ormesol

·         Bod y bwriad yn ymateb i’r angen am dai gofal ychwanegol

 

e)         Pleidleisiwyd ar y cynnig i ohirio’r cais er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda’r ymgeisydd

 

          Disgynnodd y cynnig

 

f)          Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad

 

          PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i amodau perthnasol:

 

1.    5 mlynedd

2.    Unol â’r cynlluniau diwygiedig

3.    Llechi

4.    Deunyddiau allanol i’w cytuno

5.    Tynnu hawliau gosod ffenestri newydd

6.    Cynllun goleuo allanol ac ardaloedd grisiau mewnol

7.    Ffenestri wedi eu cymylu

8.    Cynllun Draenio (SUDS)

9.    Datganiad lliniaru bioamrywiaeth a lleoliad blychau ystlumod a nythu

10.  Amod tai fforddiadwy ar gyfer unigolion dros 55

11.  Amodau priffyrdd

12.  Oriau dymchwel/gweithio

13.  Amodau Gwarchod y Cyhoedd (os angen)

14.  Cynllun rheoli dymchwel

 

 

Dogfennau ategol: