Cais i osod 4 pabell
'saffari', 1 adeilad 'sauna', cadw ardal chwarae i blant a gwaith cysylltiol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Cais
i osod 4 pabell 'saffari', 1 adeilad 'sauna', cadw ardal chwarae i blant a gwaith
cysylltiol
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd
a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais llawn ydoedd i osod 4
pabell saffari, gosod
adeilad cysylltiol i’w ddefnyddio fel ‘sauna’
ynghyd â gwaith cysylltiol eraill gan gynnwys creu llecynnau parcio a man troi
cerbydau, tirlunio, cysylltiad gwasanaethau a gosod gwaith trin
carthffosiaeth. Yn ogystal, cedwir
llecyn chwarae i blant sydd eisoes wedi ei greu o fewn rhan o’r safle. Eglurwyd bod y cais yn ail gyflwyniad o gais
blaenorol a wrthodwyd gyda newidiadau i rai elfennau gan gynnwys ail leoli’r
safle i leoliad yn nes at eiddo preswyl yr ymgeisydd. Eglurwyd hefyd fod
cynllun lleoliad newydd wedi ei dderbyn y bore hwnnw oedd yn newid y llinell
goch/glas oedd yn amlinellu safle’r cais.
Tynnwyd sylw at bolisi TWR 5 sydd yn datgan
y caniateir cynigion am safleoedd teithiol, gwersylla neu lety
gwersylla amgen dros dro os
cydymffurfir gyda’r cyfan o’r meini
prawf perthnasol.
Dadleuwyd yn y Datganiad Cynllunio a gyflwynwyd gyda’r cais mai
polisi TWR 5 ddylid ei ystyried gan
na fyddai’r pebyll yn barhaol
am mai cysylltiad cyfyngedig fyddai gyda’r tir. Er
hynny, roedd y swyddogion cynllunio o’r farn mai
polisi TWR 3 oedd yn fwyaf perthnasol,
fel ag a wnaed
yn achos y cais blaenorol a wrthodwyd, gan fod elfennau mwy
parhaol yn cael eu cynnig
fel rhan o’r datblygiad.
Tynnwyd sylw at y cadarnhad yn y wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais, y bydd ffrâm
a gorchudd canfas y pebyll yn cael
eu tynnu o’r safle ar
ddiwedd y tymor yn ogystal â’r
llwyfannau pren sydd bellach yn
cael eu gosod
ar y ddaear ac yn cael eu
hangori i’r ddaear trwy gyfres
o begiau. Er y wybodaeth, roedd y swyddogion o’r farn bod creu elfennau
parhaol eraill ar y safle trwy
gydol yr amser sef cysylltiadau trydan/dŵr/carthffosiaeth i’r pedair pabell
unigol yn ogystal â’r sylfaen
garreg o dan adeilad y ‘sauna’ sydd yn groes i
faen prawf 3 o bolisi TWR 5. Roedd y swyddogion hefyd yn cwestiynu pa mor ymarferol
fyddai datgymalu’r pebyll a’r offer cysylltiedig (sef ystafell ymolchi a chegin) a’u tynnu
yn gyfan gwbl o’u lle
ar ddiwedd tymor.
Yn ogystal, mae rhan
o baragraff 6.3.85 o eglurhad
polisi TWR 5 yn nodi “Dim ond cyfleusterau sylfaenol ar gyfer cysgu,
eistedd a bwyta y dylent eu darparu,
ac ni ddylid gosod gwasanaethau dŵr neu ddarpariaeth
draenio ar gyfer toiledau, cawodydd ac ymolchi ynddynt. Mae hyn yn sicrhau nad yw’r strwythurau yn dod yn ddigon
parhaol i gynyddu lefel yr
effaith ar y dirwedd neu effaith
adfer y safle pe bai angen
symud y strwythurau”. Ni ystyrir fod
y bwriad i osod cysylltiadau trydan, dŵr a charthffosiaeth a sylfaen garreg ar ddechrau
tymor gwyliau ac yna eu codi
ar ddiwedd y tymor yn cwrdd
gyda gofynion maen prawf 3 o Bolisi TWR 5 na’r eglurhad iddo ac o’r farn bod rhaid rhoi ystyriaeth
i ofynion perthnasol polisi TWR 3 sy’n ymwneud gyda
‘Safleoedd carafanau sefydlog a siale a llety gwersylla amgen’.
Rhoddwyd ystyriaeth i ofynion perthnasol
polisi TWR 3 sydd yn datgan “gwrthodir
cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau sefydlog newydd (h.y. carafán
sengl neu ddwbl), safleoedd siale gwyliau newydd
neu lety gwersylla amgen parhaol yn…Ardaloedd
Tirwedd Arbennig”. Nodwyd nad
yw polisi TWR 3 yn caniatáu datblygu
safle llety gwersylla amgen parhaol ar safleoedd
oddi mewn i Ardaloedd Tirwedd
Arbennig. Gan ystyried fod y bwriad yn un
i greu safle
parhaol newydd, nid yw’n cydymffurfio
gyda gofynion sylfaenol polisi TWR 3 o safbwynt creu safleoedd
newydd oddi mewn i Ardal
Tirwedd Arbennig.
Yng nghyd-destun materion llifogydd, amlygwyd bod yr unig fynedfa at safle’r cais wedi
ei leoli o fewn Parth Llifogydd
C2. Nodwyd nad
oedd hyn wedi ei amlygu
yn gywir yn y cais blaenorol
o wrthodwyd. Eglurwyd fod y cynlluniau diwygiedig a gyflwynwyd y bore hwnnw yn tynnu’r
fynedfa allan
o’r llinell goch sy’n dangos
safle’r cais ond nad yw
hynny yn newid y sefyllfa. Eglurwyd bod Nodyn Cyngor Technegol 15 yn datgan mai
dim ond datblygiad a ddiffinnir yn llai agored i
niwed ddylai gael ei ystyried yn addas
o fewn ardaloedd parth C2. Yn yr achos yma,
ystyriwyd bod y bwriad arfaethedig yn disgyn o fewn y diffiniad o ddefnydd sydd yn ‘agored
iawn i niwed’
ac felly, gan fod rhan o’r safle
o fewn parth C2, ni ellid cefnogi’r
bwriad ar sail risg llifogydd a’r bwriad felly yn methu cydymffurfio
gyda gofynion perthnasol NCT 15 na rhan 4 o Bolisi Strategol 6.
O ystyried yr holl faterion
cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau
a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd fod y bwriad yn
annerbyniol gan ei fod yn
methu bodloni gofynion y polisïau perthnasol.
b) Cynigiwyd ac eiliwyd
i wrthod y cais yn unol
â’r argymhelliad
c) Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â chais tebyg a gafodd ei ganiatáu yn
Llanengan yn dilyn apêl, nododd
y Rheolwr Cynllunio nad oedd cymhariaeth
rhwng y ddau gais ac nad oedd
costau yn erbyn y Cyngor o ganlyniad i’r apêl.
ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan
aelodau:
·
Pryder
nad oedd
gan yr Uned
Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r cais o ystyried
bod lonydd cul iawn yn yr
ardal dan sylw ac yn anaddas
ar gyfer ymdopi gyda chynnydd
mewn trafnidiaeth i mewn ac allan
o’r safle.
PENDERFYNWYD
gwrthod – rhesymau
1.
Mae’r bwriad yn golygu
creu safle llety gwersylla amgen sefydlog newydd gydag elfennau
parhaol oddi fewn i Ardal
Tirwedd Arbennig. Nid yw polisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn yn caniatáu datblygu safleoedd llety gwersylla amgen sefydlog newydd oddi fewn
i Ardaloedd Tirwedd Arbennig. Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion
polisi TWR 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017).
2.
Mae’r bwriad yn golygu
sefydlu safle gwyliau glampio newydd yng nghefn
gwlad agored ac ymhell tu allan i unrhyw
ffin ddatblygu mewn lleoliad anghynaladwy
ble byddai’r mwyafrif o’r ymwelwyr
yn ddibynnol ar ddefnyddio eu
cerbydau preifat. Ystyrir felly fod y bwriad yn
gwrthdaro â gofynion rhan 12 o bolisi PS5 o’r Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf
2017).
3.
Mae maen prawf 7 o bolisi PCYFF 2 yn datgan y gwrthodir cynigion os fyddant
yn cael effaith
andwyol sylweddol ar fwynderau meddianwyr
eiddo lleol oherwydd mwy o weithgareddau, aflonyddwch, sŵn neu ffurfiau
eraill o aflonyddwch. Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol o’r farn
fod y bwriad yn debygol o arwain
at aflonyddu annerbyniol ar fwynderau tai
lleol ag y byddai trwy hynny yn
groes i ofynion
polisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017).
4.
Mae gofynion cyffredinol polisïau PCYFF 3 a PCYFF 4 yn nodi y bydd disgwyl
i ddatblygiadau barchu cyd-destun safle a'i le yn
y dirwedd ac yn integreiddio gyda'r hyn sydd o gwmpas. Credir fod y bwriad ar
sail presenoldeb ffurf a graddfa’r pebyll yn nodweddion annerbyniol
sydd yn groes
i ofynion perthnasol meini prawf 1 a 2 o bolisi PCYFF 3 yn ogystal â meini
prawf 3 a 4 o bolisi PCYFF
4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (Gorffennaf 2017).
5. Mae bwriad arfaethedig yn ymwneud gyda defnydd
tir sydd yn cael ei
ystyried i fod yn un
‘agored iawn i niwed’ (highly vulnerable) ac mae rhan o’r
safle o fewn parth llifogydd C2. O ganlyniad, mae’r bwriad yn
groes i ofynion NCT 15: Datblygu
a Pherygl o Lifogydd a rhan 4 o PS 6 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn.
Dogfennau ategol: