Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad a
ystyriwyd gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr, 2019, yn ceisio
cymeradwyaeth i’r ymateb drafft a baratowyd ar ran y Cyngor i’r Ymgynghoriad ar
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) – Tachwedd 2019.
Nodwyd bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r ymateb drafft er ei gyflwyno i’r
Cyngor Llawn am gymeradwyaeth.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Cytunwyd â’r sylw nad
oes angen haen arall o lywodraeth ac mai cydweithio gwirfoddol yw'r ffordd
ymlaen.
·
Nodwyd bod yr ail bwynt bwled yn y bocs “RHAN 1 -
ETHOLIADAU” ym mharagraff 11 o’r ymateb yn amwys gan ei fod yn cyfeirio’n gyntaf
at gefnogi’r cysyniad o ddefnyddio system pleidlais sengl drosglwyddadwy, ond
yn datgan wedyn bod y Cyngor hwn yn ffafrio wardiau un aelod. I’r diben hwnnw, awgrymwyd diwygio’r
paragraff i nodi bod y Cyngor yn cefnogi’r cysyniad o ddefnyddio system
pleidlais sengl drosglwyddadwy, ond os cedwir system cyntaf i’r felin, bod y
Cyngor yn cefnogi wardiau un aelod gan mai hyn sy’n darparu’r cyswllt cryfaf
â’r gymuned. Mewn ymateb, nodwyd mai’r
neges a drosglwyddwyd i’r Comisiwn Ffiniau oedd bod y Cyngor hwn yn ffafrio
wardiau un aelod. Petai’r dull
pleidleisio yn parhau fel y mae, dyna fyddai’r Cyngor yn gefnogi, a gellid
addasu’r ymateb i adlewyrchu hynny.
·
Nodwyd bod y Cyngor yn parhau i ddisgwyl clywed yn ôl
gan y Comisiwn Ffiniau yn sgil cyflwyno’r ymateb i’w cynigion a bod aneglurder
yn parhau, yn arbennig mewn perthynas â wardiau Bangor a rhai ardaloedd o Ben
Llŷn. Mewn ymateb, nodwyd bod y
mater yn dal yn nwylo’r Gweinidog.
Eglurwyd hefyd, petai’r Bil yn dod yn ddeddfwriaeth cyn etholiadau nesaf
y cynghorau sir, a nifer yr etholwyr yn cynyddu o ganlyniad i gynnwys pobl
ifanc 16 ac 17 oed, y gallai hynny newid beth bynnag fo ystyriaethau’r Comisiwn
Ffiniau. Nodwyd ymhellach bod y Bil yn
darparu ar gyfer wardiau un aelod, a phetai hynny’n dod yn ddeddf, mae’n debyg
y byddai’n rhaid ail-edrych ar gynigion y Comisiwn, gan eu bod yn cynnwys
wardiau dau aelod ac felly’n anghydnaws â’r ddeddf. Ar sail hynny, ni chredid bod budd mewn gofyn
i’r Gweinidog am benderfyniad buan ar yr ymateb i gynigion y Comisiwn oherwydd
y gallai’r ddeddfwriaeth newydd, maes o law, wyrdroi rhai o’r materion nad oedd
y Cyngor yn cyd-fynd â hwy yng nghynigion y Comisiwn Ffiniau. Nodwyd ymhellach ei bod yn dechnegol bosib’
cael system pleidlais sengl trosglwyddadwy mewn wardiau un aelod hefyd, er na
fyddai hynny’n cyflawni bwriad y system, sef adlewyrchu’r ganran o bobl sy’n
pleidleisio dros bob plaid.
·
Nodwyd na fyddai
system pleidlais sengl trosglwyddadwy mewn wardiau un aelod yn arbennig o
gyfrannol, ac y byddai’n rhaid cael wardiau 3-4 aelod iddo fod yn wir
gyfrannol. Mewn ymateb, eglurwyd bod y
system pleidlais sengl trosglwyddadwy mewn ward un aelod yn sicrhau yn y pen
draw bod mwyafrif etholwyr y ward honno yn gefnogol i’r sawl sy’n cael ei
ethol. Cydnabyddid, fodd bynnag, os yw
plaid yn ennill canran neilltuol o’r bleidlais drwy Wynedd i gyd, na fyddai
hynny’n sicrhau bod ganddynt yr un ganran o seddi ar y Cyngor. I hynny ddigwydd, byddai’n rhaid cael wardiau
aml-aelod. Awgrymwyd bod angen cael
golwg pellach ar hyn, ac addasu pe gwelir bod angen gwneud hynny er sicrhau
cysondeb yr ymatebion.
·
Mynegwyd cefnogaeth
i’r ymateb drafft, yn amodol ar y cyngor a roddwyd gan fod hyn yn effeithio ar
wardiau gwahanol mewn ardaloedd gwahanol.
·
Awgrymwyd bod angen
wardiau mwy o ran maint a mwy o gyflog i bobl wneud y gwaith yn llawn amser.
PENDERFYNWYD
(a)
Cymeradwyo’r ymateb drafft i’r ymgynghoriad ar y Bil.
(b)
Dirprwyo’r hawl i’r Arweinydd i
ymateb ar ran y Cyngor gan addasu'r ddogfen ddrafft i adlewyrchu sylwadau’r
Cyngor.
Dogfennau ategol: