Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

 

 

Cynhelir sesiwn anffurfiol ar gyfer yr aelodau ar derfyn y cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc yn rhoi diweddariad i’r pwyllgor craffu ar gynnydd blwyddyn gyntaf yr ail-fodelu.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan egluro bod y blaen adroddiad yn adrodd y naratif, sef hanes y daith, tra bo’r atodiad, sef y rhan pwysicaf yn ei dŷb ef, yn manylu ar yr hyn oedd wedi digwydd yn ystod blwyddyn gyntaf yr ail-fodelu, h.y. beth oedd wedi mynd yn dda a beth oedd ddim wedi mynd cystal.  Eglurodd mai’r prif gasgliad oedd bod y rhaglen waith wedi’i chwblhau, ond bod y gwasanaeth yn parhau ar daith hir sy’n newid yn gyson.  Roedd y daith honno, yn ogystal â chael ei llywio gan ddeddfwriaeth, yn cael ei llywio gan bobl ifanc Gwynedd hefyd, ac roedd hynny’n greiddiol i’r holl daith.  Nododd ymhellach mai un o’r problemau mwyaf oedd yr heriau o ran recriwtio staff, yn arbennig gweithwyr yn y clybiau cymunedol.  O ran yr asesiad effaith o’r newid, roedd yr adroddiad yn amlygu nad oedd effaith negyddol wedi ei adnabod.  Roedd llawer o waith yn mynd ymlaen gyda grwpiau megis yr Urdd a nifer o fudiadau eraill yn y trydydd sector, e.e. Fran Wen, ac roedd y bartneriaeth gyda’r mudiadau hynny yn datblygu o ddydd i ddydd.  Nododd hefyd bod ymgorffori’r Gwasanaeth Ieuenctid o fewn yr Adran Plant a Theuluoedd wedi agor llawer o ddrysau i’r gwasanaeth, oedd bellach yn cydweithio llawer mwy gydag adrannau eraill o fewn y Cyngor, ynghyd ag asiantaethau eraill sy’n ymwneud â lles bobl ifanc.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Gan gyfeirio at baragraff 3.9 o’r adroddiad, tynnwyd sylw gan aelod at y ffaith bod clwb wedi’i sefydlu ym Mryncrug bellach.

·         Mewn ymateb i gais gan yr aelod lleol am gymorth y gwasanaeth i ddod o hyd i leoliad addas ar gyfer Clwb Ieuenctid Penygroes, nodwyd bod y gwasanaeth yn ymwybodol o’r heriau ac yn barod iawn i gefnogi.  Roedd trafodaethau eisoes wedi’u cynnal gyda’r Adran Addysg, ayb, ac roedd bwriad i geisio cynnal trafodaethau pellach, e.e. gyda’r Ganolfan Byw’n Iach.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y broblem recriwtio staff yn y clybiau cymunedol yn deillio o’r ffaith na allai’r clybiau gynnig digon o oriau i wneud y swyddi’n rhai llawn-amser, na thebyg i hynny.  Hefyd, roedd yn ymddangos nad oedd natur y gwaith yn denu nifer uchel o ymgeiswyr am y swyddi.

·         O ran niferoedd, eglurwyd bod angen dau aelod o staff ymhob clwb, ond yr anelid am dri ymhob lleoliad, rhag gorfod cau’r clwb am noson oherwydd salwch.  Mewn achosion o’r fath, ceisid cael rhywun o Glwb Ieuenctid Gwynedd i lenwi’r bwlch, ond nid oeddent ar gael bob amser gan eu bod wedi trefnu gweithgareddau eraill.

·         O ran y ddarpariaeth ym Mhwllheli, eglurwyd, fel mannau eraill, bod y model newydd yn ymweld â’r dref i gynnal gweithgareddau am gyfnod.  Y bobl ifanc eu hunain oedd yn dewis y gweithgareddau.  Roedd rhai o’r clybiau cymuned wedi gweld yr hyn oedd yn cael ei gynnig yn eu cymunedau gan Glwb Ieuenctid Gwynedd ac wedi penderfynu bod hynny’n ddigonol.  Roedd yn ymddangos hefyd bod pobl ifanc yn barod iawn i deithio i’r clybiau ac roedd y gwasanaeth wedi prynu dau gerbyd i gludo pobl ifanc oedd yn cael anhawster teithio, er y cydnabyddid bod hynny ymhell o fod yn ddigon.  Hefyd, roedd y gwasanaeth newydd yn ymweld â chymunedau lle nad oedd unrhyw weithgarwch yn digwydd cynt.  .

·         Awgrymwyd y dylai’r gwasanaeth gysylltu â’r aelodau lleol i roi gwybod iddynt am yr hyn sy’n digwydd yn eu wardiau fel y gallent hybu’r digwyddiadau a mynychu rhai o’r nosweithiau i gymdeithasu gyda’r bobl ifanc pe dymunent.  Mewn ymateb, cytunwyd bod y syniad o gyswllt gyda’r aelod lleol yn beth da ac awgrymwyd y dylai’r gwasanaeth wneud darn o waith ar hynny.

·         Mynegwyd y farn bod yr adroddiad yn cyfleu byd Iwtopaidd iawn, ond nid oedd cyfeiriad ynddo at sylwadau Swyddfa Archwilio Cymru yn eu adroddiad fis Medi y llynedd, oedd yn codi cwestiynau ynglŷn â’r dull o weithredu’r gwasanaeth ar ei newydd wedd.  Roedd yr adroddiad yn nodi nad oedd y gwasanaeth yn cydymffurfio â’r Ddeddf Llesiant, nac hyd yn oed yn cydymffurfio ag egwyddorion Ffordd Gwynedd.  Er bod yr adroddiad gerbron y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn nodi bod trafodaethau pellach yn digwydd gyda’r Arolygiaeth, nid oedd cyfeiriad at hynny na chanlyniadau’r trafodaethau yn yr adroddiad i’r pwyllgor hwn.  Mewn ymateb, nodwyd nad oedd y gwasanaeth yn honni eu bod wedi cyrraedd y lle perffaith.  Roedd wedi bod yn gyfnod heriol iawn i staff y gwasanaeth ac roeddent yn cydnabod eu bod yn parhau ar daith gyda’r llwybr yn newid o hyd.  O ran yr adroddiad, nodwyd na dderbyniwyd ymateb swyddogol gan yr Arolygiaeth Gofal i’r her a wnaethpwyd.  Pwysleisiwyd nad oedd yr Arolygiaeth wedi edrych ar y gwasanaeth o safbwynt yr hyn oedd yn cael ei gyflawni i bobl ifanc, ond yn hytrach o safbwynt pa ystyriaeth a roddwyd i’r Ddeddf Llesiant wrth ail-fodelu’r gwasanaeth.  Eglurwyd bod symudiadau mawr mewn lle i gywiro hynny, a chan fod y Gwasanaeth Ieuenctid bellach yn rhan o’r Gwasanaeth Plant, roedd y Ddeddf Llesiant yn uchel iawn ar eu rhestr o flaenoriaethau. 

·         Croesawyd y bartneriaeth gydag asiantaethau eraill a holwyd oedd yna ffyrdd mwy creadigol o gydweithio gyda’r asiantaethau hynny er mwyn denu staff.  Mewn ymateb, nodwyd bod y gwasanaeth yn ymwybodol o’r heriau a’u bod yn edrych ar bob ffordd bosib’ o ddenu pobl.  Yn amlwg, roedd gofynion iechyd a diogelwch a diogelu data, ac ati, yn ychwanegu at yr her.

·         Nododd aelod yr hoffai glywed mwy am y sefyllfa ym Mangor, e.e. oedd yna gydweithio gyda’r ysgolion, ac os felly, pa ysgolion yn benodol?  Mewn ymateb, nodwyd y gellid anfon rhaglen gyffredinol o’r gweithgareddau i’r aelodau fel eu bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn eu hardaloedd.

·         Awgrymwyd sefydlu grŵp tasg a gorffen i gynorthwyo’r gwasanaeth i wireddu rhai o’r amcanion.  Nodwyd bod hyn yn fater i’w godi yn y cyfarfod anffurfiol ar derfyn y pwyllgor hwn.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd mai’r gweithwyr ieuenctid sy’n trefnu a thalu am leoliadau ar gyfer gweithgareddau sy’n cael eu prynu gan wasanaeth Gwynedd, a phwysleisiwyd bod cymorth yr aelod lleol yn bwysig iawn yn hyn o beth.

·         Mewn ymateb i sylw, cytunwyd bod ymgysylltu gyda’r bobl ifanc hynny nad ydynt yn defnyddio’r gwasanaeth yn her, ond mai swyddogaeth y gweithiwr cymuned proffesiynol oedd holi i weld beth yw dymuniadau’r bobl ifanc.  Roedd yr ysgolion yn gefnogol iawn hefyd o safbwynt ymgysylltu gyda’r bobl ifanc ac roedd hynny’n cyplysu gyda’r gwaith o dracio pobl ifanc NEETS (sef y rhai nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant).  Nodwyd hefyd bod y gweithwyr ieuenctid yn barod i drefnu unrhyw beth os oedd cohort o bobl ifanc yn dod atynt.

·         Mewn ymateb i gwestiwn, nododd yr Aelod Cabinet ei fod yn fodlon bod y gwasanaeth yn gyson ar draws y sir a bod yr un cyfleoedd ar gael i bobl ifanc ym mhobman.  Gan fod hwn yn wasanaeth teithiol, roedd yn mynd i bob math o lefydd bychan ac yn cyrraedd pobl ifanc yn y cymunedau gwledig nad oedd modd eu cyrraedd yn flaenorol.

·         Mynegwyd siomedigaeth na lwyddwyd i sefydlu clwb ym Mhorthmadog.  Mewn ymateb, nodwyd bod y gwasanaeth a Chyngor Tref Porthmadog wedi gwneud ymdrech lew i sefydlu clwb yn y dref, ond na lwyddwyd i gael staff i’w redeg. 

·         Awgrymwyd y dylai’r gwasanaeth ryddhau Digwyddiadur Misol, yn hytrach na’r un wythnosol oedd yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd, gan y byddai hynny’n ei gwneud yn haws i’r bobl ifanc gynllunio ymlaen llaw.

·         Nodwyd bod y gwasanaeth yn gweithio mewn amgylchedd o doriadau a holwyd a edrychwyd ar ymarfer gorau mewn cynghorau / mudiadau eraill, ac a fu hynny’n llwyddiannus.  Mewn ymateb, nodwyd bod yna broses barhaus o edrych ar drefniadau mewn mannau eraill, ond yn sgil gorfod ail-fodelu’r gwasanaeth yng Ngwynedd yn 2018, credid bod gwasanaethau ieuenctid ar draws Cymru yn edrych ar drefniadau’r Cyngor hwn bellach.  Hyderid y byddai’r gwasanaeth yng Ngwynedd yn parhau i newid ac yn parhau i ymateb i’r heriau.

·         Holwyd a oedd yna gynlluniau i ymestyn y Siarter Iaith i glybiau ieuenctid.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr holl weithwyr ieuenctid yn arwain y gweithgareddau yn Gymraeg, ond bod y pwynt o fabwysiadu’r Siarter Iaith yn rhywbeth y dylai’r gwasanaeth edrych arno.

·         Nodwyd ei bod yn bwysig cadw mewn cof wrth ddarparu’r gwasanaeth fod y Cynulliad wedi pleidleisio i ostwng yr oedran pleidleisio yng Nghymru i 16 oed.  Mewn ymateb, cytunwyd bod hynny’n amserol, a nodwyd bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn edrych ar hyn.  Nodwyd hefyd y sefydlwyd cynllun peilot yn Y Bala lle'r oedd y swyddogion yn mynd i’r ysgol uwchradd i gychwyn y drafodaeth gyda’r bobl ifanc, nid yn unig y rhai fyddai’n pleidleisio, ond y rhai ieuengaf hefyd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Cabinet a’r Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid am yr adroddiad gan grynhoi prif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Mae recriwtio gweithwyr wedi bod, ac yn parhau, yn broblem amlwg.

·         Mae angen sicrhau gwell cyswllt gydag aelodau lleol fel y gallent fod yn fodd o hyrwyddo’r gwasanaeth.

·         Dylid cyhoeddi’r Digwyddiadur yn fisol, yn hytrach nag yn wythnosol.

·         Dylai’r gwasanaeth edrych ar fabwysiadu’r Siarter Iaith.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r pwyllgor am y gefnogaeth a’r drafodaeth, ac estynnodd wahoddiad i’r aelodau gysylltu gydag unrhyw sylwadau neu syniadau pellach.

 

Dogfennau ategol: