Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan
Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd diweddariad ar y Fframwaith
Maethu Cenedlaethol oedd yn cynnwys gwybodaeth lawn a swmpus ar ofynion y
Fframwaith ynghyd a’r bwriad o ddatblygu’r Fframwaith yn genedlaethol a
rhanbarthol. Cyfeiriwyd at y prif ffrydiau gwaith sydd yn gysylltiedig â
rhaglen waith y Fframwaith ynghyd a’r blaenoriaethau rhanbarthol. Yn ychwanegol
i’r blaenoriaethu rhanbarthol adroddwyd bod y Gwasanaeth yng Ngwynedd yn
adolygu ei strwythur mewn ymateb i ofynion y Gwasanaeth ar geisio cael gwell
cydbwysedd wrth asesu a chefnogi gofalwyr maeth carennydd a gofalwyr maeth
cyffredinol.
Anogwyd yr Aelodau i fynychu dyddiau gweithgareddau i rieni maeth sydd
wedi eu trefnu ar y cyd rhwng y Cyngor a’r Bartneriaeth Rhieni Maeth er mwyn
craffu’r berthynas a cheisio gwell dealltwriaeth o’r gwaith.
Diolchwyd am y wybodaeth a llongyfarchwyd
y staff ar eu gwaith caled o fewn maes pwysig iawn
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
canlynol gan Aelodau:-
·
Pryder
diffyg cefnogaeth gan Llywodraeth Cymru i ariannu’r angen
·
Bod
rhagweld yr angen am 180 o ofalwyr maeth cyffredinol newydd dros y 3 blynedd
nesaf yn uchelgeisiol
·
Angen
marchnata yn well – rhai awdurdodau yn fwy arloesol nac eraill
·
Pryder
y bydd y sector breifat yn cael mwy o ddylanwad
·
Angen
sicrhau bod plant sydd yn siarad Cymraeg yn cael eu lleoli gyda theuluoedd Cymraeg
·
Bod yr
adroddiad yn rhy gyffredinol –angen mwy o wybodaeth am y sefyllfa yng Ngwynedd
·
Pryder
os bydd dau dîm yn cael ei sefydlu y byddai rhai materion yn disgyn ‘rhwng dwy
stôl’
·
Pryder
bod pobl yn tynnu allan o’r broses oherwydd bod y broses yn rhy gymhleth ac
anodd - awgrym i holi’r Maethwyr sydd yn tynnu allan am resymau
Mewn ymateb i gwestiwn am y gwaith
ychwanegol sydd wedi ei greu drwy ddyfodiad y rhaglen waith cenedlaethol,
nodwyd bod cydweithio cadarnhaol rhanbarthol eisoes yn bodoli ar draws y
rhanbarthau ac nad oedd gymaint o symudiad / addasiadau oherwydd hyn.
Mewn ymateb i sylw pam bod pobl yn tynnu
allan o’r broses, amlygwyd bod y rhesymau yn amrywio ond y mwyafrif oherwydd
newid mewn amgylchiadau personol yn hytrach nag anfodlonrwydd gyda'r
Gwasanaeth. Mynegwyd bod rhaid sicrhau proses gadarn gyda rheolau a chanllawiau
diogel; y gofynion a’r meini prawf yn uchel oherwydd natur y maes.
Ategwyd bod ail frandio’r Gwasanaeth ar
draws Cymru i ddenu pobl i mewn i’r Gwasanaeth yn un o brif ffrydiau gwaith y
Fframwaith. Nodwyd bod cais i’r Llywodraeth am arian ychwanegol i frandio a
recriwtio yng Ngwynedd wedi ei gyflwyno. Yn draddodiadol, nid oedd marchnata yn
rhan o ofynion swydd o fewn model maethu Gwynedd ond erbyn hyn, y Gwasanaeth yn
hyderus y byddai sefydlu swydd benodol ar gyfer marchnata a recriwtio yn
welliant sylweddol.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r angen am
180 o ofalwyr maeth cyffredinol ychwanegol, newydd dros y 3 blynedd nesaf,
amlygwyd bod y ffigwr yma un rhanbarthol a bod Gwynedd yn rhagweld yr angen am
30 o ofalwyr dros y tair blynedd nesaf. Er derbyn bod hyn yn uchelgeisiol,
pwysleisiwyd yr angen i sicrhau rhaglen waith i Wynedd ar yr hyn sydd ei angen.
Mewn ymateb i bryder o rannu'r tîm maethu yn
ddau, pwysleisiwyd nad oedd bwriad rhannu’r tîm. Rhannu swyddogaethau oedd dan
sylw fel bod un tîm yn canolbwyntio ar
ofalwyr maeth cyffredinol a’r tîm arall yn canolbwyntio ar ofalwyr maeth
carennydd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad
·
Angen diweddariad ymhen 12 mis ar yr elfen
farchnata
·
Angen
diweddariad ymhen 12 mis ar lwyddiannau / methiannau rhannu swyddogaethau’r tîm
maethu
·
Cais am adroddiad yn egluro sut mae gwaith
Gwynedd yn gwau i mewn i waith rhanbarthol (llwyddiannau a methiannau)
Dogfennau ategol: