Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad dementia er gwybodaeth
ac i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr dementia gan roi trosolwg i aelodau o’r hyn
sydd ar waith yng Ngwynedd i sicrhau cefnogaeth a gwasanaethau i unigolion sydd
yn byw gyda dementia. Yn 2015 roedd gan 1,927 o bobl 65 oed a throsodd dementia
yng Ngwynedd. Erbyn 2035 rhagwelir y bydd 2,923 o bobl Gwynedd efo dementia.
Nodwyd yn yr adroddiad ei fod yn anodd cael data cywir ynghylch gwir nifer yr
unigolion sydd yn byw gyda dementia neu amhariad ar y cof yng Ngwynedd gan fod
nifer fawr sydd yn dod i’n sylw ddim wedi derbyn asesiad na diagnosis
swyddogol. Datganwyd yn yr adroddiad mai’r weledigaeth yw darparu gwybodaeth,
cyngor a chymorth amserol i unigolion â dementia yng Ngwynedd. Nodwyd bod ystod
o gefnogaeth ar gael i unigolion sydd â diagnosis o ddementia sydd yn amrywio o
wybodaeth a chefnogaeth gymunedol yn ystod arwyddion cynnar o’r clefyd,
gwasanaethau prif lif megis gwasanaethau gofal cartref a gofal dydd i ofal
arbenigol dwys ar gyfer cyfnodau olaf y salwch. Nodwyd bod y Cyngor yn awyddus
i sicrhau fod pobl gyda dementia yn derbyn y gofal mwyaf addas mor lleol ag
sy’n bosib.
Datganwyd yr adroddiad y bydd Cyngor Gwynedd
yn parhau i ymrwymo i gyflawni gofynion Cynllun Gweithredu Cymru ar Gyfer
Dementia trwy gydweithio gydag unigolion, eu teuluoedd, a’n partneriaid yn y
trydydd sector a’r Bwrdd Iechyd. Nodwyd bod y gwasanaethau yn ddibynnol ar
arian dros dro i gefnogi nifer fawr o’r datblygiadau yn y ddarpariaeth gofal i
unigolion a dementia. Nodwyd fel rhan o broses bidio blwyddyn ddiwethaf, bod yr
adran wedi cyflwyno cais ar gyfer pontio bwlch Cynllun Dementia Go a’r her yw
sicrhau arian hir dymor i sicrhau cynaladwyedd a datblygiad pellach y gwasanaeth
hwn.
Ymhelaethodd yr aelod Cabinet a’r swyddogion
ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau a sylwadau gan yr
aelodau. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol:
·
Diolchwyd
i’r aelod Cabinet a’r swyddogion am yr adroddiad. Nodwyd ei fod yn anodd craffu
popeth o fewn yr adroddiad o fewn un sesiwn a nodwyd y gellid adnabod maes
penodol o dan y teitl dementia er mwyn ei graffu mewn dyfnder os oes angen.
·
Cydymdeimlwyd
gyda’r bobl sy’n byw efo dementia neu sy’n gofalu am bobl efo dementia a
chydnabuwyd ei fod yn broblem sy’n effeithio mwyfwy o bobl o fewn ein
cymunedau. Nodwyd bod nifer o deuluoedd yn wynebu sefyllfa anodd o fethu gofalu
am berson sy’n byw efo dementia ac yn gorfod dibynnu ar wasanaeth gofal.
·
Codwyd
pryder am ffioedd cartrefi preswyl a nyrsio, yn enwedig y ffioedd ychwanegol o
fewn y gwasanaeth y mae disgwyl i bobl dalu, gan nodi bod y ffioedd yn
gyffredinol tu hwnt i allu rhai pobl eu fforddio. Cydnabuwyd bod hwn yn fater
sy’n gysylltiedig â'r adroddiad dementia a’i fod yn fater gynyddol broblemus.
Nodwyd ei fod yn adlewyrchiad o’r sefyllfa gyffredinol ar draws y sector gofal.
Cadarnhawyd bod y cyngor yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn edrych ar ffioedd
cynaliadwy, ond nodwyd mai nid y Cyngor yw’r unig gomisiynwyr o fewn y maes ac
felly hyd nes y bydd y sefyllfa yn ei gyfanrwydd yn cael sylw bydd yn anodd
datrys y sefyllfa.
·
Pwysleisiwyd
mai, ym marn yr aelod, mater i’r Bwrdd Iechyd yw dementia. Nodwyd bod angen, gydag arweiniad gan y
Llywodraeth, i’r Bwrdd Iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol gydweithio er mwyn
mynd i’r afael â’r broblem o ddementia a ni fydd posib datrys y broblem hyd nes
i’r cydweithio yma ddigwydd.
·
Mewn
ymateb i sylwadau’r aelodau, nodwyd bod unigolion yn aml yn cyrraedd drws y
Cyngor pan mae eu cyflwr wedi dirywio i bwynt argyfwng ac mai gofal
traddodiadol mewn cartrefi gofal yw’r ateb priodol bryd hynny. Nodwyd bod nifer
o bobl yn ein cymunedau ar hyn o bryd yn byw gyda symptomau cynnar dementia ond
heb dderbyn diagnosis. Pwysleisiwyd bod angen gwella’r dulliau o ddarparu
gwybodaeth ynghylch y gwasanaethau a’r ddarpariaeth sydd ar gael gan y Cyngor a
sectorau eraill er mwyn cyrraedd pobl yn gynt a’u cefnogi ar hyd y llwybr gofal
cyn cyrraedd cartref gofal ar bwynt argyfwng. Mae anghenion darpariaeth
dementia yn golygu bod yna ystod eang o gefnogaeth ar gael drwy’r system ofal
gan y Cyngor, y trydydd sector, a’r Bwrdd Iechyd. Yn ogystal â hyn, nodwyd bod
cryfhau’r gefnogaeth i ofalwyr yn flaenoriaeth a bod yr adran wedi penodi aelod
staff i edrych ar y maes penodol hwn.
·
Mewn
ymateb i gwestiwn am unedau cymar o fewn cartrefi gofal dementia, esboniwyd nad
oedd yr unedau penodol yma ar gael o fewn gwasanaethau’r Cyngor ond ei fod yn
bosib gwneud trefniadau i gyplau gael eu cydleoli yn yr un cartref. Mae unedau
o’r math ar gael mewn rhai cartrefi gofal eraill.
·
Mewn
ymateb i gwestiwn am y berthynas gyda’r Adran Tai ac Eiddo, cadarnhawyd eu bod
wedi cydweithio’n agos a bod y cynlluniau yn adroddiad yr Adran Tai ac Eiddo a
gyflwynwyd yn yr eitem flaenorol yn adlewyrchu mewnbwn ac awgrymiadau’r Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant. Mae’r cynlluniau gofal o fewn y cynllun tai wedi
deillio o’r anghenion adnabuwyd gan yr Adran Oedolion a’r Adran Plant.
Trafodwyd Frondeg yng Nghaernarfon a Hwb Iechyd Penygroes yn benodol. Nodwyd
bod y rhaglen o ddatblygiadau yn un tymor hir er mwyn diwallu’r anghenion sy’n
cynyddu’n flynyddol.
·
Mewn
ymateb i sylwadau’r aelodau am ddiffyg darpariaeth gofal sector breifat yn ne
Meirionydd, nodwyd bod angen edrych ar beth sy’n bosib i’r Cyngor gynnig i
lenwi bwlch ac eglurwyd bod buddsoddiad y Cyngor yn y cartrefi yn yr ardal yno
yn adlewyrchiad o hynny.
·
Cytunwyd,
mewn ymateb i gais gan yr aelodau, i baratoi taflen gryno erbyn y cyfarfod
nesaf sydd yn amlinellu darlun o’r gwasanaeth gyda gwybodaeth a ffigyrau am
niferoedd o wlâu, niferoedd o staff, hyd rhestrau aros, ac yn y blaen.
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: