Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Craig ab Iago
Ystyried
adroddiad ar yr uchod (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad Cynllun Gweithredu Tai 2020 i 2025 gan yr aelod Cabinet a’r pennaeth
Adran Tai ac Eiddo. Diben yr adroddiad hwn oedd diweddaru’r Pwyllgor Craffu
Gofal o’r gwaith sydd ar droed i ddatblygu datrysiadau penodol i’r heriau tai
sy’n wynebu trigolion Gwynedd er mwyn ymgynghori â’r Pwyllgor cyn i’r rhaglen
wariant arfaethedig gael ei gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth y Cabinet yn
ddiweddarach ym mis Mawrth eleni. Eglurwyd yn yr adroddiad y prif heriau tai
yng Ngwynedd, yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer y cynllun tai 2020-2025, a’r
rhestr hir o gynlluniau sydd angen eu blaenoriaethu. Pwysleisiwyd mai cam
cynnar yn y broses yw hon a’u bod yma i wrando ar fewnbwn a blaenoriaethau
aelodau’r Pwyllgor er mwyn cychwyn troi strategaeth tai’r Cyngor mewn i gynllun
gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Trafodwyd yr
arian sydd ar gael i gyflawni’r cynlluniau yma gan dynnu sylw penodol at y
ffynhonnell incwm o dreth Cyngor ar ail gartrefi a thai gwag. Nodwyd, mewn
ymateb i gwestiwn gan yr aelodau, bod y ffigwr yn yr adroddiad o’r incwm a
ddisgwylir gael o’r dreth yma yn un rhesymol. Amcangyfrifwyd y bydd £2.7m y
flwyddyn yn cael ei gasglu o’r dreth yma ond nodwyd yn y flwyddyn gyntaf fe gasglwyd
£2.9m. Trafodwyd yr her o bobl yn defnyddio ffyrdd i osgoi talu’r dreth yma,
megis drwy gofrestru’r tŷ fel busnes, gan nodi bod yna drafodaethau wrth
law gyda’r Llywodraeth ynglŷn â sicrhau nad yw pobl yn osgoi talu’r hyn
sy’n ofynnol arnynt. Esboniwyd hefyd bod gan y Cyngor y gallu i gael
benthyciadau ar raddfa ratach na chymdeithasau tai os yw’r Cyngor yn penderfynu
bod angen mwy o arian i gefnogi’r cynllun tai.
Pwysleisiwyd, mewn ymateb i gwestiwn am berthynas y Cyngor gyda
chymdeithasau tai, mai’r bwriad a’r nod ydi cydweithio gyda’r cymdeithasau tai
yn hytrach na chystadlu gyda nhw. Eglurwyd bod cydweithio gyda’r cymdeithasau
tai yn gyfle i gyfuno adnoddau, sgiliau a chryfderau mewn meysydd gwahanol, yn
enwedig gan fod y Cyngor wedi trosglwyddo ei arbenigedd mewn tasgau fel casglu
rhent i Adra.
Mewn ymateb
i’r aelodau am yr uchelgais, derbyniwyd bod lot o rwystrau, gan gynnwys
rhwystrau ariannol, ond pwysleisiwyd eu bod yn uchelgeisiol ac eisiau cyflawni
gymaint o’r cynlluniau a phosib. Mewn ymateb i gwestiwn gan yr aelodau am beth
oedd yr Adran Tai ac Eiddo yn ystyried fel y blaenoriaethau fe nodwyd pennaeth
yr adran y canlynol: dod a thai gwag nol mewn i ddefnydd oherwydd ei fod yn
cyflawni mwy nag un amcan, cynyddu’r opsiynau tai i bobl leol, cynlluniau sy’n
ymwneud â gofal a thai cefnogaeth, a chynlluniau sy’n delio gyda materion
digartrefedd.
Ymhelaethodd
yr aelod Cabinet a’r pennaeth Adran Tai ac Eiddo ar gynnwys yr adroddiad, gan
hefyd ymateb i gwestiynau a sylwadau gan yr aelodau. Datganwyd eu bod yn
ddiolchgar i’r Pwyllgor am eu gwaith, eu bod yn gwerthfawrogi’r berthynas dda,
a’u bod yn awyddus i’r Pwyllgor gynyddu ei rôl yn y dyfodol. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol:
·
Cymeradwywyd
pob un o’r cynlluniau yn yr adroddiad gan nodi ei fod yn anodd eu
blaenoriaethu. Fodd bynnag, y blaenoriaethau crybwyllwyd neu amlygwyd yn ystod
y drafodaeth oedd cynyddu’r niferoedd o dai fforddiadwy i bobl ifanc, cynnig
cymorth i bobl sydd methu cael morgais neu sydd methu cael rhywle i fyw dros
dro tra mae’r tŷ yn cael ei adeiladu, tai i deuluoedd mawr â lot o blant,
blaenoriaethu pobl fregus a’r cynlluniau sy’n mynd i gael yr effaith mwyaf eang
ar y mwyaf o bobl, blaenoriaethu tai cefnogaeth er mwyn sicrhau fod pobl yn
gallu byw yn annibynnol (rhywbeth, ym marn yr aelod, dydy’r Cyngor ddim bob tro
wedi llwyddo i wneud yn y gorffennol), a phrynu tai gwag er mwyn i’r adeilad
ddod nôl mewn i ddefnydd.
·
Mewn
ymateb i sylw nad oedd cefnogaeth i deuluoedd mawr â lot o blant o fewn y
cynlluniau, cyfeiriwyd tuag at dair eitem o fewn y cynllun a fuasai’n gallu
delio gyda’r mater yma ond derbyniwyd bod angen cyfeirio’n uniongyrchol at
deuluoedd mawr er mwyn amlygu hyn.
·
Mewn
ymateb i sylwadau am y niferoedd o dai fforddiadwy a’r gefnogaeth sydd ar gael
i bobl ifanc ar hyn o bryd, a’r diffiniad o dai fforddiadwy yn gyffredinol,
esboniwyd mai materion cynllunio yw rhai o’r materion a gyfeiriwyd atynt.
Nodwyd y bydd y Cynllun yn ceisio mynd i’r afael â’r angen i gynyddu opsiynau a
chyflenwad tai i bobl leol.
·
Mewn
ymateb i sylwadau’r aelodau am y berthynas gyda’r adran gynllunio, nododd y
Pennaeth fod trafodaethau adeiladol eisoes wedi cychwyn gyda’r adran gynllunio
o ran beth sy’n bosib i’w gyflawni. Nododd y Pennaeth Adran fod gan y ddwy
adran berthynas dda iawn ac y byddent yn parhau i gydweithio ar yr hyn sy’n
bosib i’w gyflawni o fewn y fframwaith Gynllunio. Pwysleisiwyd hefyd mai
cyflenwi angen sydd yn bwysig yn hytrach na datblygu ar hap gan gytuno gyda
sylw’r aelod bod y pwynt yn yr adroddiad am sefydlu’r gwir angen am dai yn ein
cymunedau yn greiddiol i’r cynllun wrth symud ymlaen.
·
Nodwyd
bod y Cyngor yn rhedeg cynllun tai gwag sydd wedi llwyddo i adfer 56 o dai yn
ôl mewn i ddefnydd eleni. Esboniwyd bod y broses i adfer adeiladau gwag adnabyddus
yn ganol trefi yn un hir a chymhleth ond bod trafodaethau wrth law gyda’r
llywodraeth er mwyn deall sut i gyflawni’r broses yma ac o bosib y bydd grymoedd newydd ar gael yn y dyfodol agos.
·
Esboniwyd
hefyd, mewn ymateb i sylw mai cael morgais yw’r rhwystr mwyaf i bobl gael
tŷ ac felly dylai’r Cyngor ystyried prynu tai neu gynnig benthyciadau, bod
yr Adran yn ymwybodol o drafodaeth am gynllun morgeisi yn y gorffenol ond fod
cynlluniau rhanberchenogaeth yn edrych yn fwy addawol fel ateb posib ar hyn o
bryd.
·
Trafodwyd
hefyd y posibilrwydd o gynorthwyo unigolion drwy’r broses hunan-adeiladu.
Nodwyd bod un o gynlluniau’r adroddiad yn cyfeirio at y sefyllfa yma gan fod y
Llywodraeth yn buddsoddi mewn cynllun tebyg. Nodwyd ei fod yn edrych yn gynllun
cymhleth ar hyn o bryd.
·
Croesawyd
yr awgrymiad bod cynghorwyr yn helpu i dynnu sylw’r swyddogion i dir sydd yn
mynd ar werth yn eu ward er mwyn galluogi i’r Cyngor symud yn sydyn os oes modd
ei brynu. Gofynnodd y Pwyllgor am gael datblygu’r syniad yma ymhellach er mwyn
cael arweiniad ar sut i wneud hyn a drwy ba broses.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac edrych
ar sefydlu grŵp tasg a gorffen er mwyn gweithio law yn llaw â’r Adran Tai
ac Eiddo a chynnig cefnogaeth drwy’r broses o flaenoriaethu’r cynlluniau tai.
Dogfennau ategol: