Agenda item

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu’r cais.

 

Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar ei gais.

 

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

ch)  Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon a Gwyrfai (Awst 2000) am fod yn feddw ac afreolus yn groes i adran 91(1) o Ddeddf Trosedd Cyfiawnder 1967.  Cafodd ddirwy o £50 a gorchymyn i dalu £30 costau. Yn Ionawr 2007 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Gwynedd am ddefnyddio ymddygiad afreolus neu eiriau ymosodol/treisgar/dilornus oedd yn debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod, trosedd yn groes i adran 5(1)(A) o’r Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986. Derbyniodd ‘ryddhad amodol’ o 12 mis ynghyd a gorchymyn i dalu costau o £75.00.

 

d)    Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.

 

Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run            ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.

 

Mae paragraff 6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.  Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried (gan gynnwys rhybuddion) am ymosodiad cyffredin a /neu drosedd o dan A4 Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Nodi’r hefyd, ym mharagraff 6.6, y bydd cais yn cael ei wrthod os oes mwy nag un gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd, neu fater arall i’w ystyried yn gysylltiedig â hynny o fewn y 10 mlynedd diwethaf.

 

dd)  Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarnau 2000 a 2007 yn droseddau o drais, fodd bynnag, gan fod y gollfarn ddiwethaf wedi digwydd dros 12 mlynedd yn ôl (sydd tu hwnt i’r cyfnod 3 blynedd), nid oedd paragraffau 6.5 a 6.6 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais.

 

e)    Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd.