Agenda item
I ystyried cais Mr B
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor
ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, datganiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr & Cherbydau, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.
Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.
Nid oedd yr ymgeisydd yn bresennol i ymhelaethu ar
ei gais.
b)
PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr
Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
Ffurflen
gais yr ymgeisydd
·
Adroddiad yr Adran Drwyddedu,
datganiad DBS a datganiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr & Cherbydau
·
Canllawiau y Sefydliad Trwyddedu
·
Clip fideo o ddigwyddiad Ionawr 2019
ch) Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol
Yn
Mai 1982, derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn am gyfres o droseddau. Roedd y
drosedd gyntaf am
ddwyn o gerbyd yn groes i Ddeddf Lladrata 1968. Roedd yr ail yn un o fyrgleriaeth, y trydydd am ddifrod troseddol yn groes i
adran 1 Deddf Difrod Troseddol 1971 a’r pedwerydd yn un arall am ddwyn o
gerbyd. Ar gyfer pob cyhuddiad
unigol cafodd orchymyn gwasanaeth cymunedol 150 awr, gorchymyn i wneud
cyfraniad at gymorth cyfreithiol o £75.00 a gorchymyn i dalu costau o £75.00.
Yn Nhachwedd 1983
derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Pwllheli ar un
cyhuddiad o geisio dwyn o gerbyd, yn groes i adran 1 o’r Ddeddf Lladrata 1968.
Derbyniodd ddirwy o £60.00 a gorchymyn i dalu costau o £3.00. Yn Mai 1985
derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Pwllheli am gyfres o gyhuddiadau – troseddau
yn ymwneud a dwyn yn groes i adran 1 Deddf Lladrata 1968, ac o geisio bwrglera
yn groes i adran 9(1)(B) Deddf Lladrata 1968. Derbyniodd ddedfryd o garchar
ieuenctid am 6 mis a gorchymyn i dalu iawndal o £450.00.
Yn Hydref 1988
derbyniodd gollfarn gan Lys y Goron Caernarfon am gyhuddiad o ymosodiad a
arweiniodd at niwed corfforol yn groes i adran 47 Deddf Troseddau yn Erbyn y
Person 1861. Derbyniodd ddedfryd o garchar am 9 mis, wedi ei atal am 6 mis.
Yn dilyn digwyddiad yn
Ionawr 2019, derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Gogledd Orllewin Cymru (Medi
2019) am ymyrraeth beryglus ag offer traffig, yn groes i adran 22A(1)(c) Deddf
Traffig Ffordd 1988. Derbyniodd ddirwy o £250.00, gorchymyn i dalu costau o
£775.00 a gordal dioddefwr o £30.00.
Amlygwyd bod Heddlu
Gogledd Cymru wedi datgelu gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â digwyddiad
Ionawr 2019 o’r ymgeisydd, wrth yrru tacsi ac yn cludo teithwyr, yn symud
rhwystrau ffordd ar gau. Cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu bod fideo o’r
digwyddiad wedi ei chylchredeg ar wefan gymdeithasol (un
a honiwyd a oedd wedi ei dynnu ar ffôn symudol un o’r teithwyr yn y tacsi) o’r
ymgeisydd yn symud y rhwystrau. Pan ddaeth y fideo i sylw swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu,
cyflwynwyd y dystiolaeth i’r Heddlu. Ategwyd bod Swyddog Gorfodaeth o’r
Awdurdod Trwyddedu wedi cadarnhau mewn datganiad ei fod yn adnabod yr ymgeisydd
fel yr unigolyn yn y fideo. Darlledwyd y
fideo i’r Is-bwyllgor.
Nodwyd yn yr adroddiad
bod trwydded gyrru tacsi yr ymgeisydd wedi dirwyn i ben ychydig ddyddiau ar ôl
i’r ymgeisydd dderbyn collfarn Medi 2019.
d)
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle
nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am
drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded. Bydd disgwyl er hynny i
berson fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y
Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a
phriodol.
Ystyriwyd paragraff 4.5
sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf
1974 neu beidio.
Mae paragraff 6 o’r
Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr
trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn
rheolaidd y byddai Is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny
sydd â throseddau yn ymwneud a thrais.
Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol
yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried (gan gynnwys
rhybuddion) am ymosodiad cyffredin a /neu drosedd o dan A4 Trefn Gyhoeddus 1986
sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Nodi’r hefyd, ym mharagraff 6.6,
y bydd cais yn cael ei wrthod os oes mwy nag un
gollfarn am drosedd o natur dreisgar yn erbyn yr ymgeisydd, neu fater arall i’w
ystyried yn gysylltiedig â hynny o fewn y 10 mlynedd diwethaf.
Ystyriwyd paragraff 8.0
o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi
y cymerir golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud ag
anonestrwydd. Mae paragraff 8.2 yn nodi y byddai cais fel arfer yn cael ei
wrthod os bydd gan yr ymgeisydd gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn
yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y
rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill, byrgleriaeth a lladrata.
Mae rhan 12 o’r Polisi
yn ymwneud â chollfarnau moduro, fodd bynnag nid yw’r rhestr troseddau moduro
yn cynnwys y drosedd o ymyrraeth beryglus mewn offer traffig.
Mae paragraff 14.1 o’r
Polisi yn nodi os yw’r unigolyn yn destun cyhuddiad neu wŷs sydd heb ei
ateb, gellir parhau i brosesu ei gais, ond er diogelwch y cyhoedd rhoddir
ystyriaeth i’r mater, a gallai’r penderfyniad gael ei
ohirio nes bod yr achos wedi dod i ben.
Mae rhan 17 o’r Polisi
yn ymwneud â thorri deddf, is-ddeddf neu amod trwydded. Nodir ei fod yn annhebygol
y rhoddir trwydded i ymgeisydd â ganddo gollfarn neu fater arall i’w ystyried
yn gysylltiedig â thorri deddf, oni bai bod cyfnod o 12 mis wedi pasio ers yr
achos mwyaf diweddar.
Yn ychwanegol i’r
ddeddfwriaeth a’r Polisi, gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried canllawiau y
Sefydliad Trwyddedu mewn perthynas ag addasrwydd a
phriodoldeb ymgeiswyr am drwydded gyrru tacsi. Tynnwyd sylw yn benodol at
baragraff 4.15 o’r canllaw, sydd yn argymell,
“Any
offence committed, or any unacceptable behaviour reported whilst driving a
hackney carriage or private hire vehicle…will be viewed as aggravating
features, and the fact that any other offences were not connected with the
hackney carriage and private hire trades will not be seen as mitigating
factors.”
A pharagraff 4.26 sydd yn nodi,
“A
driver has direct responsibility for the safety of their passengers, direct
responsibility for the safety of other road users and significant control over
passengers who are in the vehicle. As those passengers may be alone, and may
also be vulnerable, any previous convictions or unacceptable behaviour will weigh heavily against a licence being
granted or retained.”
dd) Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarnau
1982 a 1988 yn droseddau o drais. Fodd bynnag, gan fod y gollfarn ddiwethaf
wedi digwydd dros 31 mlynedd yn ôl (oedd tu hwnt i’r cyfnod 3 blynedd), nid oedd paragraffau
6.5 a 6.6 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais. Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod collfarnau 1982, 1983 ac 1985 yn
droseddau o anonestrwydd, fodd bynnag, gan fod y gollfarn ddiwethaf wedi
digwydd dros 34 mlynedd yn ôl (oedd tu hwnt i’r cyfnod 3 blynedd), nid oedd paragraffau
8.2 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais.
Wrth ystyried
collfarn Medi 2019, daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad nad
oedd yn disgyn o fewn cynnwys rhan 12 o’r Polisi (collfarnau moduro) ac felly
nid oedd yr argymhelliad o blaid gwahardd yn goroesi. Er hynny ystyriwyd bod y
digwyddiad yn ymwneud â thorri deddf ac yn disgyn o
fewn cynnwys rhan 17 o’r Polisi. Gyda’r digwyddiad wedi digwydd llai na 12 mis yn ôl roedd paragraff 17.1 o’r polisi yn
berthnasol ac yn argymell gwrthod y cais.
Er yn
ymwybodol nad yw darpariaethau’r Polisi yn orfodol a
gall gwyro oddi wrtho os yw ffeithiau’r achos yn cyfiawnhau hynny, rhoddodd yr
Is-bwyllgor ystyriaeth i baragraff 5.1 o’r Polisi. Yn yr achos yma, nid oedd y
ffeithiau yn cyfiawnhau gwyro oddi ar yr argymhelliad o wrthod y cais.
Ystyriwyd
nad oedd diffyg darpariaeth berthnasol yn y Polisi yn
golygu na ellid gwrthod cais. Eglurwyd petai’r Is-bwyllgor o’r farn bod
collfarnau, ynghyd a materion eraill yn golygu nad
yw’r ymgeisydd yn addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr hacni / hurio
preifat, yna gellid gwrthod y cais gyda chefnogaeth ac arweiniad y Sefydliad
Trwyddedu.
Ystyriwyd
bod digwyddiad Ionawr 2019 yn un difrifol iawn. Tra yn
yrrwr tacsi trwyddedig bu i’r ymgeisydd symud rhwystrau ffordd er mwyn parhau
gyda’i daith. Gweithredodd yn anghyfreithlon a dangosodd ddiffyg
gwerthfawrogiad at iechyd a diogelwch y teithwyr gan eu rhoi mewn sefyllfa o
risg sylweddol.
Yn
nhyb yr Is-bwyllgor, nid oedd paragraff 14.1 o’r Polisi yn berthnasol yn yr
achos yma gan nad oedd sefyllfa lle mae’r ymgeisydd yn disgwyl dyfarniad mewn
perthynas â chyhuddiad yn ei erbyn. (Nodwyd bod y digwyddiad yn destun apêl yn
Llys y Goron). Fodd bynnag, cyfeirio at wŷs heb ei ateb mae’r Polisi ac
ystyriwyd bod y wŷs a dderbyniodd yr ymgeisydd yn Ionawr 2019 wedi ei ateb
oherwydd iddo gael ei gollfarnu gan Lys Ynadon Caernarfon yn Medi 2019. O
ganlyniad, gan nad yw paragraff 14.1 yn berthnasol,
nid oedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod sail i ohirio’r cais oherwydd yr apêl i
Lys y Goron.
Wedi pwyso a mesur
y dystiolaeth ar holl wybodaeth yn ofalus, nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon
bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai hawl i’r ymgeisydd gyflwyno apêl yn Llys
Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor ac y dylid gwneud hynny
i Brif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno o fewn 21 diwrnod o dderbyn llythyr yn
cadarnhau penderfyniad yr Is-bwyllgor.