Agenda item

Canolfan Garddio Camlan, Siop Fferm a Chaffi, Dinas Mawddwy, Machynlleth

 

I ysytried y cais

Cofnod:

Canolfan Garddio Camlan, Siop Fferm a Chaffi, Dinas Mawddwy, Machynlleth

 

Ar ran yr eiddo:                     Mrs Lisa Allsop (Perchennog)

 

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Canolfan Garddio Camlan, Siop Ffarm a Chaffi, Dinas Mawddwy. Gwnaed y cais mewn perthynas ag eiddo sydd yn cynnwys siop fferm a chaffi yn gwerthu yn bennaf cynnyrch Cymreig, ffrwythau a llysiau. Y bwriad yw gwerthu alcohol ar ac oddi ar yr eiddo ynghyd a chynnal oddeutu deuddeg o ddigwyddiadau dros dro megis nosweithiau bwyty, te prynhawn a digwyddiadau siopa yn hwyr y nos.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Nodwyd bod sylw wedi ei dderbyn gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn awgrymu cynnwys amod i’r ymgeisydd leihau oriau sydd wedi eu datgan ar y ffurflen gais i 10:00 - 16:00 ar Ddydd Sul a Gwyliau’r Banc yn unol â Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Derbyniwyd sylw hefyd gan breswylydd cyfagos yn mynegi pryder o ran sŵn yr hwyr.

Argymhellwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gytuno   i gydymffurfio ag amodau cynllunio sydd wedi ei gosod gan y Parc Cenedlaethol.

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Mai ar gyfer digwyddiadau arbennig (ee nosweithiau bwyty, digwyddiadau siopa yn hwyr y nos a the prynhawn) fyddai’r amseroedd ansafonol

·         Ei bod yn derbyn yr amodau a gynigiwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac yn barod i gwtogi yr oriau agor

·         Bod bwriad gwerthu cynnyrch Cymreig o safon yn y siop

·         Nad oedd bwriad gwerthu alcohol rhad

·         Bod modd rheoli'r sefyllfa parcio yn effeithiol. Bod parcio ychwanegol ar gael ar gyfer nosweithiau bwyty

 

c)            Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

d)         Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog          Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar yr ymgeisydd yn y gwrandawiad.   Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl         ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y        Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu y cais 

 

Derbyniwyd nad oedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwrthwynebu’r cais ond yn argymell amodau mewn perthynas â chaniatâd cynllunio’r eiddo. Amlygwyd bod y caniatâd cynllunio yn cynnwys cyfyngiadau oriau oedd yn gwahardd yr eiddo rhag gweithredu tu allan i’r oriau 08:30 i 20:30 Llun i Sadwrn, a 10:00 i 16:00 ddydd Sul a Gwyliau Banc. Ac eithrio Gwyliau Banc, roedd yr oriau gwreiddiol a geisiwyd amdanynt yn ymddangos yn gydnaws ar oriau caniatâd cynllunio. Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei bod yn diwygio’r cais am oriau agor ac oriau gwerthu alcohol ar Wyliau Banc o 10:00 i 16:00. Roedd hyn yn gyson â’r caniatâd cynllunio. Nodwyd na fyddai’r Is Bwyllgor yn cynnwys yr amserau ansafonol eraill ar y drwydded,, ond yn gwahodd yr ymgeisydd i ymgeisio am rybuddion digwyddiad dros dro (TEN) ar gyfer y digwyddiadau yn ôl y galw. Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei bod yn cytuno â’r sylwadau.

 

Mewn ymateb i bryder preswylydd lleol y byddai sŵn yn deillio o’r eiddo gyda’r hwyr, amlygwyd nad oedd y cais yn gofyn am oriau hwyrach na 18:00, ac nad oedd cais am gerddoriaeth nac adloniant wedi ei gyflwyno. O ganlyniad roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na fyddai caniatáu’r drwydded yn arwain at broblem sŵn hwyr nos, ac y byddai’n gydnaws â’r amcan o atal niwsans cyhoeddus.

 

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais am drwydded fel y’i diwygiwyd, gyda chynnwys yr amodau arfaethedig oddi wrth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gydnaws â’r amcanion trwyddedu.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol.

 

Dogfennau ategol: