Cyflwyno adroddiad y Pennaeth
Cyllid.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth
Cyllid, a oedd yn nodi yn
unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y disgwylir i’r Pwyllgor
Archwilio graffu adroddiadau monitro cyllideb, lle’n briodol.
Gosododd yr Uwch Reolwr Cyllid y cyd-destun ac
ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad
a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 24 Tachwedd 2015. Cyflwynodd y penderfyniadau canlynol i sylw’r
pwyllgor i’w craffu -
“1.
Derbyn yr adroddiad ar
adolygiad diwedd yr ail chwarter
(sefyllfa 30 Medi 2015) o’r Gyllideb Refeniw,
ac wedi ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran/gwasanaeth, gofyn i’r Aelodau
Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol
ynglŷn â materion o dan eu harweiniad/rheolaeth.
2.
Nodi'r amrywiol adolygiadau o drefniadau crybwyllwyd yn yr adroddiad
a’r camau i’w cymryd gan
adrannau i gadw rheolaeth ar eu cyllidebau.
3.
Wedi ystyriaeth o’r sefyllfa, cymeradwyo, yn benodol, yr
addasiadau a throsglwyddiadau
argymhellwyd mewn perthynas â’r Adrannau
Addysg, Economi a Chymuned, Rheoleiddio a Chyllidebau Corfforaethol.”
Nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau yr atgoffwyd
Aelodau Cabinet o’u cyfrifoldebau o ran adolygu cyllidebau. Cyfeiriodd at sefyllfa gyllidol
yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r tebygrwydd
y byddai angen adnoddau pontio ar gyfer eleni
oherwydd annhebygrwydd o wireddu arbedion yn llawn yn
y flwyddyn ariannol.
Nododd y cymerir camau pendant i ddelio â’r sefyllfa
er mwyn ei
gadw o dan reolaeth a bod penderfyniad y
Cabinet i neilltuo adnodd wrth gefn
yn galluogi’r Cabinet i ymateb i’r
sefyllfa ariannol o ran yr Adran erbyn
diwedd y flwyddyn ariannol.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion i ymholiadau’r
aelodau fel a ganlyn:
·
O ran ‘Diswyddo ac
Ymddeol Cynnar’ yn yr Adran
Addysg, mai cyrff llywodraethu ysgolion oedd yn
caniatáu ymddeol yn gynnar gyda’r
costau yn disgyn ar yr
Awdurdod Addysg. Nodwyd yr adolygir
y sefyllfa o ran rhyddhau pensiwn gan ail-edrych ar hawl
yr unigolyn o ran swm, sefyllfa’r ysgol i gyfrannu
at y taliad a’r dull talu i’r dyfodol
er mwyn ymateb
i’r gorwariant;
·
Bod yr Adran Addysg wedi
rhagweld y sefyllfa gorwariant ac wedi neilltuo tanwariant mewn cronfa wrth
gefn i ariannu’r
gwariant;
·
Mai penderfyniad y
Cyrff Llywodraethu oedd ail-gyflogi athrawon a oedd wedi ymddeol fel
athrawon llanw gyda phrofiad yr
athro/athrawes yn cael ei
gymryd i ystyriaeth;
·
Mai cost un tro oedd diswyddo ac fel rhan o’r
cynllun trefniadaeth ysgolion yr edrychir
ar arbedion refeniw blynyddol;
·
O ran gorwariant Ymgynghoriaeth Gwynedd, bod camau
wedi’u cymryd i foderneiddio a bod yr Adran yn
ceisio denu gwaith ac uchafu cyflawniad o fewn yr adnoddau staffio
cyfredol. Ychwanegwyd y gwneir adolygiad blynyddol o ran incwm yr Adran a’u
bwriad i ddefnyddio adnodd wrth gefn i
liniaru’r sefyllfa pe byddai’r darlun
yn parhau hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Nododd aelod bod gorwariant blynyddol hanesyddol o ran gwasanaethau pobl hŷn a bod tueddiad demograffi yn golygu
mwy o alw am wasanaethau felly bod angen ystyried yn ddwys
y gofynion cyllidebol.
Mewn ymateb,
nododd yr Aelod Cabinet Adnoddau bod camau pendant wedi eu cymryd i
gyfarch y sefyllfa gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant gyda 2 benodiad newydd wedi ei wneud
yn ddiweddar i yrru’r rhaglen
arbedion yn ei flaen. Ychwanegodd yr Uwch Reolwr
Cyllid yr edrychir yn ofalus
ar y gyllideb ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2016-17 gan asesu effaith demograffi
a disgwylir i’r Adran weithredu oddi mewn i’r
gyllideb honno.
PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.
Dogfennau ategol: