Cyflwynwyd gan:Cyng. Ioan Thomas
Penderfyniad:
Penderfynwyd
i:
·
Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2019 o’r
Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
·
Nodi fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant eleni, gan bod angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng
ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi galw cyfarfod o'r swyddogion
perthnasol a chomisiynu gwaith er mwyn cael gwell dealltwriaeth a rhaglen glir
i ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi
ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar gyfer cyllideb 2020/21.
·
Nodi fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif
Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel
bod modd mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad
gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun ymateb. I geisio cyfarch y
gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r
drefn bidiau ar gyfer cyllideb 2020/21.
·
Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:
¾
(£198k) o gynnyrch treth ychwanegol ar Bremiwm Treth y Cyngor yn
cael ei ychwanegu at y £2.7 miliwn sydd eisoes wedi ei neilltuo yn 2019/20 i'w
ystyried ar gyfer y Strategaeth Dai.
¾
(£75k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa
ariannu'r rhaglen gyfalaf.
¾
(£500k) o danwariant Corfforaethol yn cael ei neilltuo i gyllido
diffyg grant yn y maes gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy.
¾
(£312k) i'w ddefnyddio i gyllido bidiau un-tro sydd wedi eu
cyflwyno gan yr Adrannau ar gyfer gwariant yn 2020/21.
¾
y gweddill sef (£502k) yn
mynd i falansau cyffredinol y Cyngor.
COFNODION:
Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd i:
·
Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad
diwedd Tachwedd 2019 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol
ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
·
Nodi fod gorwariant sylweddol gan yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan bod angen egluro manylder cymhleth
yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae'r Prif Weithredwr eisoes wedi galw
cyfarfod o'r swyddogion perthnasol a chomisiynu gwaith er mwyn cael gwell
dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r
dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar
gyfer cyllideb 2020/21.
·
Nodi fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei
gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i faterion ariannol dyrys yr Adran
Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd gorwariant yr Adran, gyda’r
bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd yn manylu ar y cynllun
ymateb. I geisio cyfarch y gorwariant i’r dyfodol, mae adnodd ychwanegol wedi
ei ddyrannu fel rhan o’r drefn bidiau ar gyfer cyllideb 2020/21.
·
Ar gyllidebau Corfforaethol, fod:
¾ (£198k)
o gynnyrch treth ychwanegol ar Bremiwm Treth y Cyngor yn cael ei ychwanegu at y
£2.7 miliwn sydd eisoes wedi ei neilltuo yn 2019/20 i'w ystyried ar gyfer y
Strategaeth Dai.
¾ (£75k)
yn ymwneud â chostau cyfalaf yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen
gyfalaf.
¾ (£500k)
o danwariant Corfforaethol yn cael ei neilltuo i gyllido diffyg grant yn y maes
gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy.
¾ (£312k)
i'w ddefnyddio i gyllido bidiau un-tro sydd wedi eu cyflwyno gan yr Adrannau ar
gyfer gwariant yn 2020/21.
¾ y gweddill sef (£502k) yn mynd i falansau
cyffredinol y Cyngor.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod rhai arwyddion o drafferthion cyflawni arbedion yn cael
eu hamlygu yn yr adroddiad. Mynegwyd fod rhai adrannau a fydd yn gorwario a
trafodwyd yr adrannau yma yn unigol.
Adran Oedolion
Iechyd a Llesiant – mynegwyd fod yr rhagolygon diweddaraf yn awgrymu dros
£1.8miliwn o orwariant gan yr adran. Ychwanegwyd fod y gorwariant yn cael ei
leddfu yn rhannol i £658k yn dilyn derbyniad grant a defnydd o gyllid un tro.
Adran Plan a
Cefnogi Teuluoedd – nodwyd fod lefel y gorwariant yn yr adran wedi dwysau
ymhellach i £3.2miliwn gyda £2.6 miliwn yn y maes lleoliadau, gyda cyfran
sylweddol o’r gorwariant yn deillio o leoliadau all sirol. Ychwanegwyd fod
tasglu Cyllideb wedi ei sefydlu er mwyn rhoi sylw i faterion ariannol yr adran
a nodwyd nad oedd y sefyllfa hon yn anghyffredin os yn edrych ar draws Cymru.
Adran Priffyrdd –
mynegwyd fod gwariant yn parhau yn y maes casglu a gwaredu gwastraff eleni, gan
nodi mae costau trosiannol cyn symud i drefniadau newydd sydd wedi arwain at y
gorwariant.
Tynnwyd sylw at
tanwariant yn maes corfforaethol gyda rhagolygon ffafriol o gynnyrch treth
ychwanegol ar Dreth Cyngor a Premiwm Treth Cyngor er hyn amlygwyd fod parhad yn
y tueddiad i ôl ddyddio trosglwyddiadau o Dreth Cyngor i Drethi Annomestig.
Pwysleisiwyd yn ogystal fod niferoedd sy’n hawlio gostyngiadau Treth Cyngor ar
ei lefel isaf am y bedwaredd blynedd yn olynol. Ychwanegwyd fod tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol,
ac nad yw’r pwysau ar nife ro o gyllidebau mor ddwys â’r hyn a ragwelwyd yn
wreiddiol.
Rhoddodd y Prif
Weithredwr grynodeb o’r gwaith oedd yn mynd ymlaen i ymchwilio i’r gorwariant
ym meysydd Plant a Chefnogi Teuluoedd a’r Adran Oedolion. Byddai dod i gasgliad
a darganfod y cyfleoedd neillog yn y maes Plant yn cymryd yn hirach na’r hyn a ragwelir ar
gyfer maes Oedolion, ond ‘roedd y Pennaeth Cyllid yn gwneud darpariaeth briodol
wrth lunio cyllideb 2020/21.
Adroddodd ymhellach
nad oedd yn poeni yn ormodol am or wariant yn yr Adran Briffyrdd ar hyn o bryd
gan fod cynllun yn ei le yn barod i sicrhau y bydd y maes gwastraff yn gweithio
mor effeithlon a phosib er mwyn dod a’r gorwariant yma dan reolaeth.
Awdur:Ffion Madog Evans
Dogfennau ategol: