Adeiladu 2 dy fforddiadwy (cais diwygiedig)
AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes
Cofnod:
Adeiladu
2 dy fforddiadwy (cais diwygiedig)
Roedd Aelodau’r Pwyllgor wedi ymweld â’r
safle 09-12-19
a)
Ymhelaethodd y Pennaeth
Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd ar gefndir y cais gan
nodi bod y cais wedi ei drafod yn wreiddiol ym Mhwyllgor Cynllunio 01-07-20 lle
argymhellwyd caniatáu’r cais yn groes i argymhellion y swyddogion, ar sail y
byddai’n diwallu’r angen lleol am dai. Yn dilyn y penderfyniad, nododd y Pennaeth Cynorthwyol ei fwriad, yn unol â Rheolau Gweithdrefn y
pwyllgor hwn, i gyfeirio’r cais i gyfnod cnoi cil gan ddod ag adroddiad pellach
gerbron y pwyllgor yn amlygu’r risgiau ynghlwm â chaniatáu’r cais. Cyflwynwyd
adroddiad pellach ym Mhwyllgor 09-12-19, ond nodwyd ar y ffurflen sylwadau hwyr
bod cais wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd i ohirio trafod y cais fel bod
cyfle iddynt drafod yr opsiynau a gyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad. Yn dilyn y
gohiriad, adroddwyd nad oedd sylwadau pellach wedi eu derbyn gan yr ymgeisydd.
Tynnwyd sylw at y trafodaethau oedd wedi eu cynnal
rhwng yr ymgeisydd a’r Awdurdod Cynllunio ers Pwyllgor mis Gorffennaf 2019
ynghyd a chadarnhad bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno eglurder ar faterion yn
ymwneud a thystysgrif perchnogaeth,
adroddiad ecolegol / ymlusgiaid a diweddariad o asesiad Tai Teg.
Atgoffwyd yr aelodau bod pum rheswm wedi ei nodi dros
wrthod y cais (diffyg angen, lleoliad, maint, gwerth y tai a diffyg arolwg
ymlusgiaid) a chyfeiriwyd at y wybodaeth oedd yn ymateb i’r materion hynny yn
yr adroddiad. Cyfeiriwyd at faen prawf Polisi Tai 6 lle gofynnir am dystiolaeth
bod angen tŷ fforddiadwy ar gyfer yr angen yn lleol. Adroddwyd bod yr ymgeiswyr wedi cael eu hail
hasesu gan Tai Teg i ddarganfod os oeddynt yn gymwys am dŷ fforddiadwy. Yn
yr achos yma adroddwyd fod 2 gwpl wedi eu hasesu gan Tai Teg (yn unol a’r drefn
arferol) er mwyn asesu os oeddynt yn gymwys am dy fforddiadwy. Yn dilyn yr asesiad gan Tai Teg cadarnhawyd
fod un cwpl yn gymwys am dy fforddiadwy ond nad oedd y cwpl arall yn gymwys am
dy fforddiadwy.
Amlygwyd bod prisiad ar gyfer y tai fel rhan o’r cais
wedi ei dderbyn gan Beresford Adams yn nodi pris o £325,000 ar y farchnad
agored. Ystyriwyd hyn yn isel ac felly ymgynghorwyd gyda’r Prisiwr Dosbarth am
ail farn ddiduedd yn unol â gofynion y CCA Tai Fforddiadwy. Roedd y Prisiwr
Dosbarth o’r farn bod y tai yn werth £370,000 yr un ar y farchnad agored. Er
mwyn sicrhau fod pris y tai yn fforddiadwy (£146,851 - dadansoddiad Uned
Strategol Tai) byddai gofyn rhoddi disgownt sylweddol o 60% er cael pris
cymharol i’r pris fforddiadwy. Ategwyd bod rhoi disgownt mor uchel yn creu
problemau gan nad yw benthycwyr yn fodlon rhoi benthyciad ar y sail yma. Nodwyd
hefyd fod yr angen am ddisgownt o 60% oedd yn fwy na’r pris fforddiadwy yn
amlygu’r ffaith nad oedd y tai yn fforddiadwy yn lle cyntaf. Cadarnhawyd felly
nad oedd y cais yn cydymffurfio gyda’r meini prawf perthnasol yn polisi TAI 6 o
safbwynt angen, lleoliad, maint a gwerth y tai. Nodwyd fod y arolwg ymlusgiad
wedi cyfarch y materion bioamrywiaeth ar y safle.
Cyfeiriodd y Pennaeth Cynorthwyol at y risgiau i’r
Cyngor os caniateir y cais yn groes i’r argymhelliad. Cyfeiriodd hefyd at dri opsiwn oedd yn bosib
o ran penderfynu’r cais. Pwysleisiwyd, mai opsiwn a) sef gwrthod y cais, oedd yr unig opsiwn lle nad oedd risg i’r
Cyngor a lle roedd yna dystiolaeth gadarn yn sail i’r penderfyniad.
Nodwyd fod opsiwn b), sef caniatau’r cais gyda
cytundeb 106 a disgownt o 60% er mwyn sicrhau fod y tai yn fforddiadwy i’r
dyfodol am fod yn broblemus o ran ceisio cael benthyciad ac ati a
fforddiadwyedd. Hefyd, atgoffwyd y Pwyllgor nad oedd un cwpl yn gymwys am dy
fforddiadwy yn dilyn asesiad Tai Teg, ac felly ni fuasant yn gymwys i fyw yn
unrhyw un o’r tai gydag opsiwn b).
Cyfeiriodd y Pennaeth Cynorthwyol hefyd at opsiwn c)
fuasai’n golygu caniatau 2 dy marchnad agored, gan bwysleisio’r risgiau o fod
yn caniatau tai yng nghefn gwlad, heb unrhyw reolaeth dros feddianaeth na phris
y tai.
Ystyriwyd nad oedd y
bwriad yn dderbyniol gan nad oedd yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau
cynllunio a chanllawiau lleol y Cyngor na polisiau a chanllawiau cenedlaethol.
b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y cais yn gais unigryw
·
Bod y bwriad yn darparu cartrefi am oes i bobl
broffesiynol Cymraeg oedd wedi dewis aros yn yr ardal oherwydd cysylltiadau
teuluol
·
Bod yr ardal angen pobl broffesiynol i aros yn eu
cymunedau lleol
·
Nad oedd y polisïau yn cefnogi ceisiadau i bobl
aros yn eu cymunedau lleol - bod angen craffu addasrwydd polisïau tai
fforddiadwy'r awdurdod mewn cymunedau fel Llanengan;
·
Bod yr asesiad incwm yn amlygu nad oedd modd i’r
ymgeiswyr fyw yn y tŷ na phrynu tŷ yn lleol - Nid oedd y tai marchnad
agored yn yr ardal yn fforddiadwy;
·
Yr ymgeiswyr wedi penderfynu ar opsiwn o hunan
adeiladu gan fod y tir yn rhodd gan y teulu
·
Bod y meini prawf allan o’u cyrraedd – eu bod yn
barod i dderbyn amodau / wedi gwrando a derbyn cyngor, ac wedi addasu
cynlluniau yn ôl yr angen
·
Rhaid annog
Cymry Cymraeg i aros yn ei cymunedau os am ymateb i’r her o sicrhau
miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 - polisïau cynllunio yn fygythiad i’r iaith
·
Wedi derbyn cefnogaeth i’r cais gan y gymuned leol,
Cynghorwyr lleol a Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.
·
Rôl Cynghorydd yw cefnogi pobl leol a rhoi pobl
Gwynedd yn ganolog i’r hyn maent yn wneud
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn groes
i’r argymhelliad. Cadarnhaoedd y cynigydd yn unol ac Opsiwn b) o’r adroddiad,
bod y caniatâd yn amodol ar gytundeb 106 tai fforddiadwy gyda gostyngiad o bris
y farchnad o 60% er mwyn ceisio sicrhau fod y tai yn fforddiadwy i’r dyfodol.
ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
· Bod angen
cymryd cam yn ôl ac ystyried cyd-destun y cais – nid yw’r polisi yn addas a
phriodol
· Rhaid cyfarch
bod pobl angen yr ymdeimlad o ‘berthyn’ i’w cymuned – os yw pobl yn gadael mae
hyn yn creu cymuned dlawd
· Bod angen
adolygu’r polisïau cynllunio – polisïau ddim yn gwneud synnwyr mewn rhai
achosion
· Caniatáu’r cais
oedd yr unig ffordd i gadw Cymry Cymraeg yn yr ardal.
· Bod
pris y farchnad mewn rhai pocedi o Wynedd yn cau allan pobl leol
· Annog
trafodaethau pellach i geisio datrysiad – bod modd trafod maint a lleoliad
· Buasai
lleihau maint y tŷ yn lleihau ei werth er mwyn cyrraedd targed tŷ
fforddiadwy
· Rhaid pwyso ar
y Llywodraeth i lunio polisïau sydd yn rhoi hawl i bobl fyw yn eu hardaloedd, i
hwyluso’r angen am dai yn lleol
·
Cydymdeimlad o ran sefyllfa’r ymgeiswyr ond y
bwriad yn groes i ormod o bolisïau
·
Bod rhaid i’r ymgeiswyr fod yn gymwys am dy
fforddiadawy
PENDERFYNWYD caniatáu y cais gyda chytundeb
106 gyda gostyngiad o 60% o bris y farchnad yn unol ac opsiwn b) o’r adroddiad.
Yn unol â’r
Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol i ganiatáu y cais:
O blaid y cynnig i
ganiatáu y cais (8): Y
Cynghorwyr Seimon Glyn, Louise Hughes, Elin Walker Jones, Dilwyn Lloyd, Gareth
A Roberts, Eirwyn Williams, Gruffydd Williams ac Owain Williams
Yn erbyn y cynnig
i ganiatáu y cais (4): Y
Cynghorwyr Stephen Churchman, Anne Lloyd Jones, Berwyn Parry Jones ac Edgar
Owen
Atal, (0)
Amodau:
1.
Amser
2.
Yn unol â'r
cynlluniau
3.
Deunyddiau.
4.
Llechi
5.
Tynnu PD
6.
Dŵr Cymru /
SUDS
7.
Bioamrywiaeth
8.
Priffyrdd
9.
Tirlunio
Dogfennau ategol: