skip to main content

Agenda item

Cais ar gyfer creu maes gwersylla i leoli hyd at 23 o gerbydau gwersylla yn ogystal â gwneud newidiadau i adeilad gwasanaethu a ganiatawyd o dan C17/0116/08/LL ynghyd â gwaith tirlunio cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais ar gyfer creu maes gwersylla i leoli hyd at 23 o gerbydau gwersylla yn ogystal â gwneud newidiadau i adeilad gwasanaethu a ganiatawyd o dan C17/0116/08/LL ynghyd â gwaith tirlunio cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli ar gyrion pentref trawiadol Portmeirion ble mae maes parcio sefydledig wedi ei leoli.  Amlygwyd bod caniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer codi adeilad gwasanaethau cynnal gerllaw ac roedd y cais gerbron yn golygu gwneud newidiadau i’r datblygiad yma a’i ymgorffori fel rhan o ddatblygiad y maes gwersylla. Nodwyd bod y safle yn eang ac yn cynnwys nifer o fathau gwahanol o ddatblygiadau presennol sydd yn cynnwys adeiladau a llefydd agored, coedwigoedd a strwythurau dyluniadol. Ategwyd y byddai’n anorfod fod datblygu rhannau o’r safle yn debygol o gael effaith ar rannau eraill o’r safle gyda’r potensial o gael effaith ar werth y safle yn ei gyfanrwydd. Mae’r safle o fewn ffin Ardal Gadwraeth ac o fewn ardal sydd wedi ei ddynodi fel Ardal Tirwedd Arbennig ac Ardal o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Aberglaslyn.

 

Tra bod cefnogaeth glir ar gyfer cynlluniau cyffredinol ar gyfer gwella, ehangu a chryfhau’r busnes  mae’n hanfodol y byddai unrhyw gynlluniau yn cydymffurfio gyda pholisïau datblygu lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

Tynnwyd sylw at sylwadau a dderbyniwyd oedd yn cyfeirio’n benodol tuag at effaith sŵn ac effaith weledol ychwanegol a fyddai’n deillio o’r datblygiad o ganlyniad i ddefnydd  dwysach o’r safle o’i gymharu â’i ddefnydd presennol fel maes parcio ar gymydog i’r safle.  Nodwyd bod y cymydog wedi awgrymu dulliau o liniaru’r effeithiau yma drwy dirlunio sylweddol ac addas rhwng ei eiddo a safle’r cais. Yn dilyn trafodaethau rhwng yr ymgeisydd a’r gwrthwynebydd a chytundeb ynglŷn â’r tirlunio ychwanegol, cadarnhaodd y gwrthwynebydd ei fod yntynnu ei wrthwynebiad yn ôl. Gan nad oedd yr Awdurdod Cynllunio yn rhan o’r trafodaethau hyn ac nad oedd yn wybyddus beth oedd y drafodaeth, nid oedd modd amodi y fath amgylchiadau ac felly eu cydnabod yn unig a wnaed.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y bwriad yn ddatblygiad fyddai’n hybu twristiaeth

·         Mynedfa troed newydd yn cael ei lunio

·         Wedi cydweithio’n agos gyda’r Awdurdod Cynllunio i gwrdd â’r angen

·         Bod y safle yn ychwanegu gwerth drwy gynnig ystod eang o lety

·         Bod Portmeirion yn atyniad ac yn gyflogwr lleol, da

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad

 

dd)      Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·      Bod yr Aelod Lleol yn gefnogol i’r cais

·      Bod Portmeirion yn creu swyddi da i bobl leol

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

1.      5 mlynedd

2.      Unol â’r cynlluniau, adroddiad coed ac adroddiad ystlumod

3.      Amod Unedau Gwyliau teithiol

4.      Amod tymhorol Mawrth-Hydref

5.      Cynllun tirlunio

6.      Cynllunio goleuo

7.      Defnydd yr adeilad yn unol â’r cynllun llawr

8.      Oriau adeiladu 8-6 llun i gwener a 8-1 Sadwrn

9.      Storfa sbwriel yn weithredol cyn i’r safle gwersylla cael ei ddefnyddio

10.   Cyfleusterau toiledau ayyb yn weithredol cyn i’r safle gwersylla cael ei ddefnyddio

11.   Gwaith Coed

12.   Cytuno gwaith fesul cam o flaen llaw

13.   Arwyddion dwyieithog

 

Dogfennau ategol: