Agenda item

Creu balconi a drws mynediad o'r tŷ ynghyd â gosod dau bwmp gwresogi

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Creu balconi a drws mynediad o'r tŷ ynghyd â gosod dau bwmp gwresogi

 

   Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y bwriad yn ymwneud a gosod balconi llawr cyntaf ar hyd blaen y tŷ uwchben rhannau to gwastad presennol a gosod dau bwmp gwresogi i wasanaethu’r eiddo. Eglurwyd bod yr eiddo yn sefyll cyfochrog a mynediad i draeth Morfa Nefyn ond ar lefel ychydig uwch na’r traeth, gyda wal derfyn uchel yn amgylchynu’r blaen ac ochrau. Mae’r safle tu allan i ddynodiad yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (ond o fewn 240m) ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Enlli.

 

Yng nghyd-destun  mwynderau cyffredinol a phreswyl amlygwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd yn cynnwys sgrin soled 1.8m o uchder fyddai’n lleihau’r potensial o or-edrych drwy ffenestri’r cymydog. Aseswyd y cais yn erbyn gofynion Polisi PCYFF2 ac nid oedd y swyddogion yn credu y byddai’r datblygiad yn cael effaith ymwthiol ac andwyol ar fwynderau’r cymydog ac felly ystyriwyd y cynnig yn dderbyniol.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn ystyried yr addasiadau fel rhai sylweddol

·         Bod y Cyngor Cymuned a thrigolion lleol yn pryderu am newid i edrychiad a gwedd yr ardal

·         Dim gwrthwynebiad i osod dau bwmp gwresogi cyn belled eu bod tu mewn i’r safle

·         Ei fod yn gwrthwynebu’r balconi ar sail gorddatblygiad o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriedig (AHNE), tiroedd o ddiddordeb ac ardal sensitif

·         Nododd y byddai’r balconi yn hollol amlwg ac i’w weld o dri cyfeiriad

·         Byddai’r balconi yn amharu ar fwyniant defnyddwyr y traeth

·         Yr adeilad yn rhan o olygfa eiconig - yn cael ei gynnwys ar gardiau sydd yn hyrwyddo’r ardal - angen cadw'r olygfa fel y mae

·         Bod oddeutu 25 o fythynnod cyfochrog / agos heb falconi. Angen cadw at hyn a pheidio anharddu’r olygfa drawiadol.

·         Ei fod yn annog y Pwyllgor i wrthod gosod balconi

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais i osod balconi

 

 ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y balconi wedi ei wrthod mewn cais cynllunio blaenorol

·         Buasai gosod balconi yn amharu ar heddwch y traeth a mwynderau gweledol

·         Buasai’r balconi yn  amharu ar y golygfeydd i mewn ac allan o’r Ardal O Harddwch Naturiol Eithriadol

·         Y safle yn eiconig

·         Yr adeiladau yn rhai hanesyddol

·         Cymeradwyo’r cais i osod dau bwmp gwresogi i wasanaethu’r eiddo

 

d)    Mewn ymateb i sylw bod y Pwyllgor wedi gwrthod y balconi mewn cais cynllunio a drafodwyd yn flaenorol (02-09-19) atgoffwyd yr Aelodau, yn dilyn trafodaethau gyda’r asiant cyn y Pwyllgor hwnnw, bod yr elfen balconi ar flaen yr eiddo wedi ei ddiddymu o’r cais.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais i osod balconi llawr cyntaf ar hyd blaen y tŷ gan y byddai yn creu newidiadau annerbyniol eu hymddangosiad gan gael effaith weledol niweidiol ar olygfeydd i mewn ac allan o’r AHNE yn groes i Bolisiau PCYFF 3 ac AT 1 o’r CDLL ar y Cyd.

 

 

Dogfennau ategol: