Agenda item

Derbyn cyflwyniad gan Gomisiynydd y Gymraeg ar ei waith.

Cofnod:

Croesawyd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg i’r cyfarfod i roi cyflwyniad i’r aelodau ar ei waith.

 

Rhoddodd y Comisiynydd amlinelliad o’r hyn roedd yn weld fel pwrpas ei rôl, gan fanylu ar ei argraffiadau o sefyllfa’r Gymraeg ar draws Cymru.  Amlygodd y prif bwyntiau a ganlyn yn ystod ei gyflwyniad:-

 

·         Ei fod yn awyddus iawn i wybod beth oedd yr heriau o safbwynt y Cyngor hwn ac i weld pa gymorth y gallai ei swyddfa ei gynnig.

·         Yn dilyn cychwyn yn ei swydd yn Ebrill 2019, iddo fynd o gwmpas Cymru am 6 mis i geisio deall yn iawn beth oedd gwir sefyllfa’r Gymraeg, a’i fod wedi gweld bod y sefyllfa’n amrywio’n fawr o un rhan o Gymru i’r llall, gyda rhai mannau’n gwneud iddo deimlo’n obeithiol ac eraill yn gwneud iddo deimlo’n isel ar adegau.

·         Bod gweinyddu mewnol Cymraeg a rhai o bolisïau Cyngor Gwynedd i’w canmol a bod lle efallai i ledaenu’r ymarfer da yma ar draws Cymru.

·         Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru oedd Strategaeth Iaith Gymraeg 2050, bod lle iddo yntau, fel Comisiynydd, sicrhau bod y grymoedd oedd ganddo yn atgyfnerthu’r strategaeth honno.

·         Mai blaenoriaethau Swyddfa’r Comisiynydd yn y blynyddoedd cyntaf o ran y safonau ac o ran awdurdodau lleol fu i sicrhau bod dogfennau a gwasanaethau ar gael yn ddwyieithog, ond erbyn hyn roedd disgwyl i awdurdodau lleol fod yn hunan reoleiddwyr i raddau.

·         Bod yna safonau llawer pwysicach na hynny o ran dyfodol yr iaith, sef safonau yn ymwneud â’r angen i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol asesu effaith amrywiol bolisïau ar y Gymraeg a safonau’n ymwneud â gweinyddu mewnol.

·         Ei fod hefyd yn awyddus iawn i wneud mwy o waith o ran y cynlluniau hybu, gan mai’r unig ofyn ar gynghorau ar hyn o bryd oedd eu bod yn paratoi cynllun bob 5 mlynedd, ac nid oedd unrhyw gyfeiriad at fonitro na herio’r cynlluniau hynny.  Gan hynny, roedd yn awyddus bod y Swyddfa yn edrych ar yr hyn oedd yng Nghynllun Hybu Gwynedd.

·         Bod dyletswyddau’r Swyddfa wedi’u rhannu rhwng cyfrifoldebau rheoleiddio a chyfrifoldebau hybu.  Roedd gofyniad o fewn y ddeddf bod y Swyddfa’n cyflawni’r cyfrifoldebau rheoleiddio, ond wrth i’r cyfrifoldebau hynny gynyddu, a’r adnoddau brinhau, roedd yn mynd yn fwyfwy anodd gwneud y gwaith hybu.  Gan hynny, roedd yn rhaid rhywsut sicrhau bod adnoddau yn cael eu rhyddhau yn fewnol i alluogi i’r Swyddfa wneud mwy o waith hybu.

·         Er y cytunai gyda phob pwynt yng Nghynllun Hybu Gwynedd, bod lle i ofyn pa mor lwyddiannus oedd y Cyngor o ran yr hyn yr anelid ato, e.e. o ran yr asesiad digonolrwydd gofal plant, roedd tua 40% o’r lleoliadau o fewn sefyllfaoedd dwyieithog, ond nid oedd yna unrhyw ddiffiniad o ‘sefyllfa ddwyieithog’. 

·         Bod sefyllfa’r Gymraeg yn amrywio’n fawr ar draws Gwynedd ac nad oedd wedi sylweddoli cynt bod rhai ardaloedd o’r sir mor Seisnigaidd.  Cyfeiriodd yn benodol at y gwaith rhagorol oedd yn cael ei wneud gan bennaeth Ysgol Bro Idris o ran Cymreigio’r ysgol mewn amgylchiadau anodd iawn.

·         Bod y ffaith bod plant yn siarad Cymraeg yn rhugl erbyn cychwyn addysg uwchradd yn amlygu cryfder polisi addysg gynradd y sir, ond roedd lle i’r Cyngor edrych ar ei bolisi addysg o ran yr uwchradd.  Roedd lle hefyd i gwestiynu’r hyn oedd yn digwydd o ran trosglwyddo ieithyddol o fewn y cartref gan ei bod yn ymddangos mai’r ysgol, ac nid y cartref, oedd yn amddiffyn y Gymraeg bellach.  Roedd yn bwysig hefyd nad oedd plant yn ystyried mai ond yn yr ysgol roedd y Gymraeg o bwys.

·         Bod y ddarpariaeth addysg Gymraeg yn gallu bod yn gymysglyd ac yn anghyson mewn rhai ysgolion dwyieithog, gyda llai nag a ddylai o’r disgyblion yn sefyll 5 neu fwy TGAU drwy’r Gymraeg.

·         Bod y sgwrs yn parhau o ran beth oedd yn digwydd ôl-16.  Nid oedd yna unrhyw addysg cyfrwng Cymraeg o fewn addysg bellach yn y De Ddwyrain, ac roedd tua 85% o’r gwariant ar y Gymraeg mewn addysg bellach yn mynd i ddau goleg yng Nghymru.

·         Bod lle i ddiolch i Wynedd am y camau a gymerwyd o safbwynt prentisiaethau.

·         Bod yr holl strategaethau o ran yr iaith yn dangos nad oedd pobl ifanc a fu mewn addysg Gymraeg yn parhau i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl cyrraedd 16 oed, nac yn dwyn eu plant i fyny maes o law i siarad yr iaith yn naturiol.  Golygai hynny bod rhaid buddsoddi miliynau yn cyflwyno’r iaith i’r genhedlaeth nesaf o blant yn yr ysgolion ac nid oedd y sefyllfa’n gynaliadwy.  Roedd angen sicrhau bod gan yr awdurdodau iechyd strategaethau o ran cyflwyno’r iaith i rieni ifanc ac roedd cyfrifoldebau ar awdurdodau lleol i sicrhau bod gofal plant ar gael yn Gymraeg yn lleol ar gyfer y rhieni ifanc hynny.  Hefyd, roedd yn rhaid atgyfnerthu sefyllfa’r Gymraeg o fewn yr ysgolion a sicrhau bod hynny’n parhau drwodd i’r uwchradd ac ymlaen i addysg ôl-16.

·         Bod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth a Llywodraeth Prydain i sicrhau cyfleoedd gwaith i bobl ifanc yn y Gogledd Orllewin, a bod cyflogau sy’n seiliedig ar y gwasanaeth sifil yn cael eu talu yng Ngwynedd.  Rhaid cofio hefyd bod colli swyddi yng Ngogledd Cymru, yn enwedig y Gogledd Orllewin, yn cael mwy o ardrawiad oherwydd sefyllfa fregus yr economi.

·         Nad oedd Cymraeg 2050 yn diffinio ‘siaradwr Cymraeg’, ond bod yna ail darged oedd yn bwysicach, sef ein bod yn cynyddu’r ganran sy’n defnyddio Cymraeg yn ddyddiol o’r 10% presennol i tua 20% erbyn 2050.  Roedd llawer iawn mwy o obaith o gyrraedd y nod os oedd y Gymraeg yn dal ei thir, neu’n ennill tir, yng Ngwynedd oherwydd bod yna lawer mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol yng Ngwynedd nag mewn mannau eraill.

·         Na ddymunai weld Cymru yn yr un sefyllfa ag Iwerddon.  Y Wyddeleg oedd iaith gyntaf swyddogol Iwerddon, ond o’r 1.76m o bobl oedd yn dweud eu bod yn medru siarad yr iaith (sef canran eithaf tebyg i’r targed o 1m o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050) dim ond 56,000 oedd yn dweud eu bod yn defnyddio’r iaith yn ddyddiol.  Hawdd meddwl, oherwydd bod gan yr iaith statws am y tro cyntaf, ein bod yn ennill y frwydr, ond ar ein haelwydydd y byddai’r frwydr yn cael ei hennill, o fewn y gweithleoedd ac yn y colegau.

·         Ei fod yn obeithiol am y dyfodol ac yn gweld newid o ran y safonau, ac erbyn hyn, nid oedd modd i unrhyw gyngor herio Swyddfa’r Comisiynydd o safbwynt yr hyn y dylent wneud o ran y Gymraeg, gan ei fod yn ddeddfwriaeth bellach.  Er hynny, roedd yna lawer mwy o waith i’w wneud o ran hybu, a hybu defnydd o’r Gymraeg yn arbennig.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Diolchwyd i’r Comisiynydd am roi dogn o realaeth i’r pwyllgor, a phwysleisiwyd pwysigrwydd cynyddu a gwella’r hyn oedd gennym.

·         Mynegwyd gobaith y byddai categoreiddio’r ysgolion yn cael ei wireddu.

·         Nodwyd na ddeellid pam ein bod yn annog ein pobl ifanc i fynd i golegau y tu allan i Gymru, a pham bod Llywodraeth Cymru yn talu i’w gyrru i’r llefydd hynny. 

·         Nodwyd bod y Cyngor hwn yn obeithiol ac yn uchelgeisiol o ran yr iaith, ac yn rhannu gweledigaeth y Comisiynydd o ran hybu defnydd yr iaith ac ymarfer da.

·         Holwyd sut y gallai’r Cyngor gydweithio gyda Swyddfa’r Comisiynydd i sicrhau mwy o gyfle i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ym maes technoleg.

·         Nodwyd bod y sector addysg bellach yn bwysig iawn o ran cynhyrchu siaradwyr Cymraeg a’i bod yn debygol bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn cael eu cynhyrchu gan y system addysg nag ar yr aelwyd erbyn hyn.

·         Nodwyd ei bod yn ymddangos mai’r ffordd o gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 oedd drwy gynyddu’r nifer o blant mewn addysg Gymraeg ledled Cymru, er y cydnabyddid bod y cynnydd hwnnw’n mynd i fod yn araf.

·         Nodwyd bod y galw am addysg Gymraeg yn Ne Ddwyrain Cymru yn uwch na’r ddarpariaeth, a holwyd i ba raddau y gellid sicrhau bod unrhyw un a ddymunai derbyn addysg Gymraeg yn cael mynediad i hynny o fewn pellter rhesymol.

·         Cyfeiriwyd at Ysgol y Traeth, Bermo fel enghraifft o ysgol oedd yn llwyddo i gyflawni gwaith arloesol o ran y Gymraeg mewn ardal heb draddodiad Cymraeg.  Nodwyd bod cyflyru’r disgyblion a’u rhieni i weld mantais y Gymraeg fel pwnc a chyfrwng mewn ardaloedd o’r fath yn dalcen caled.

·         Nodwyd bod y Gymraeg yn bwysig fel cymhwyster ar gyfer gyrfaoedd yng Ngwynedd ac yn cael ei gweld fel iaith cyfleon, ond bod angen rhoi mwy o bwysau ar awdurdodau eraill ar draws Cymru i benodi staff dwyieithog.

·         Nodwyd bod y cynllun Doctoriaid Yfory yn gynllun da iawn sy’n torri tir newydd.

·         Nodwyd bod Ysgol Gynradd Rhiwlas yn parhau i wneud gwaith da o ran y Gymraeg, ond bod y plant sy’n symud trosglwyddo i Ysgol Friars yn anghofio eu Cymraeg yn fuan iawn. 

·         Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau bod yr Adran Gynllunio yn ystyried dylanwad unrhyw ddatblygiad ar yr iaith, boed wedi ei glustnodi yn y Cynllun Datblygu ai peidio.

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau a’r cwestiynau uchod, nododd y Comisiynydd:-

 

·         Iddo fod yn rhannol gyfrifol am lunio’r polisi ariannu myfyrwyr cyfredol, a bod cyngor cyfreithiol ar y pryd yn dweud nad oedd yn bosib’ cyfyngu mynediad i golegau yng Nghymru.

·         O ran technoleg, bod y cyfrifoldeb wedi trosglwyddo o Swyddfa’r Comisiynydd i’r Llywodraeth ers Medi'r llynedd, a bod hynny’n arwyddocaol, gan fod adnoddau’r Llywodraeth yn llawer iawn mwy a chanddynt fwy o ddylanwad o ran prynu systemau, ayb.  Roedd cynrychiolwyr o’r Swyddfa yn trafod problemau a godwyd gan Gyngor Gwynedd o ran yr apiau Cymraeg gyda’r Llywodraeth ac roedd yn bwysig bod y Cyngor yn parhau i gyfeirio problemau ymarferol o’r fath at Swyddfa’r Comisiynydd fel y gellid symud ymlaen i’w datrys.

·         Bod ateb y galw am addysg Gymraeg yn ddibynnol ar i ffigurau’r Llywodraeth o ran beth fydd ei angen o ran twf gyd-fynd gyda’r gwir alw.  Credid bod digon o lacrwydd o fewn y system ar hyn o bryd i sicrhau bod hynny’n digwydd, ond petai yna fwy o alw na’r hyn oedd yn cael ei gynllunio gan y Llywodraeth a chan lywodraeth leol, byddai yna drafodaeth ddiddorol i’w chael.  Ni fyddai’n golygu adeiladu ysgolion newydd ymhob man, ond byddai yna alw ar rai ysgolion i newid eu cyfrwng iaith.  Roedd rhaid bod yn realistig hefyd ynglŷn â’r diffyg cynllunio dros y 10-15 mlynedd ddiwethaf o ran faint o athrawon cyfrwng Cymraeg oedd eu hangen i gyflenwi’r hyn oedd gennym ar hyn o bryd, heb sôn am y twf.

·         Y cytunid bod angen cynyddu’r cyfleoedd oedd ar gael i bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.  Cynhaliwyd asesiad o faint o’r cynghorau oedd yn dynodi swyddi fel rhai Cymraeg yn hanfodol a gwelwyd bod y prosesau yn eithaf elfennol, gyda rhai yn tueddu i ddefnyddio’r Gymraeg yn hanfodol o fewn yr Adran Addysg yn unig, ac eraill heb unrhyw ofynion ieithyddol. Nodwyd ymhellach bod y Llywodraeth wedi creu corff Addysg a Gwella Iechyd Cymru nad oedd yn dod o dan y safonau hyd yn oed, ac nid oedd prosiect ‘Mwy na Geiriau’ y Bwrdd Iechyd yn cael ei fonitro o gwbl.  Cydnabyddid bod yr ymgais i ddenu mwy o feddygon Cymraeg yn ganmoladwy, ond roedd y Swyddfa’n derbyn mwy o gwynion iaith o ran y byrddau iechyd na llywodraeth leol.  Nid oedd yna ddiffyg ymrwymiad i’r Gymraeg ar lefel strategol, eithr diffyg gweithredu ar lawr gwlad.  Er mai’r cynghorau oedd ar flaen y gad o ran safonau, roeddent yn methu  darparu gwasanaethau Cymraeg oherwydd eu methiant i benodi siaradwyr Cymraeg, a rhan o’i waith yn ystod y 6-7 mlynedd nesaf fyddai ceisio ei orau i gyflawni’r cylch fel nad oedd yr holl fuddsoddiad oedd yn cael ei wneud mewn addysg yn cael ei wastraffu.

·         Bod y niferoedd oedd yn sefyll arholiadau Cymraeg iaith gyntaf yn Ysgol Friars yn codi.  Roedd ysgolion yn marchnata eu hunain ar sail faint o raddau A* - C roedd eu disgyblion yn dderbyn, ac roedd yn naturiol i deuluoedd di-gymraeg fod yn awyddus i’w plant sefyll arholiad Cymraeg ail iaith gan y byddent yn fwy tebygol o ennill gradd dda.  Efallai bod angen gwneud yn sicr bod plant oedd wedi derbyn addysg gynradd Gymraeg yn sefyll arholiad Cymraeg iaith gyntaf, fel eu bod yn rhugl yn y Gymraeg wrth adael yr ysgol.  Ychwanegodd nad oedd gan gategoreiddio ysgolion sail ddeddfwriaethol o gwbl.  Roedd y ddarpariaeth yn gallu bod yn gymysglyd ac anghyson mewn rhai ysgolion dwyieithog, gyda llai yn astudio pynciau drwy’r Gymraeg nad a ddylai.  Cyfeiriodd at ysgol benodol y tu allan i Wynedd oedd yn disgyn dan gategori dwyieithog 2A (a olygai bod 80% o’r disgyblion i fod i dderbyn addysg Gymraeg), gan nodi, pan edrychodd ar y ffigurau, y gwelodd mai 37% yn unig o’r disgyblion oedd yn sefyll arholiadau drwy’r Gymraeg mewn o leiaf pump o’u pynciau.  Pan holwyd yr ysgol ynglŷn â’r sefyllfa, eglurwyd y byddai gwthio’r Gymraeg yn ormodol yn golygu y byddai’r ysgol yn colli plant i ysgol arall gyfagos.  Roedd cyfrifoldeb hefyd ar y consortia addysg ac Estyn i dynnu sylw at unrhyw broblemau o safbwynt categori ieithyddol ysgolion o gymharu â’r hyn oedd yn digwydd o fewn y dosbarthiadau.  Roedd y cyfrifoldeb cyfreithiol ar ysgwyddau’r cynghorau sir, ond anaml iawn y byddai’r cynghorau’n gyrru pobl i mewn i ysgol i weld beth oedd yn mynd ymlaen.  Yn ei dŷb ef, os oedd ysgol yn ddwyieithog, dylai’r plentyn fod yn gadael yr ysgol yn 16 oed yn medru’r Gymraeg, ond gan nad oedd hynny’n digwydd, roedd angen trafodaeth ynglŷn â chategoreiddio.  Ni ellid cael cyfaddawd fel fu’n digwydd yn y gorffennol, gan nad oedd y cyfaddawd hwnnw’n gwneud dim ond gwanhau sefyllfa’r iaith.

·         O ran cynllunio, bod lle i Lywodraeth Cymru benderfynu ai’r TAN 20 newydd neu’r ddeddfwriaeth oedd y ffordd ymlaen.  Roedd sgwrs arall i’w chael gyda’r Arolygydd Cynllunio wrth iddynt symud i sefyllfa lle'r oedd yr Arolygiaeth Cynllunio ar gyfer Cymru’n unig.  Efallai nad oedd y Gymraeg wedi bod yn gryfder o ran eu hasesiadau o dan y gyfundrefn hanesyddol, ond roedd hynny’n rhywbeth y byddai’n rhaid ei ddatblygu wrth symud ymlaen.  Nid mater i’r cynghorau sir ydoedd, ond roedd angen gwneud yn siŵr bod yr holl gyfundrefn gynllunio yn talu sylw digonol i’r Gymraeg.

 

          Diolchwyd i’r Comisiynydd am ei gyflwyniad diddorol ac ysbrydoledig ac am ymateb i gwestiynau a sylwadau’r aelodau.  Mynegwyd dymuniad i’w wahodd yn ôl i’r pwyllgor i barhau’r drafodaeth a dymunwyd yn dda iddo yn ei waith.

 

          Mewn ymateb, nododd y Comisiynydd y byddai’n awyddus i ddychwelyd i’r pwyllgor i drafod rhai o’r problemau ymarferol, megis addysg a chynllunio, gan fod pawb yn gweithio tuag at yr un nod.

 

          Gwahoddwyd yr aelodau i gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd os oedd ganddynt unrhyw sylwadau neu gwestiynau pellach.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn pellach gan aelod, cadarnhaodd y Comisiynydd nad oedd gan y Swyddfa rôl o safbwynt cywirdeb iaith mewn ysgolion nac o ran enwau tai a ffermydd, er bod ganddynt gyfrifoldeb o ran enwau pentrefi a threfi.