skip to main content

Agenda item

Ystyried adroddiad y Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol Addysg  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol Addysg yn gwahodd y pwyllgor i ystyried cynnwys yr adroddiad adolygu blynyddol a chynnig sylwadau.

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad ac i gyflwyniad Comisiynydd y Gymraeg (eitem 5 uchod), nododd y Pennaeth Addysg:-

 

·         Y cytunai’n llwyr fod y ddarpariaeth mewn ysgolion mewn perthynas â chategori 2A wedi bod yn wendid yn y gorffennol, ond ers dyfodiad y Strategaeth Iaith Uwchradd yng Ngwynedd, roedd gan yr awdurdod ddarlun clir o’r sefyllfa ymhob ysgol bellach.  Roedd y wybodaeth honno’n hanfodol er mwyn llunio cynllun pwrpasol ar gyfer yr holl sefyllfaoedd ieithyddol gwahanol ym mhob ysgol er mwyn cryfhau, nid yn unig yr elfen defnydd cymdeithasol, ond hefyd i ddylanwadu ar gwricwlwm iaith.

·         Na allai orbwysleisio i ba raddau roedd yr Adran yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gallu darparu'r holl ystod o wasanaethau i’r dysgwyr mwyaf bregus drwy gyfrwng y Gymraeg (deilliant 6) a bod hyn yn glod i’r staff ac i weledigaeth y Cyngor a’r buddsoddiad a wnaed yn y maes yma.

·         Bod y Gweinidog Addysg wedi llongyfarch Gwynedd ar y ffordd y bu i’r Cyngor sefydlu system addysg wahanol yn Nolgellau, a olygai bod Cymreictod yr ysgolion cynradd bellach yn treiddio drwy Ysgol Bro Idris.  Nododd hefyd y dymunai longyfarch y Pennaeth a’r staff a’r llywodraethwyr ar eu gwaith yn hyrwyddo, yn mynnu ac yn sicrhau bod y Gymraeg yn dal ei thir yn yr ysgol.

·         Bod gan Bennaeth Ysgol Uwchradd Tywyn weledigaeth gadarn hefyd.  Eto, fel Bro Idris, roedd Tywyn yn dalcen caled o ran dylanwadu’n gadarnhaol o ran y Gymraeg, ond roedd y modd y bu i’r ysgol fabwysiadu’r cynllun ar gyfer y Strategaeth Iaith Uwchradd wedi cael sylw cenedlaethol ac yn ffordd ymlaen i unrhyw sefydliad arall.

·         Y gwelwyd egin sylweddol o newid yn Ysgol Friars hefyd, gyda’r nifer oedd yn sefyll Cymraeg Iaith Gyntaf ar gynnydd. 

·         Bod canran y plant oedd yn dod i’r cyfnod sylfaen o aelwydydd di-gymraeg ar gynnydd.  Roedd dirywiad mewn sgiliau cymdeithasol plant yn ffactor hefyd, gyda phlant yn cychwyn y cyfnod sylfaen heb sgiliau cyfathrebu mewn unrhyw iaith, ac roedd y ffaith bod bron pob un ohonynt yn cael eu hasesu drwy’r Gymraeg ar ddiwedd blwyddyn 2 yn dyst i lwyddiant y cyfnod sylfaen yng Ngwynedd. 

·         Y credid bod camau breision yn digwydd yn yr uwchradd hefyd yn sgil y ffaith bod gan Wynedd y Strategaeth Iaith Uwchradd gyntaf o ran hyrwyddo’r Gymraeg yng Nghymru.

·         Bod llwyddiant y Siarter Iaith Cynradd wedi lledaenu drwy Gymru erbyn hyn a bod hynny o ganlyniad i weledigaeth ysgolion cynradd Gwynedd yn ei fabwysiadu yn 2011.

·         Bod Estyn bellach, am y tro cyntaf, yn mesur i ba raddau roedd ysgolion yn mesur defnydd anffurfiol plant o’r Gymraeg, a bod hynny’n deillio’n uniongyrchol o gyfarfod yng Nghaerfyrddin yn 2013 lle cyflwynwyd copi o Siarter Iaith Gwynedd i’r Prif Arolygydd Ysgolion ar y pryd.

·         Y cytunai â’r Comisiynydd fod angen herio beth oedd cyd-destun ysgol o ran dwyieithrwydd a bod lle i fynd hefyd o ran wynebu a gallu adrodd ar realiti ein hysgolion, ond roedd y ffaith bod cydnabyddiaeth o hynny yn gam pwysig ymlaen.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Ategwyd y ffaith bod gwaith gwych yn digwydd yn Ysgol Bro Idris ac yn Ysgol Uwchradd Tywyn.

·         Nodwyd, oherwydd canfyddiad bod Ysgol Friars yn ysgol Saesneg, bod plant yn teithio yno o ardaloedd megis Porthmadog, a gofynnwyd am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun peilot i ddatblygu sgiliau iaith y gweithlu.

·         Nodwyd, er bod nifer o blant yn sefyll TGAU Cymraeg iaith gyntaf, bod llawer llai yn dilyn pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg, a holwyd a oedd data ar gael o ran pa mor dda mae’r grŵp yma o blant yn siarad Cymraeg.

 

Mewn ymateb i rai o’r sylwadau a’r cwestiynau uchod, nodwyd:-

 

·         Bod y cynllun peilot i ddatblygu sgiliau iaith y gweithlu yn Ysgol Friars wedi ei gyllido drwy grant oedd yn dod i’r rhanbarth ac wedyn yn cael ei ddyrannu.  Defnyddiwyd yr arian grant yma dros gyfnod o amser i gyflogi tiwtor iaith i weithio gyda rhai o athrawon yr ysgol, er mwyn datblygu eu sgiliau a’u hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y dosbarth, gan ddatblygu elfen o Gymraeg o fewn eu hadnoddau addysgol hefyd.  Nid proses dros nos fyddai caffael y sgiliau hynny ac ni osodwyd targed penodol ar gyfer hynny.  Er hynny, roedd yr Adran yn cydweithio’n agos gyda’r ysgol ac yn dylanwadu lle’r oedd modd gwneud hynny. 

·         Bod hwn yn gyfnod cyffrous iawn yng Ngwynedd yng nghyd-destun y Gymraeg, gyda’r Siarter Iaith wedi’i hen sefydlu, a’r Strategaeth Iaith Uwchradd yn cael mwy o ddylanwad ar garfan o blant yng nghyd-destun y Gymraeg yn ffurfiol ac yn anffurfiol na fu erioed o’r blaen.

·         Bod y Gwasanaeth hefyd yn cynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd yn sgil gwaith yr Athro Donaldson, fyddai’n dod yn gynyddol bwysicach ym mywydau ein hysgolion.

·         Y comisiynwyd darn o waith i edrych ar y ddarpariaeth ôl-16 yng Ngwynedd, gyda ffocws penodol ar yr elfen 6ed dosbarth yn Arfon, er mwyn gweld a oedd achos dros newid y drefn bresennol.  Roedd y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn greiddiol i’r briff ar gyfer y gwaith yma ac roedd rhaid torri’r canfyddiad bod addysg ôl-16 trwy gyfrwng y Gymraeg yn rwystr i bobl ifanc.

·         Gan fod cymaint yn digwydd yn y maes yma ar hyn o bryd, penderfynwyd sefydlu Bwrdd Prosiect o gwmpas y Gymraeg, a nodwyd y byddai’r Adran yn falch o roi adroddiadau crynodol ac amserol i’r pwyllgor ar y gwaith fel ffordd o ddangos beth roedd yr Adran yn ei wneud ym maes y Gymraeg yn ei gyfanrwydd.

·         Ei bod ychydig yn gynamserol i gyflwyno data o ran defnydd iaith fwy anffurfiol y disgyblion hynny oedd yn sefyll TGAU, ond gobeithid gweld maes o law bod cyswllt rhwng y rhai oedd yn dilyn nifer o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r defnydd a wneid ganddynt o’r Gymraeg.  Dyma un rheswm pam bod angen rhoi sylw penodol i’r cyfrwng ar draws y cwricwlwm gan mai hyn oedd yn mynd i roi’r sgiliau a’r hyder i’r dysgwyr allu defnyddio’r Gymraeg mewn ystod o wahanol sefyllfaoedd, yn hytrach na’r Gymraeg fel pwnc yn unig.

 

Awgrymodd y Cadeirydd, gan fod yna dipyn o gwestiynau a thipyn o drafodaeth i’w chael eto, y dylai’r pwyllgor graffu ymhellach ar yr adroddiad.  Diolchodd i’r Pennaeth Addysg am awgrymu bod adroddiadau rheolaidd yn dod yn ôl i’r pwyllgor ac awgrymodd y dylai cynrychiolydd o’r pwyllgor eistedd ar y Bwrdd Prosiect o gwmpas y Gymraeg i graffu’r cynllun oherwydd ei fod mor gynhwysfawr, a hefyd i ddiwallu’r angen i gefnogi’r Pennaeth Addysg gyda’r cynllun.

 

PENDERFYNWYD cynnig y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Cynghorydd Alwyn Gruffydd er ystyriaeth gan yr Adran i fod yn aelodau o’r Bwrdd Prosiect er mwyn craffu’r cynllun ymhellach.

 

 

Dogfennau ategol: