Cyflwynwyd gan:Cyng/Cllr Cemlyn Williams
Penderfyniad:
Penderfynwyd
derbyn y sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol ynghyd a chytuno i:
Cofnod:
Cyflwynwyd gan
Cyng. Cemlyn Williams
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd derbyn y sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori
statudol ynghyd a chytuno i:
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ym mis Rhagfyr fod y Cabinet wedi cymeradwyo y cais i
ddechrau cyfnod o ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn
yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Pwysleisiwyd bod
niferoedd y disgyblion wedi lleihau i 8 dros y blynyddoedd diwethaf a bod
rhagamcanion yn amlygu y bydd tebygolrwydd y bydd y niferoedd yn cwympo
ymhellach dros y 5 mlynedd nesaf a bod hyn yn anorfod yn ffactor blaenllaw.
Nododd y Pennaeth
Addysg yn ystod y cyfnod ymgynghori fod 7 ymatebiad wedi ei dderbyn ynghyd ag
ymatebiad gan Estyn a trefnwyd sesiynau gyda’r disgyblion. Bu i’r Swyddog Ardal
nodi’r sylwadau a godwyd gan y disgyblion a oedd yn pwysleisio eu bod yn
tristau fod cau'r ysgol yn opsiwn a'u bod yn awyddus i fynychu Ysgol Chwilog yn
hytrach ‘nac Ysgol Bro Plennydd o ganlyniad i gysylltiadau ar ysgol yn barod.
Ategwyd fod Ysgol y Chwilog ac Ysgol Llanaelhaearn wedi bod yn gweithio yn agos
ond fod Ysgol Bro Plennydd wedi ei ddewis fel ysgol amgen gan ei bod yn nes yn
ddaearyddol. Ychwanegwyd fod modd i Ysgol Bro Plennydd ymdopi a’r nifer
ychwanegol o ddisgyblion ac o ganlyniad i hyn y bydd dalgylch yr ysgol yn cael
ei ymestyn. Ymhelaethwyd yn ogystal gan fod y disgyblion yn awyddus i fynd i
Ysgol Chwilog y byddai’r Adran yn fodlon talu costau cludiant i ddisgyblion
presennol yr ysgol fynychu’r ysgol honno os mai hynny fyddai dymuniad y rhieni
a bod modd eu cofrestru yn yr ysgol. Yn
hynny o beth tanlinellwyd y byddai hynny yn ddibynnol ar argaeledd lle yn ysgol
Chwilog, o gofio mai plant y dalgylch fyddai’n cael blaenoriaeth. Ar sail y
sefyllfa fel ag y mae hi ar hyn o bryd, ac oni bai i bethau newid yn sylweddol
ym Medi, ni ddylai hynny fod yn
broblemus.
Mynegodd yr aelod
Lleol ei siom a thristwch o gau'r ysgol. Diolchwyd a mynegodd glod i’r staff am
ddarparu addysg i’r disgyblion sydd ar ôl ac i’r Llywodraethwyr am ymgeisio i
gael disgyblion yn ôl i’r ysgol. Diolchwyd yn ogystal i’r adran Addysg am roi'r
cynnig yno i gael mynd i Ysgol Chwilog yn ogystal.
Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth
¾
Mynegwyd
fod yr ystadegau yn yr adroddiad yn amlygu’r heriau sydd yn wynebu’r ysgol.
Diolchwyd i’r Adran am eu gwaith ymgysylltu a holwyd os bydd yr Adran yn
darparu cludiant i’r ddwy ysgol. Esboniwyd y bydd cludiant ar gael ac felly fod
dewis ysgol yn ddibynnol ar ddymuniad rhieni.
¾
Holwyd
o ran amserlen bydd y modd i rieni i gofrestru eu plant yn un o’r ddwy ysgol.
Amlygwyd y bydd y disgyblion yn symud yn awtomatig i Ysgol Bro Plennydd ac yna
dewis y rhiant fydd ymgeisio i gofrestru yn Ysgol Chwilog.
¾
Mynegwyd
cefnogaeth i’r cynnig i fynd i ddwy ysgol fel bod y plant yn cael dewis eu
hysgol.
¾
Nodwyd
tristwch o gau'r ysgol a diolchwyd i’r Llywodraethwyr yr Ysgol.
Awdur:Gwern ap Rhisiart
Dogfennau ategol: