Cyflwynwyd gan:Cyng/Cllr Dyfrig Siencyn
Penderfyniad:
Penderfynwyd
cymeradwyo Cynllun Cyngor Gwynedd 2018/23 – Adolygiad 2020/21 i’w gyflwyno i’r
Cyngor ar y 5 Mawrth 2020 yn ddarostyngedig i’r canlynol:
¾
Ychwanegu
cymalau yn Adran Dai i nodi beth mae’r Cyngor yn ei wneud ac yn blaenoriaethau
am y flwyddyn i ddod o ran y broblem sy’n cael ei greu o ran cyflenwad yn sgil
y nifer o dai haf sydd yn y sir.
¾
Addasiadau
i drefn gwybodaeth Adran Addysg yn y Cynllun.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Cyngor
Gwynedd 2018/23 – Adolygiad 2020/21 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 5 Mawrth 2020
yn ddarostyngedig i’r canlynol:
¾
Ychwanegu cymalau yn Adran Dai i nodi beth mae’r
Cyngor yn ei wneud ac yn blaenoriaethau am y flwyddyn i ddod o ran y broblem
sy’n cael ei greu o ran cyflenwad yn sgil y nifer o dai haf sydd yn y sir.
¾
Addasiadau i drefn gwybodaeth Adran Addysg yn y
Cynllun.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod Cynllun y Cyngor wedi ei fabwysiadu yn wreiddiol gan y
Cyngor Llawn yn 2018. Ychwanegwyd fod y Cynllun yn cael ei adolygu yn
flynyddol. Mynegwyd fod y Cyngor yn ceisio gwneud y Cynllun yn ddealladwy i
drigolion ac yn amlinellu prif brosiectau’r Cyngor am y flwyddyn i ddod.
Tynnwyd sylw at
ddwy eitem newydd sydd wedi ei hychwanegu yn y Cynllun - Gwaith y Cynllun Newid
Hinsawdd a'r Gwasanaeth Tai ac Eiddo. Mynegwyd fod y meysydd hyn yn cyfarch
cyfrifoldebau yn y maes newid hinsawdd ac yn arddangos blaenoriaethu sylweddol
mae’r Cyngor yn ei wneud yn y Maes Tai.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Croesawyd
yr ychwanegiad o adran Tai ac Eiddo a phwysleisiwyd fod y maes yn un heriol gan
fod nifer uchel o dai'r sir yn dai haf. Ategwyd fod angen ychwanegu cymal i’r
adran yn nodi eu blaenoriaethau am y flwyddyn sydd i ddod o ran y broblem sy’n
cael ei greu o ran cyflenwad yn sgil y nifer o dai haf yn y sir.
¾
Mynegwyd
balchder fod newid hinsawdd i’w gweld yn y Cynllun ac amlygwyd yr heriau sydd
gan Ymgynghoriaeth Gwynedd i amddiffyn cymunedau. Pwysleisiwyd fod yr Adran
Priffyrdd yn ogystal yn uchafu ailgylchu, lleihau ysbwriel yn mynd i dirlenwi a
drwy gynlluniau yn ymgeisio lleihau ar wastraff yn cael ei greu. Ychwanegwyd
fod y cyfarfod Grŵp Newid Hinsawdd yn cyffwrdd pob adran ac yn edrych ar
ffyrdd i symud ymlaen.
¾
Trafodwyd
gwybodaeth yr Adran Addysg yn yr adroddiad gan nodi os yn edrych arno fel
dinesydd nad yw’r wybodaeth yn sôn llawer am waith yr ysgolion eu hunain gan
gychwyn gyda’r gwasanaeth gwella ysgolion.
Pwysleisiwyd fod angen addasu cynllun yr Adran Addysg i sicrhau
eglurdeb.
¾
Tynnwyd
sylw ar Flaenoriaeth 8 - Busnesau’n Cael Cymorth i Ffynnu gan holi os yw’r
gwaith hwn yn waith dydd i ddydd. Mynegwyd fod cefnogi busnesau yn waith dydd i
ddydd ond ei fod wedi ei uchafu oherwydd bod y dyfodol yn ansicr o ganlyniad i
Brexit.
¾
Pwysleisiwyd
fod yr adroddiad yn rhoi darlun clir o waith y Cyngor ac yn amlygu cyfeiriad
clir.
¾
Amlygwyd
fod y ddogfen yn y pendraw yn cael ei greu ar gyfer y trigolion a thra ei fod
yn amlygu’n glir beth yr ydym yn ei wneud i wasanaethu trigolion Gwynedd, nid
yw’n amlygu’n glir drwyddo pa mor dda yr ydym yn cyflawni hynny gan fod hynny
yn ymddangos yn ein Adroddiad ar Berfformiad. Mynegwyd hefyd bod angen edrych
ar eiriad y ddogfen yn y dyfodol i sicrhau Cymraeg clir. Ychwanegwyd fod
gobaith y bydd modd cyfuno Cynllun y Cyngor a’r Adroddiad Perfformiad y
flwyddyn nesaf fel bod modd sicrhau fod gennym gynllun sy’n nodi beth yr ydym
yn ei wneud ar gyfer trigolion Gwynedd a pha mor dda yr ydym yn ei wneud – sef
y materion sydd am fod o ddiddordeb i
drigolion.
¾
Croesawyd
plethiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn y ddogfen
¾
Diolchwyd
i staff y Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor am eu gwaith i greu Cynllun y
Cyngor,
Awdur:Dewi Jones
Dogfennau ategol: