Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng/Cllr Ioan Thomas

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

 

a)    Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2020) y dylid:

 

1.    Sefydlu cyllideb o £261,837,750 ar gyfer 2020/21 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £187,579,040 a £74,258,710 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.9%.

 

2.    Sefydlu rhaglen gyfalaf o £44,247,260 yn 2020/21 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

b)    Cymeradwyo symud ymlaen i weithredu’r rhestr cynlluniau arbedion sy’n Atodiad 3, er mwyn sefydlu’r gyllideb argymhellir i’r Cyngor llawn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas 

 

            PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i:

 

a)    Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2020) y dylid:

 

1.    Sefydlu cyllideb o £261,837,750 ar gyfer 2020/21 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £187,579,040 a £74,258,710 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.9%.

 

2.    Sefydlu rhaglen gyfalaf o £44,247,260 yn 2020/21 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

b)    Cymeradwyo symud ymlaen i weithredu’r rhestr cynlluniau arbedion sy’n Atodiad 3, er mwyn sefydlu’r gyllideb argymhellir i’r Cyngor llawn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y bydd gyllideb yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn yn dechrau mis Mawrth. Esboniwyd fod y setliad drafft Gwynedd yn un o’r rhai uchaf yng Nghymru ac yn well na’ beth oedd wedi ei rhagweld. Er hyn, mynegwyd, nid yw’r setliad drafft yn ddigonol i gyfarch chwyddiant a galw ychwanegol ar wasanaethau. Nodwyd y bydd y setliad yn llawn yn cael ei gyhoeddi gan y Llywodraeth ar 25 Chwefror.

 

Trafodwyd y  gwariant refeniw gan dynnu sylw at Derfynu Grantiau Penodol gan nodi fod y Llywodraeth yn ariannu cynlluniau drwy grantiau ac yna yn nodi na fydd y grantiau yn parhau'r flwyddyn ganlynol ac nid yw’r arian yn trosglwyddo i’r setliad chwaith. O ganlyniad nodwyd fod angen i’r Cyngor ddarparu’r arian. Tynnwyd sylw at y bidiau oedd i’w gweld o dan y pennawd Pwysau ar Wasanaethau gan nodi diolch i’r Prif Weithredwr am ei waith yn mynd drwy’r holl fidiau. Mynegwyd fod y gyllideb yn nodi y bydd addasiadau cytundebau torfol i staff yn cael ei ddiddymu eleni yn gyfan gwbl. Nodwyd fod y Gronfa Bensiwn wedi derbyn dychweliadau gwell na’r disgwyl dros y blynyddoedd diwethaf ac o ganlyniad ni fydd angen i’r Cyngor ychwanegu cymaint mewn i’r gronfa'r flwyddyn nesaf.

 

Esboniwyd fod cynlluniau arbedion wedi eu trafod yn Pwyllgorau cCaffu dros y misoedd diwethaf a phwysleisiwyd fod nifer ohonynt yn gynhennus. Mynegwyd yn dilyn y trafodaethau hyn fod y nifer o gynlluniau arbedion wedi lleihau. Tynnwyd sylw at y tabl a oedd yn nodi sefydlu’r gyllideb a oedd yn amlygu anghenion gwario'r Cyngor a bod y bwlch ariannol yn cael ei gyfarch drwy godi’r dreth Cyngor 3.9%. Ychwanegwyd gyda’r dyfodol mor aneglur ar hyn o bryd nad oedd angen edrych ymhellach nac eleni ac argymhellwyd i’r adroddiad gael ei thrafod yn y Cyngor Llawn.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid fod cynlluniau i falensau wrth gefn gael eu defnyddio er mwyn rheoli risg pe bai'r setliad is nag yr un sydd wedi ei gyhoeddi. Mynegwyd na fydd angen ei defnyddio’r balansau eleni. Pwysleisiwyd fod y dyfodol a llawer o ansicrwydd ac yr angen am gyllideb gan y Canghellor. Mynegwyd y bydd yr adran yn dod yn ôl i’r Cabinet ym mis Mai neu Mehefin er mwyn trafod cyllideb am 2021/22 a bydd modd defnyddio’r balansau wrth gefn os bydd angen. Er hyn, mynegodd, fod y gyllideb yn gytbwys a bod yr arbedion sydd wedi eu cynnig yn rhai fydd a lleiaf o ardrawiad a’r trigolion.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod y Cyngor wedi bod yn gwarchod yr Adran Addysg dros y blynyddoedd diwethaf gan nodi fod hyn yn parhau ar gyfer eleni yn ogystal.

¾     Mynegwyd fod y setliad yn well na beth oedd wedi ei ragweld ond pwysleisiwyd ei fod yn well ac nid yn setliad da. Ychwanegwyd fod arbedion yn parhau i gael ei gwneud ac amlygwyd dros deg mlynedd diwethaf fod y Cyngor wedi gwneud arbedion o £68miliwn. Ymhelaethwyd fod Aelodau Cabinet yn awyddus i fod mewn sefyllfa lle gellir ystyried sut i fuddsoddi mewn gwasanaethau i bobl Gwynedd ac nid yn edrych ar arbedion yn flynyddol.

¾     Esboniwyd fod y Cyngor a rheolaeth ariannol dda a thra bod rhai awdurdodau efallai yn agosach at y dibyn yn ariannol, yn groes i’r hyn a awgrymwyd yn y Guardian yn ddiweddar nid dyna yw sefyllfa’r Cyngor. Ychwanegwyd fod y Swyddfa Archwilio Cymru yn gwneud ymchwiliad ar hyn o bryd ar ba mor gynaliadwy yw Llywodraeth Leol yn ariannol.

¾     Diolchwyd i’r adran am y seminarau ar gyfer aelodau. Ymhelaethwyd ar fid sydd gan yr adran Briffyrdd ar gyfer Mannau Gwefru. Nodwyd fod y cyfnod cyn diwedd y flwyddyn ariannol yn gyfnod ble mae modd ymgeisio am lawer o grantiau gan y Llywodraeth ond fod gan y rhain amserlen dynn iawn. Pwysleisiwyd nad yw’n rhoi cyfle i adrannau i gynllunio eu gwaith yn hir dymor.

¾     Tynnwyd sylw at y bid ar gyfer pont Bodfael gan nodi fod y bid ar gyfer adeiladau pont newydd ac y bydd hyn yn gwella’r ddarpariaeth i bobl Gwynedd.

 

Awdur:Dafydd L Edwards

Dogfennau ategol: