Aelod Cabinet: Cynghorydd Catrin Wager
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ar yr isod:-
·
Defnydd camerâu gan staff
morwrol;
·
Effaith newidiadau
trefniadau ailgylchu;
·
Cydweithio gyda siroedd eraill
cyfagos i wella’r ddarpariaeth;
·
Ail ystyried lefelau
staffio presennol yr uned gorfodaeth stryd;
·
Ehangu’r cydweithio
rhyngadrannol lle mae staff eraill y Cyngor yn derbyn yr hawl dirprwyedig i
orfodi ar y stryd.
Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun gan nodi:-
·
Y bu’r newidiadau i’r
trefniadau ailgylchu yn Nwyfor yn bositif iawn, gyda lleihad yn y casgliadau a
fethwyd. Bu’r newid yn fwy problemus yn
Arfon oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys tywydd gwael, cerbydau’n torri a
llawer mwy o wastraff yn cael ei gynhyrchu yn ystod cyfnod y Nadolig. Dymunai ymddiheuro i’r cymunedau hynny oedd
wedi cael eu heffeithio a nododd ei bod yn ffyddiog bod y gwasanaeth yn llawer
gwell erbyn hyn. O ganlyniad i’r
anawsterau yn Arfon, gohiriwyd cyflwyno’r newidiadau ym Meirionnydd tan ar ôl y
Pasg.
·
O ran cydweithio gyda
siroedd eraill cyfagos i wella’r ddarpariaeth, roedd yn ymddangos bod pob sir
yn cyfarch y gwaith mewn ffordd wahanol, oedd yn rhoi mwy o ofyn ar y Cyngor
hwn i ddatblygu ei ffordd ei hun o weithredu.
·
Iddi gael y cyfle’n
ddiweddar i fynd i weld y system teledu cylch cyfyng newydd. Nododd fod y system yn arbennig o dda o ran
ansawdd, a bod lle i ddefnyddio’r math hwn o ddarpariaeth lawer mwy i’r
dyfodol. Ychwanegodd y gofynnwyd i’r
gweithwyr oedd yn rhedeg y system ddod i’r fforymau ardal i esbonio mwy am y
ddarpariaeth.
·
Ei bod yn hynod bwysig iddi fod cymunedau’r sir yn
edrych yn lan ac yn daclus ac yn lle braf i fyw. Roedd tri rhan i hynny, sef sicrhau bod y
trefniadau casglu’n dda, bod y Cyngor yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a
chymunedau i uchafu edrychiad yr ardal, a hefyd yr elfen gorfodaeth.
Ymhelaethodd y
swyddogion ar gynnwys yr adroddiad ac yna gwahoddwyd yr aelodau i ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
·
Nodwyd bod deunyddiau yn
dal i ddisgyn allan o’r loriau ailgylchu, gan eu bod yn cael eu gyrru i ffwrdd
gyda’r drysau’n dal yn agored. Derbynnid
bod hyn yn anochel mewn ardaloedd trefol gan nad oedd yn ymarferol cau’r drysau
rhwng bob eiddo, ond dylid atgoffa’r gyrwyr i gau’r drysau mewn ardaloedd
gwledig, lle mae tai ar wasgar.
·
Mynegwyd bodlonrwydd gyda’r
gwasanaeth casglu newydd yn Nwyfor a nodwyd bod y sefyllfa wedi tacluso’n arw
yn dilyn y newidiadau yma.
·
Nodwyd bod baw ci yn dal yn
broblem gynhennus ac awgrymwyd mai’r unig ffordd o ymdrin â hyn oedd drwy osod
camerâu dros dro ar rai o’r llwybrau lle mae’r broblem waethaf.
·
Nodwyd y dylid gwagio
biniau stryd ddwywaith y dydd yn ystod gwyliau ysgol.
·
Tynnwyd sylw at y ffaith
bod arwyddion ffyrdd y sir yn fudr.
·
Awgrymwyd y dylid gweithio
gyda’r Adran Forwrol i osod arwyddion gorfodaeth ar y traethau, gan y byddai
hyn yn cael effaith bositif ar yr amgylchedd, ynghyd â chynllun parchu ardal i
gyd-fynd gyda’r elfen gorfodaeth.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Nad system ar y lorïau oedd y system teledu cylch
cyfyng newydd, eithr system ar y stryd.
Roedd y system yn llawer mwy digidol na’r hen drefn, gyda mwy o gamerâu,
a’r rheini o well ansawdd, a olygai nad oedd angen gweithlu yn yr uned teledu
cylch cyfyng bellach. Cadarnhawyd hefyd
bod y gweithlu yma wedi gadael y Cyngor erbyn hyn.
·
Bod colli deunyddiau o
gerbydau wedi bod yn gŵyn barhaol.
Cytunid y dylid cau’r drysau wrth weithio allan yn y wlad a byddai’r
neges hon yn cael ei chyfleu i’r criwiau.
·
Gan nad oedd y trafodaethau
diweddar ynglŷn â chydweithio wedi arwain at ddatrysiad rhanbarthol,
bwriedid edrych ar hyn fel adran a gwasanaeth a chynnal adolygiad Ffordd
Gwynedd o ran y tîm a sut roedd y gwasanaeth yn cael ei gyflawni, gyda’r nod o
lunio strwythur newydd fyddai’n arwain at wella’r elfen o ollwng sbwriel a baw
ci. Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol
eisoes a gobeithid cyflwyno adroddiad i’r Tîm Arweinyddiaeth ym Mawrth gyda’r
nod o gyflwyno’r cynllun ar y ddaear yn fuan iawn ar ôl hynny.
·
O ran y broblem baw ci, bod
y defnydd o gamerâu symudol, o bosib’, yn rhywbeth y dylid edrych arno, er mwyn
gallu bod yn fwy cadarn gyda gorfodaeth.
Hefyd, roedd cynlluniau y tu allan i’r Cyngor i geisio newid
ymddygiad. Byddai angen adolygu’r
gorchmynion cŵn hefyd ac efallai y gellid edrych ar y cyfan fel pecyn.
·
Bod yr adran yn gefnogol iawn i edrych ar ddefnydd
o gerbydau trydan / hydrogen. Bwriedid
ceisio adnabod pa fath o gerbydau fyddai’r Cyngor eu hangen, o ystyried natur
wledig y sir. ‘Roedd trydan yn sicr yn
opsiwn o ran y fflyd fechan, ond roedd hynny’n fwy anodd o ran y cerbydau
casglu sbwriel. Roedd yr adran yn cadw
golwg ar y gwaith o dreialu cerbydau hydrogen oedd yn digwydd yn yr Alban ar
hyn o bryd. Nodwyd hefyd y cyflwynwyd
bid am grant o’r Gronfa Economi Gylchol.
·
Bod gan yr adran drefn o
lanhau strydoedd oedd yn cynnwys gwagio biniau stryd. Os oedd y glanhawyr stryd yn yr ardal,
byddent yn gwagio’r biniau, hyd yn oed os ond yn chwarter neu hanner
llawn. Gofynnwyd i’r aelodau gysylltu pe
byddent yn gweld enghreifftiau lle nad oedd hyn yn digwydd. Nodwyd ymhellach fod bwriad i adolygu’r
trefniadau glanhau stryd ar draws y sir.
Cyhoeddwyd dogfen newydd gan Lywodraeth Cymru oedd yn manylu ar sut y
dylid mynd ati i lanhau strydoedd, ac efallai bod hyn yn gyfle i edrych ar sut
roedd y gwasanaeth yn ymateb mewn rhai llefydd, megis Llanberis.
·
Y darparwyd chwech o
gamerâu ar gyfer y Tîm Morwrol ar gost o £550 yr un, a chan fod gan y staff
hynny bwerau gorfodaeth i gosbi pobl am daflu ysbwriel neu ganiatáu i’w
cŵn faeddu, bod cyfleoedd iddynt gynorthwyo gyda’r gwaith
bwrdeistrefol.
·
Bod y camerâu cylch cyfyng
yn weithredol yng Nghaernarfon, Bangor, Porthmadog a Phwllheli, ond y derbynnid
ceisiadau o ardaloedd eraill hefyd.
Roedd yr heddlu a’r cynghorau tref / dinas perthnasol yn cyfrannu tuag
at gost rhedeg y system.
·
Y cytunid bod angen
adolygu’r trefniadau gwagio biniau stryd ar wahanol adegau o’r flwyddyn, e.e.
ar ŵyl banc ac yn ystod yr haf, yn arbennig felly yn yr ardaloedd hynny
sy’n cael llawer o bwysau yn y cyfnodau yma.
·
Bod cyfrifoldeb ar y
gwasanaeth i lanhau arwyddion ffyrdd ac y byddent yn mynd i’r afael â hyn.
·
Y byddai’r Adran yn trafod
ymhellach gyda’r Tîm Morwrol o ran cyfarch materion yn ymwneud â gorfodaeth ar
draethau.
PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
Dogfennau ategol: