Agenda item
Aelod Cabinet : Cynghorydd Catrin Wager
Derbyn adroddiad
gan yr Aelod Cabinet ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr Aelod
Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu
Gorfodaeth Stryd yn y categorïau canlynol:-
·
Gweithredu’n
syth;
·
Cydweithio yn y tymor canolig gyda gwasanaethau /
partneriaid eraill er gweithredu'r argymhellion.
Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun gan nodi:-
·
Y dymunai ddiolch i’r Rheolwr
Gwasanaethau Stryd am ei holl waith yn y maes hwn.
·
Bod y gwaith yn amlygu’r ffaith bod sicrhau
trefniadau casglu da, cydweithio gyda chymunedau, a gorfodaeth, yn uchafu
edrychiad y sir er budd pawb.
·
O ganlyniad i gyflwyno’r
drefn gasglu newydd yn Nwyfor ac Arfon, gohiriwyd dod â’r pwerau gorfodi i mewn
oherwydd pwysigrwydd darparu gwasanaeth cywir cyn edrych ar orfodi.
·
Bod yr adroddiad yn rhoi
cryn sylw i Fangor. Cychwynnwyd
cydweithio gyda gwahanol bartneriaid, a sefydlwyd Grŵp Ffocws ar Fangor, oedd
yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol, gyda’r heddlu’n rhan o’r
cyfarfod cyntaf hefyd. Roedd yr Adran yn
rhan o Grŵp Delwedd Bangor hefyd, sef grŵp ehangach oedd yn edrych ar
edrychiad y ddinas.
·
Y bwriedid treialu sticeri
‘QR codes’ yn yr ardaloedd myfyrwyr ym Mangor Uchaf, ac o bosib’ Hirael hefyd,
a gobeithid y byddai yna ddiweddariad o ran amserlen hynny yn fuan.
·
Bod llawer o waith y gellid
ei wneud o ran hyrwyddo’r gwasanaethau oedd yn cael eu cynnig ac o ran newid
ymddygiad.
·
Bod angen i’r Cyngor
gyrraedd targed ailgylchu o 64% erbyn Mawrth eleni, gyda’r targed yn codi i 70%
ar ôl hynny.
·
Ei bod yn awyddus i
ddatblygu rhaglen ymgysylltu a chyfathrebu gyda’r Uned Gyfathrebu fel bod modd
mynd allan i’r cymunedau i siarad gyda phobl a chodi ymwybyddiaeth a
dealltwriaeth o faterion gwastraff.
Ymhelaethodd y
swyddogion ar gynnwys yr adroddiad ac yna gwahoddwyd yr aelodau i ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
·
Croesawyd argymhellion yr
ymchwiliad craffu. Nodwyd bod y
swyddogion wedi cymryd sylw o farn aelodau’r ymchwiliad a chredid y byddai
gweithredu’r argymhellion hynny yn gwneud gwahaniaeth i’r gwasanaeth ac i’r
amgylchedd ar gyfer y trigolion.
·
Nodwyd bod tueddiad i wyro
tuag at Fangor, ond yno roedd y problemau dwysaf oherwydd y boblogaeth myfyrwyr
a daearyddiaeth y ddinas.
·
Pwysleisiwyd bod angen i
Wynedd fod yn bencampwyr ailgylchu.
Roedd hyn yn mynd i gymryd mwy o fuddsoddiad, ond nid oedd dewis
arall. Roedd y Cyngor yn gwneud gwaith
da iawn yn y maes, ond roedd angen gwneud ychydig mwy eto.
·
Mynegwyd
pryder y byddai dirywio pobl yn arwain at gynnydd mewn tipio slei bach, yn
enwedig yn y wardiau cefn gwlad.
·
Canmolwyd
y gwaith da yn y ganolfan ailgylchu yn Ffridd Rasys a gofynnwyd i’r pennaeth
gyfleu’r neges honno i’r gweithwyr.
·
Diolchwyd
i’r adran gwasanaeth brys sy’n delio â thipio slei bach a biniau stryd sy’n
orlawn.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
Mai diben cyflwyno dirwyon am waredu ar y diwrnod
anghywir neu yn y ffordd anghywir oedd targedu lle mae problemau, yn hytrach na
cheisio dal pobl allan. Lluniwyd polisi
oedd yn annog cyswllt yn y lle cyntaf, gyda swyddog yn ymweld â thŷ lle'r
oedd problem i weld oedd modd cynnig gwasanaeth ychwanegol. ‘Roedd 3-4 cam pellach yn y polisi a’r unig
bobl fyddai’n cael ei dirwyo fyddai’r sawl fyddai’n gallu cydymffurfio, ond yn
gwrthod gwneud hynny. Byddai’n rhaid
edrych ar leoliadau yn unigol gan bwyso a mesur o ran yr elfen risg a’r ddelwedd
roedd y bin yn roi o’i adael ar y stryd.
Derbynnid nad oedd opsiwn mewn llawer o lefydd ond rhoi’r biniau ar y
stryd a byddai’r gwasanaeth yn gweithio gyda’r trigolion yn yr ardaloedd anodd
o ran ceisio datrysiad.
·
Y cydnabyddid bod angen
gwneud mwy i hybu’r gwasanaeth casgliadau clinigol. Efallai bod cyfle i gynnig y gwasanaeth
ail-ddefnyddio clytiau i rieni wrth iddynt gofrestru genedigaeth eu plentyn, a
gellid tynnu sylw gofalwyr at y gwasanaeth yn ogystal.
·
Y byddai’r Cyngor yn cael
dirwy eithaf sylweddol pe bai’n methu cyrraedd y targed ailgylchu presennol o
64% ac roedd yna gryn dipyn o waith i’w wneud i gyrraedd y targed o 70% erbyn
Mawrth 2025.
·
Y byddai’n fuddiol i unrhyw
un ddod i Gaergylchu, neu un o’r canolfannau ailgylchu eraill, i weld y
prosesau sy’n digwydd yno.
·
Bod sawl cymuned yng Ngwynedd wedi mynegi diddordeb
mewn bod yn gymuned ddi-blastig, a gofynnwyd i’r aelodau gysylltu â’r
gwasanaeth am gymorth a chefnogaeth petai cymuned o fewn eu wardiau yn dymuno
mynd symud i’r cyfeiriad hwnnw.
·
Bod yr adran yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff
masnachol i fusnesau. Credid bod 2221 o
fusnesau’r sir yn derbyn gwasanaeth casglu gwastraff gweddilliol ac ailgylchu
gan y Cyngor ar hyn o bryd. Roedd y
gwasanaeth yn ceisio gwella’r ganran ailgylchu, ac roedd gwaith i’w wneud o
ran, e.e. rhoi cymorth i feysydd carafanau i symud yr agenda yn ei flaen. Roedd perfformiad ailgylchu’r gwasanaeth
masnachol yn 48%, felly ychydig yn is na’r elfen ddomestig. Roedd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i
wella a rhoi mwy o bwyslais ar y sector fusnes yn gyffredinol, ac roedd hynny’n
rhywbeth i edrych arno'r flwyddyn nesaf.
·
Nad oedd y defnydd o
ganolfan ailgylchu Blaenau Ffestiniog gan drigolion o Gonwy yn cael ei fonitro,
ond efallai bod hyn yn rhywbeth i edrych arno, ynghyd â’r defnydd o Ganolfan
Ailgylchu Bangor gan drigolion o Gonwy a Môn.
Nodwyd hefyd y gallai’r ffaith bod Conwy yn codi tâl am waredu eitemau
yn eu canolfannau ailgylchu gael effaith ar y defnydd o’r safleoedd ym Mlaenau
Ffestiniog a Bangor.
·
Na ragwelid y byddai
cyflwyno dirwyon yn arwain at gynnydd mewn tipio slei bach, ond bod hyn yn
rhywbeth yn sicr i’w gadw mewn cof.
·
Fel rhan o’r adolygiad o’r
trefniadau glanhau strydoedd, byddai’n rhaid buddsoddi mewn biniau amlbwrpas,
fyddai’n caniatáu gwahanu papur, caniau a phlastig, fel bod modd ailgylchu’r
deunyddiau hynny.
·
Y gallai gosod biniau stryd
mewn cilfannau fod yn broblemus gan fod hynny’n annog pobl i waredu’n
anghyfreithlon o gwmpas y biniau. Y
neges fyddai i bobl fynd a’u sbwriel adre gyda hwy a’i roi yn y bin cywir, ond
roedd yn rhywbeth i’w adolygu wrth symud ymlaen gyda’r agenda glanhau
strydoedd.
·
Nad oedd ail-gyflwyno’r cynllun sgipiau cymunedol
yn opsiwn oherwydd rheoliadau Cyfoeth Naturiol Cymru o ran trwyddedu ayb, ac er
bod y sgipiau wedi bod yn adnodd defnyddiol yn y gorffennol, bu cryn
gamddefnydd ohonynt.
·
Bod y gwasanaeth casgliadau
swmpus yn gyfle i drigolion sy’n methu cyrraedd y canolfannau ailgylchu gael
gwared o eitemau. Roedd y Cyngor yn ei
gynnig fel gwasanaeth unwaith bob bythefnos a chaniateid casgliad o hyd at 5
eitem ar y tro am un ffi o £25.
Derbynnid dros 4000 o geisiadau mewn blwyddyn, ac roedd yr eitemau
swmpus yn cael eu hailgylchu, yn wahanol i’r hyn fyddai’n digwydd i’r deunydd
o’r sgipiau cymunedol, fyddai’n mynd i dirlenwi. Eglurwyd bod modd i bobl drefnu casgliad
swmpus drwy app Gwynedd a nodwyd y bwriedid rhoi mwy o hysbysrwydd i’r
gwasanaeth sydd ar gael.
·
Yn ddibynnol ar lwyddiant y
treial gyda’r sticeri ‘QR codes’, gellid edrych ar osod y sticeri ar finiau’n
gyffredinol, gan hefyd drafod y math hwn o gynllun gyda siopau prydau parod, ac
ati.
·
Y cynhaliwyd trafodaethau
gyda busnesau ym Mangor mewn ymgais i’w hannog i ddefnyddio llai o bolystyren
ar gyfer pecynnu bwydydd, a bod rôl hefyd o fewn y gymuned i fod yn gweithio
hefo’r busnesau yn hyn o beth.
PENDERFYNWYD
(a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
(b) Gofyn i’r gwasanaeth drefnu i aelodau’r pwyllgor ymweld â Chaergylchu i
ddysgu mwy am y prosesau sy’n digwydd yno.
Dogfennau ategol: