Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad monitro’r Aelod Cabinet Amgylchedd ar weithrediad y Cynllun Dirprwyo
newydd ar gyfer ceisiadau cynllunio.
Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun gan nodi bod hwn yn fater oedd wedi bod yn fyw ac yn
newid, a bod yr adroddiad yn rhoi darlun i’r aelodau o’r hyn oedd wedi digwydd,
beth oedd wedi newid a beth oedd y drefn.
Ymhelaethodd y
swyddogion ar gynnwys yr adroddiad ac yna gwahoddwyd yr aelodau i ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:-
·
Mynegwyd pryder ynglŷn â’r trefniadau
ymgynghori gyda’r AHNE ar y sail y byddai’n fwy democrataidd petai’r sylwadau
ar geisiadau cynllunio yn dod gan Gyd-bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn, yn
hytrach na gan y Swyddog AHNE. Nodwyd
ymhellach y bu gwrthdaro rhwng y swyddogion ac aelodau’r cyd-bwyllgor
ynglŷn â sawl cais cynhennus.
·
Mynegwyd pryder ynglŷn
â’r niferoedd ceisiadau cynllunio sy’n cael eu penderfynu drwy’r drefn
ddirprwyedig, o gymharu â’r nifer sy’n dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio, e.e.
yn Hydref 2019, penderfynwyd ar 107 o geisiadau gan y swyddogion o gymharu â 3
gan y pwyllgor. Deellid bod gan yr aelod
lleol yr hawl i alw unrhyw gais i mewn i’r pwyllgor, ond yn aml roedd yr aelod
yn methu’r cais ac felly’n colli’r cyfle i’w alw i mewn. Nodwyd hefyd, oherwydd daearyddiaeth Gwynedd,
bod y math o geisiadau a dderbynnid yma yn wahanol i’r hyn a dderbynnid yn yr
ardaloedd poblog megis Caerdydd, Abertawe a chymoedd y De. Bu sôn hefyd bod cyflwyno llai o geisiadau i
bwyllgor yn lleihau llwyth gwaith yr aelodau, ond roedd yr aelodau’n cael eu
talu am wneud y gwaith hynny.
·
Nodwyd mai’r hyn oedd yn
bwysig oedd bod y ceisiadau sy’n dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio yn rhai sy’n
werth eu trafod, a chroesawyd y lleihad yn nifer y cyfarfodydd ac yn nifer y
ceisiadau a oedd yn dod gerbron y pwyllgor.
·
Nodwyd ei bod yn fwy anodd
erbyn hyn i’r aelodau weld y rhestr wythnosol o geisiadau cynllunio oherwydd
newidiadau TG, a phwysleisiwyd bod rhaid i’r aelodau fod yn ymwybodol o’r
ceisiadau sydd i law er mwyn gallu bod yn rhagweithiol o ran cyfleu’r teimlad
lleol ar y ceisiadau hynny.
·
Nodwyd
y dylai’r aelodau hefyd dderbyn rhestr o’r ceisiadau a benderfynwyd drwy’r
drefn ddirprwyo.
·
Nodwyd bod Môn wedi gwneud
elw o 5.9% y llynedd ar ffioedd cynllunio (sef gwariant net o £767,000 ac incwm
o £812,000) ond bod Gwynedd wedi gwneud colled o 51.9% (sef gwariant net o
£1,097,000 ac incwm o £528,000).
·
Pwysleisiwyd y dylai unrhyw
gais i newid amod(au) ar gais cynllunio a ganiatawyd gan y Pwyllgor Cynllunio
gael ei gyfeirio’n ôl i’r pwyllgor yn otomatig, yn enwedig os yw’r newid yn
rhywbeth allai fod yn gynhennus.
·
Mynegwyd
pryder ynglŷn ag anallu’r cyhoedd ac aelodau i gysylltu â swyddogion
cynllunio dros y ffôn.
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:-
·
O ran yr AHNE, bod yna
gytundeb lefel gwasanaeth yn ei le.
Roedd y Swyddog AHNE yn broffesiynol ac yn annibynnol o’r gwasanaeth
cynllunio, fel pob ymgynghorai arall.
Roedd dyletswydd ar y swyddogion cynllunio i asesu’r hyn y gofynnid
iddynt ei wneud yn ôl y ddeddf, ac felly roeddent yn gwneud hynny yn
nghyd-destun y sylwadau a dderbynnid gan y Swyddog AHNE. Nid oedd dyletswydd statudol i ymgynghori
gyda’r AHNE, ond gwneid hynny oherwydd pwysigrwydd y berthynas waith rhwng y
ddwy uned. Ni chredid bod rhaid
ymgynghori gyda’r Cyd-bwyllgor, er bod croeso iddynt gyflwyno sylwadau ar
geisiadau, a chredid bod y dyletswydd i warchod yr AHNE yn cael ei wneud gan y
swyddogion cynllunio a’r Swyddog AHNE.
·
Bod y cynllun dirprwyo presennol yn deillio o waith
ymchwiliad craffu a wnaed ar ran y pwyllgor hwn, a’i fod hefyd yn deillio o
argymhelliad y pwyllgor hwn i’r Aelod Cabinet addasu’r cynllun dirprwyo. Ar y pryd, cytunwyd bod gormod o lawer o
geisiadau cynllunio yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio, ac effaith newid
y cynllun dirprwyo oedd sicrhau mai ond y ceisiadau oedd wir angen penderfyniad
pwyllgor oedd yn cael eu cyflwyno. Roedd
perthynas pob aelod gyda’r Gwasanaeth Cynllunio yn hynod bwysig o ran ceisiadau
cynllunio, ac roedd gan bob un ohonynt yr hawl i gyfeirio cais cynllunio i
bwyllgor, beth bynnag oedd natur y cais.
Roedd y newid wedi dod â’r Cyngor hwn i sefyllfa debyg i lawer o
awdurdodau eraill, gyda thua 6% o’r ceisiadau yn cael eu penderfynu gan y
Pwyllgor Cynllunio bob blwyddyn. Nodwyd
ymhellach ei bod yn beryg’ edrych ar ystadegau cyfnod byr o gyfarfodydd
pwyllgor i ystyried pa benderfyniadau oedd yn cael eu gwneud, a’i bod yn bwysig
edrych ar y ffigurau dros gyfnod o flwyddyn.
Fel enghraifft o hyn, nodwyd o bosib’ nad oedd yr union benderfyniadau i
wrthod neu i ganiatáu’r 3 cais a gyflwynwyd i’r pwyllgor yn Hydref y llynedd
wedi mynd allan am ddau fis arall am wahanol resymau. Nodwyd ymhellach y cydnabyddid bod datblygiad
mawr yng Ngwynedd yn wahanol iawn i ddatblygiad mawr yng Nghaerdydd, er
enghraifft, a dyna pam y bu i’r ymchwiliad craffu edrych ar esiamplau o
gynlluniau dirprwyo mewn ardaloedd mwy tebyg i Wynedd. Gan fod yr ystadegau’n dangos bod oddeutu 94%
o geisiadau’r awdurdodau hynny yn cael eu penderfynu gan y drefn ddirprwyo,
roedd y newidiadau yn sgil y cynllun dirprwyo newydd yng Ngwynedd yn mynd â’r
Cyngor hwn i’r un math o le ag awdurdodau cynllunio oedd yn eithaf tebyg i
Wynedd o ran cymeriad. Nodwyd hefyd y
derbynnid y sylw o ran llwyth gwaith yr aelodau, ond bod nifer uchel o
geisiadau gweddol fach eu natur wedi bod yn dylanwadu ar y nifer o gyfarfodydd
y Pwyllgor Cynllunio a hyd y cyfarfodydd hynny.
·
Bod y
Gwasanaeth Cynllunio wedi bod trwy gyfnod hynod o heriol yn trosglwyddo i
system TG newydd tra bo’r gwaith dydd i ddydd yn dal i orfod mynd yn ei
flaen. Cydnabyddid bod yna ambell i
broblem wedi bod, ond roedd y gwasanaeth yn hyderus y byddai’r system newydd yn
dod â budd i’r trigolion, yr aelodau a’r gwasanaeth yn yr hir dymor. Cadarnhawyd bod y rhestr wythnosol o geisiadau
cynllunio yn dal ar gael i’r aelodau, ac nad oedd bwriad i newid hynny. O’r wythnos ganlynol ymlaen, bwriedid gyrru
linc at yr aelodau i’w hatgoffa bod rhestr newydd o geisiadau wedi’i chyhoeddi,
a nodwyd hefyd y byddai’r gwasanaeth yn trefnu hyfforddiant ar gyfer unrhyw un
oedd yn cael trafferth dod o hyd i’r rhestrau.
·
Bod cyfanswm y ffioedd cynllunio am y flwyddyn yn
llwyr ddibynnol ar y mathau o geisiadau a dderbynnid, oherwydd y gallai rhai
mathau o geisiadau, e.e. ceisiadau am archfarchnadoedd a datblygiadau tai o
faint sylweddol, ddod â ffioedd llawer uwch i mewn nag eraill. Gan hynny, nid oedd cymharu ffioedd gwahanol
awdurdodau yn gymhariaeth o berfformiad un yn erbyn y llall.
·
Y
credid mai’r ffordd orau ymlaen gyda cheisiadau i newid amod(au) ar gais
cynllunio a ganiatawyd gan y pwyllgor fyddai delio â phob achos wrth iddo
godi. Roedd y rhestr wythnosol a’r
ymgynghori yn dod gerbron yr aelodau ac yn datgan yn glir bod yna newid amod. Hefyd, gallai’r hyn a ystyrid yn gynhennus
gan y swyddogion fod yn wahanol i’r hyn a ystyrid yn gynhennus yn ardal leol y
cais, ac felly, roedd y swyddogion yn ddibynnol iawn ar yr aelod lleol i fod yn
baromedr o’r teimlad yn lleol. Hefyd,
roedd cyfrifoldeb ar yr aelod lleol i gyd-drafod y ffordd ymlaen gyda’r swyddog.
·
Y
derbynnid y sylw ynglŷn ag anhawster cysylltu â swyddogion cynllunio, a
bod trafodaethau ar y gweill i weld beth ellid ei wneud i wella’r drefn.
·
Bod
rhestr wythnosol o benderfyniadau dirprwyedig ar gael ar y wefan eisoes.
·
Bod y
Swyddog AHNE ac ymgynghorwyr mewnol a statudol eraill yn rhoi barn broffesiynol
o safbwynt eu gofynion technegol proffesiynol hwy eu hunain. Nid oeddent yn gwneud asesiad yn erbyn y
polisïau cynllunio, a rôl y swyddogion cynllunio oedd hynny. Gan hynny, nid oedd gwrthwynebiad i gais gan
ymgynghorydd yn golygu ei fod yn wrthwynebiad ar sail cynllunio.
Nododd aelod na ymgynghorwyd ag ef ar gais
cynllunio fel aelod lleol yn ardal y Parc Cenedlaethol. Nododd aelod o’r pwyllgor, oedd hefyd yn
aelod o’r Awdurdod Parc, y byddai’n codi’r mater ar ei ran.
Nododd aelod ei fod yn cael trafferth dod o hyd i union leoliad yr AHNE
ar fap manwl. Nododd na ymgynghorwyd â’r
Swyddog AHNE ar gais cynllunio diweddar ym Mwlch Bridin, oedd yn ymylu ar yr
AHNE, a’i fod wedi’i siomi nad oedd sylw gan y swyddog ar gais oedd yn amharu
ar y rhan helaethaf o Fae Porthdinllaen.
PENDERFYNWYD
argymell:
(a)
Parhau
i weithredu’r drefn ymgynghori statudol a defnyddio y templedi llythyrau newydd
er mwyn ymgynghori ac i fonitro’r sefyllfa gyda’r swyddfa gefn newydd ac
adolygu fel bo angen.
(b)
Parhau
i ymgynghori gyda’r Uned AHNE fel sydd yn digwydd yn bresennol.
(c)
Parhau
gyda darparu rhaglen o hyfforddiant perthnasol yn rheolaidd.
(ch) Lleihau nifer y Pwyllgorau Cynllunio o 15 y
flwyddyn i 12 y flwyddyn a monitro sut mae hyn yn gweithredu dros gyfnod o
flwyddyn ac i fod yn weithredol yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Dogfennau ategol: