I ystyried cais gan Mr A
(copi arwahan i Aelodau’r Is-bwyllgor yn unig)
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor
wrthod y cais.
Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y
Cyngor. Rhoddwyd cyfle i’r ymgeisydd ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am
gefndir y digwyddiadau a hefyd ei amgylchiadau personol. Nododd ei fod wedi
mynd drwy gyfnod anodd, personol oedd yn ymwneud a gwaeledd ei fab, colli ei
dad a’i ffrind. Ategodd bod ganddo gwmni tacsis o safon, ei fod yn cyflogi
gyrwyr lleol a’i flaenoriaeth oedd cadw’r busnes. Gwahoddwyd tyst i gefnogi cais yr ymgeisydd.
Wedi cyflwyno’r dystiolaeth ymneilltuodd yr
ymgeisydd, ei gyfreithiwr, a’i ffrind o’r ystafell ynghyd a’r Rheolwr
Trwyddedu, tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y
cais.
b)
PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas
a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a
Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
sylwadau llafar gan yr ymgeisydd, ei gyfreithiwr a’i ffrind
·
dogfennau a lluniau a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y
gwrandawiad
·
llythyrau geirda a dderbyniwyd yn cefnogi cais yr ymgeisydd
·
darn o ffilm teledu cylch cyfyng (digwyddiad 2018)
·
recordiad o alwadau 999 (digwyddiad 2019)
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd
yn datgelu collfarn.
·
Tystiolaeth
a sylwadau Llys yr Ynadon
ch) Rhoddwyd
ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd ffurfiol gan Heddlu Gogledd Cymru (Mai 2018) ar gyhuddiad o ymosod ar berson yn groes i
adran 39 o’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988.
Yn Chwefror 2019
derbyniodd yr Adran Trwyddedu alwad gan yr Heddlu yn ei hysbysu bod aelod o’r
cyhoedd wedi gwneud cyhuddiad o fod wedi dioddef ymosodiad corfforol gan yr
ymgeisydd yn dilyn anghydfod ynglŷn â phris. Ni ddaethpwyd â chyhuddiadau
troseddol yn erbyn yr ymgeisydd am y digwyddiad hwn. Yn dilyn y digwyddiad
derbyniodd y Rheolwr Trwyddedu wybodaeth yn amlinellu ffeithiau’r digwyddiad a
gwnaed penderfyniad i ddiddymu trwydded yr ymgeisydd er mwyn diogelu’r cyhoedd; yn unol â darpariaeth adran 61(1) (b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Apeliodd yr
ymgeisydd yn erbyn y penderfyniad ac yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon Caernarfon (Gorffennaf 2019) gwrthodwyd ei apêl o
dan adran 60 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 yn erbyn
penderfyniad y Cyngor ar 14 Mawrth 2019 i ddiddymu ei drwydded yrru hurio
preifat / cerbydau hacni.
d)
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle
nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am
drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod
yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a
dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae
cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol.
Ystyriwyd
paragraff 2.3 o’r Polisi lle cyfeirir at rybuddion ffurfiol.
Ystyriwyd
paragraff 5.1 o’r polisi sydd yn ymwneud a gofynion yr Awdurdod Trwyddedu o
faterion y dylid eu hystyried wrth benderfynu os yw’r ymgeisydd yn unigolyn
‘addas a phriodol’ ar gyfer trwydded.
Mae paragraff 6 o’r
Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr
trwyddedig yn dod i gysylltiad agos a'r cyhoedd yn
rheolaidd y byddai Is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny
sydd â throseddau yn ymwneud a thrais. Nodi’r ym mharagraff 6.2 y bydd cais lle
mae ymgeisydd wedi ei gael yn euog o drosedd yn
ymwneud â thrais yn annhebygol o gael trwydded hyd nes ei fod yn rhydd rhag
collfarn o’r fath am 3 blynedd o leiaf.
Mae paragraff 6.5 o’r
Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan
yr ymgeisydd fater i’w ystyried (gan gynnwys rhybuddion) am ymosodiad cyffredin
a /neu drosedd o dan A4 Trefn Gyhoeddus 1986 sydd yn llai na 3 blynedd cyn
dyddiad y cais.
dd) Daeth yr Is-bwyllgor i’r casgliad bod y
rhybudd o Fai 2018 ynghyd a digwyddiad Chwefror 2019 yn ymwneud a throseddau o
drais. Gyda rhybudd Mai 2018 wedi digwydd 21 mis yn ôl a digwyddiad Chwefror
2019 ychydig dros flwyddyn yn ôl, roedd y ddau yn disgyn o fewn cyfnod 3
blynedd. Yn unol â pharagraff 6.5 o’r Polisi, ac argymhelliad y Rheolwr
Trwyddedu roedd yr ystyriaethau cychwynnol yn glir o blaid gwrthod y cais. Er
hynny, roedd yr Is-bwyllgor hefyd yn ymwybodol mai canllaw yn unig oedd y
Polisi a bod modd gwyro os oedd cyfiawnhad dros wneud hynny.
Wrth
benderfynu a ddylid gwyro oddi wrth ddarpariaethau’r Polisi, ystyriodd yr Is-bwyllgor
y rhesymeg tu ôl i’r penderfyniadau canlynol:
·
diddymiad trwydded (Mai
2018)
·
penderfyniad Is-bwyllgor i
ganiatáu trwydded (Hydref 2018)
·
diddymiad trwydded
(Chwefror 2019)
· dyfarniad Llys yr Ynadon (Gorffennaf 2019) i apêl yn erbyn diddymiad
Chwefror 2019
Ystyriwyd,
· y dystiolaeth a gyflwynodd yr ymgeisydd o’r digwyddiadau i’r Is-bwyllgor
cyn y gwrandawiad ynghyd a llythyrau geirda
· yng nghyd-destun
penderfyniadau blaenorol, sylwedd ac ansawdd y dystiolaeth a gyflwynwyd i’r
fforymau perthnasol ynghyd â sut yr heriwyd y dystiolaeth yn y fforwm hwnnw.
· sefyllfa pan fydd ymgeisydd yn
ceisio ail agor / herio materion ffeithiol sydd eisoes yn destun penderfyniad
gan y Llys, bod gan yr Is-bwyllgor yr hawl i drin canfyddiadau’r Llys fel rhai
terfynol; yn enwedig os bydd ymgeisydd yn ceisio herio'r un materion heb unrhyw
dystiolaeth ychwanegol newydd, a/neu geisio cyflwyno tystiolaeth newydd ar y
materion hynny y gellid fod wedi'u cyflwyno yn y Llys lle penderfynwyd yr apêl.
Yn dilyn diddymiad
trwydded Mai 2018, cyflwynodd yr ymgeisydd gais newydd am drwydded yn Hydref
2018. Er mai argymhelliad yr Adran Trwyddedu oedd gwrthod y cais, penderfyniad
yr Is-bwyllgor oedd caniatau’r cais oherwydd bod yr amgylchiadau wedi
cyfiawnhau gwyro oddi ar y polisi am y rhesymau canlynol:
· Bod yr ymgeisydd wedi dangos edifeirwch dros yr ymosodiad
· Roedd y digwyddiad allan o gymeriad ac amlygwyd hyn yn y nifer o
dystlythyrau a dderbyniwyd yn cefnogi cais yr ymgeisydd
· Nad oedd cofnod o unrhyw gollfarn na rhybudd arall yn erbyn yr ymgeisydd
fel y nodwyd ar y cofnod DBS
· Bod yr ymgeisydd eisoes dan rybudd gan yr Heddlu ac felly'n ymwybodol i
beidio â thorri'r gyfraith eto
· Nad oedd yr ymosodiad yn un o drais yn erbyn y cyhoedd ond yn hytrach yn
erbyn cystadleuydd arall yn y
diwydiant tacsi
· Nad oedd dioddefwr yr
ymosodiad yn ddiniwed. Cafodd yr ymosodiad ei bryfocio mewn lleoliad o dan
oruchwyliaeth Teledu Cylch Cyfyng
· Roedd yr ymosodiad wedi codi o ganlyniad i ymgyrch hir o aflonyddu a
phryfocio gan ddioddefwr yr ymosodiad
· Cafwyd esboniad
gonest pam nad oedd yr ymgeisydd heb apelio’r penderfyniad i ddiddymu ei drwydded - roedd yn mynd
drwy gyfnod anodd, personol oedd yn ymwneud ag iechyd ei fab.
Ym marn yr
Is-bwyllgor, roedd Is-bwyllgor 2018 yn amlwg wedi rhoi cyfle i’r ymgeisydd, gan
fentro y byddai yn cymryd rhybudd yr Heddlu fel mater difrifol ynghyd a chamau
rhagweithiol i gadw allan o unrhyw drafferth a fyddai'n bwrw amheuaeth bellach
ar ei allu i fod yn berson addas a phriodol. Ar y sail honno daeth Is-bwyllgor
2018 i'r casgliad ei fod yn berson addas a phriodol. Fodd bynnag, yn dilyn
digwyddiad Chwefror 2019, roedd angen i’r Is-bwyllgor ail ystyried penderfyniad
a rhesymau Is-bwyllgor 2018 dros addasrwydd yr ymgeisydd i ddal trwydded.
Diddymwyd trwydded hurio preifat / cerbydau
hacni yr ymgeisydd am yr eildro gan yr Adran Trwyddedu yn dilyn digwyddiad
Chwefror 2019. Gwnaed y penderfyniad ar sail ymddygiad yr ymgeisydd yn
nigwyddiadau Mai 2018 a Chwefror 2019.
Mewn apêl gan yr ymgeisydd i’r Llys Ynadon, o’r penderfyniad hwnnw,
cyflwynwyd tystiolaeth byw o ddigwyddiadau 2018 a 2019 ynghyd a datganiadau
tyst ysgrifenedig a recordiadau o alwadau ffôn a wnaed i'r heddlu.
·
Nodwyd bod y Llys wedi
ffafrio disgrifiad y diffinydd yn nigwyddiad 2018 ac nid disgrifiad yr apelydd.
Wrth gyrraedd eu penderfyniad, amlygwyd bod Llys yr Ynadon wedi diystyru rhai o
resymau Is-bwyllgor 2018; yn benodol, nad oedd y ffaith bod yr ymosodiad yn un
o drais yn erbyn cystadleuydd o unrhyw arwyddocâd; nid yw'r Polisi'n
gwahaniaethu rhwng y sawl sydd yn dioddef trais.
·
Yn yr un
modd, roedd y Llys hefyd yn ffafrio disgrifiad dioddefwyr yr ymosodiad yn
nigwyddiad 2019 gan amlygu bod y digwyddiad yn un difrifol. Er yr ymddengys
anghysondebau yn y dystiolaeth ynglŷn â diffyg anaf o ganlyniad i'r
ymosodiad honedig, roedd y digwyddiad yn amlwg yn un
amhleserus i’r teithwyr. O ganlyniad, canfu’r Llys nad oedd y Cyngor yn
anghywir yn eu penderfyniad ‘bod yr ymgeisydd yn unigolyn anaddas ac amhriodol
ar gyfer trwydded’ ar sail digwyddiadau 2018 a 2019. Gwrthodwyd yr apêl.
Ystyriwyd
datganiad personol yr ymgeisydd lle'r oedd yn nodi;
·
Ei fod wedi cael ei drin yn annheg o gymharu â
gyrwyr eraill
·
Nad oedd wedi cael cyfle / ei wahodd i drafod /
cyflwyno tystiolaeth i ddigwyddiad 2019 gyda’r Adran Trwyddedu cyn derbyn
diddymiad Mai 2019
·
Bod ymchwiliadau'r Awdurdod
Trwyddedu i ddigwyddiadau 2018 a 2019 a arweiniodd at ddiddymu ei drwydded yn ddiffygiol
·
Bod yr ymgyrch o aflonyddu
a phryfocio gan ddioddefwr ymosodiad 2018 yn parhau – dangoswyd lluniau teledu
cylch cyfyng o ddigwyddiadau tu allan i’w gartref
·
Nad oedd sail i gasgliadau Llys yr Ynadon o ystyried y dystiolaeth a
gyflwynwyd.
·
Nad oedd yr heddlu wedi nodi unrhyw anafiadau corfforol ar y teithiwr pan wnaethant
fynychu digwyddiad 2019.
·
Nad oedd digwyddiadau 2018 a 2019 wedi digwydd yn y ffordd yr oedd y Llys wedi
canfod eu bod wedi digwydd.
·
Bod nifer o lythyrau geirda wedi ei gyfeirio ato yn cefnogi ei
gais
Wrth gyrraedd eu
penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod canfyddiadau'r Llys yn glir a
diamwys. Roedd y Llys wedi derbyn llawer o dystiolaeth ysgrifenedig,
tystiolaeth ar lafar gan dystion byw a gafodd eu holi yn drwyadl, a chyflwynwyd
dadl gyfreithiol gan y Cyngor a’r ymgeisydd. O dan yr amgylchiadau, ystyriwyd
bod y canfyddiadau hyn yn dwyn cryn bwysau.
Ystyriwyd bod cyflwyniad yr ymgeisydd i’r Is-bwyllgor yn gyfystyr ag ail-redeg y materion ffeithiol a gyflwynwyd i Lys yr
Ynadon ynghylch digwyddiadau 2018 a 2019. Ni chanfu'r Is-bwyllgor unrhyw
dystiolaeth bod unrhyw beth wedi newid yn sylweddol ers yr apêl ac roedd yr
Is-bwyllgor o dan yr argraff bod yr ymgeisydd yn ei gwahodd i geisio diystyru
canfyddiadau'r Llys.
e)
Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn
ofalus, nid oedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y cais yn deilwng o wyro oddi ar
ganllawiau’r polisi ac felly daethpwyd i’r casgliad nad
oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai hawl i’r ymgeisydd gyflwyno apêl yn Llys
Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor ac y dylid gwneud hynny
i Brif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno o fewn 21 diwrnod o dderbyn llythyr yn
cadarnhau penderfyniad yr Is-bwyllgor. Nodwyd hefyd petai’r ymgeisydd eisiau
apelio yn erbyn penderfyniad Llys yr Ynadon yna dylid gwneud hynny drwy Lys y
Goron