Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dilwyn Morgan

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

Cofnod:

          Cyflwynwyd diweddariad ar Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Atgoffwyd yr Aelodau o’r gwaith a wnaed gan yr Awdurdodau Lleol yn y Gogledd i weithio mewn partneriaeth a chreu gwasanaeth rhanbarthol drwy gyfuno adnoddau a bod yn effeithlon wrth leoli plant. Daeth y Gwasanaeth yn weithredol yn Ebrill 2010 a phum mlynedd yn ddiweddarach sefydlwyd y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Cyfeiriwyd at Adroddiad Blynyddol (2018 – 2019) y Gwasanaeth Mabwysiadau Cenedlaethol oedd wedi ei atodi gyda’r adroddiad

 

          Eglurwyd mai Cyngor Sir Fwrdeistrefol Wrecsam yw’r Awdurdod Lletya ar gyfer y Gwasanaeth a bod y staff, ers 2010 wedi eu secondio i’r Gwasanaeth ond yn parhau i weithio o fewn eu hawdurdodau gwreiddiol. Amlygwyd bod perfformiad holl ranbarthau Cymru yn cael eu casglu gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ac ar gyfer Gogledd Cymru roedd pedwar prif gyrhaeddiad wedi ei adnabod ar gyfer 2018 - 2019;

 

·         Penodi Swyddog Cydlynu Cyswllt sy’n cynnig ymateb cyson a chefnogaeth i fabwysiadwyr a rhieni biolegol o ran cyswllt uniongyrchol ac anuniongyrchol.

·         Gweithio gyda’r arbenigwr Richard Rose, i weithredu’r Fframwaith Hanes Bywyd.

·         Ehangu’r Cynllun Cyfaill i Fabwysiadwyr.

·         Buddsoddi mewn cynyddu sgiliau’r Swyddog Hyfforddi

 

Yn dilyn adolygiad o’r Gwasanaeth yn 2017-2019 adnabuwyd nad oedd capasiti digonol ar lefel gweithredol a strategol i reoli a datblygu’r gwasanaeth ac felly aed ati i ail fodelu’r strwythur drwy symud tuag at Wasanaeth sydd yn cael ei reoli yn llawn gan Gyngor Wrecsam. Nodwyd y byddai holl staff presennol yn trosglwyddo i gyflogaeth Cyngor Wrecsam yn 2020 ond yn parhau i weithio o’u hawdurdodau lleol presennol. Adroddwyd bod cyllid ychwanegol ar gael yn genedlaethol ar gyfer datblygu gwasanaethau cefnogi mabwysiadu ynghyd a chyllid gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer Gwasanaeth TESSA.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-

·         Bod llawer o ffrydiau gwaith y Gwasanaeth yn ddibynnol ar grantiau neu arian ychwanegol - hyn yn creu pryder o orfod dibynnu ar grantiau. Angen ystyried cynlluniau ariannu wrth gefn.

·         Risg y gellid cynlluniau gael eu tynnu yn ôl oherwydd diffyg cyllideb

·         A ddylai Cyngor Gwynedd ystyried opsiwn prynu tŷ ar gyfer cadw plant o’r un teulu gyda'i gilydd?

·         Bod angen marchnata'r Gwasanaeth yn well ynghyd a gwella dulliau cyfathrebu

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyllidebau parhaol, nododd yr Aelod Cabinet ei ddymuniad o sicrhau bod trafodaethau agored yn cael eu cynnal pan fydd unrhyw gynllun, sydd yn cael ei ariannu drwy grant sydd yn llwyddiannus ac effeithiol, yn parhau.

 

Mewn ymateb i sylw bod y data a gyflwynwyd gyda’r adroddiad yn amlygu bod Gwynedd yn ymddangos yn isel iawn mewn niferoedd ymholiadau, mabwysiadwyr ar gael, plant a leolwyd yn 2018 a’r nifer sydd yn aros am leoliad, nodwyd nad oedd rhesymau penodol am y lefelau isel. Derbyniwyd bod angen sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth gywir a bod angen marchnata’r gwasanaeth yn well a chwalu’r darlun hanesyddol o ofynion mabwysiadwyr. Ategwyd bod modd trafod a chydweithio drwy unrhyw sefyllfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os yw plant sydd yn cael eu maethu yn symud ymlaen i gael eu mabwysiadau gan y teulu,  nodwyd bod enghreifftiau llwyddiannus ar gael ond rhoi ystyriaeth i wir anghenion y plentyn yw’r flaenoriaeth. Nodwyd nad oedd unrhyw blentyn yn cael ei leoli gyda bwriad o symud ymlaen o faethu i fabwysiadu.

 

Nodwyd nad oedd digon o ddarparwyr mabwysiadu ar gyfer plant a bod y niferoedd teuluoedd / ymholiadau yn dangos tuedd is na’r arfer. Er hynny, nid oedd hyn yn unigryw i Ogledd Cymru ac o ganlyniad yn cael sylw cenedlaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a gwnaed cais am ddiweddariad ymhen 12 mis

 

 

Dogfennau ategol: