I ystyried yr
adroddiad
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r Aelodau ar ddatblygiadau
Partneriaeth Pensiwn Cymru. Adroddwyd bod perfformiad y bartneriaeth wedi bod yn safonol
iawn a’r cydweithio yn mynd
o nerth i nerth. Atgoffwyd yr Aelodau bod £606.2m o fuddsoddiadau ecwiti Cronfa Gwynedd wedi trosglwyddo
i Gronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru yn Chwefror 2019 gyda’r swm wedi
ei rannu yn gyfartal i
ddwy gronfa. Ategwyd bod perfformiad y ddwy gronfa yn
uwch na’r meincnod a bod hyn yn newyddion calonogol
iawn. Y cam nesaf fydd trosglwyddo buddsoddiadau presennol gyda Fidelity (£161.6m - Ecwiti Byd Eang) ac Insight (£292.0m - Bondiau) i ddwy
gronfa Incwm Sefydlog. Nodwyd bod Russell
Investment yn monitro’r perfformiad ac yn cynnal trafodaethau a chyfarfodydd yn aml gyda’r Gronfa
fel bod modd cwblhau’r trosglwyddiad yn Ebrill 2020.
Yn dilyn y trosglwyddiadau Incwm Sefydlog, adroddwyd mai’r bwriad yw penderfynu
ar strwythur rheolwyr buddsoddi delfrydol ar gyfer
cronfa Marchnadoedd Datblygol. Amlygwyd bod oddeutu £52m i’w drosglwyddo i’r gronfa yma o gwmni
Fidelity a thrafodaethau yn
cael eu cynnal
gyda Russell Investment i ystyried cronfeydd addas. Ategwyd bod Russell
Investments yn ystyried gofynion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol wrth fuddsoddi’n gyfrifol a'u bod yn edrych yn
fanwl ar ffyrdd o gwrdd â’r anghenion hyn,
ynghyd a buddsoddiadau
carbon isel, wrth ddatblygu ffurf a rheolaeth Cronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru ond heb
golli dychweliadau.
Cyfeiriwyd at drefniadau llywodraethu Cydbwyllgor y Bartneriaeth a nodwyd bod bwriad trafod os yw’r
trefniant yn dal yn briodol yn
eu cyfarfod nesaf ar y 12fed o Fawrth. Ategwyd bod awgrym i gynnwys
cynrychiolaeth o’r Byrddau Pensiwn (o fewn yr awdurdodau
cyfansoddol) ar y Cydbwyllgor.
Diolchwyd am y wybodaeth.
Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:
·
Bod
Cronfa Gwynedd wedi cytuno a mabwysiadu
egwyddorion buddsoddi cyfrifol a bod angen cadw at rhain wrth
ystyred buddsoddiadau i’r dyfodol. Hwn
yn safiad cryf ac ni
ddylai unrhyw ddylanwad geisio newid y safbwynt.
·
Angen osgoi meddylfryd rhuthro i mewn a chael
ein dylanwadu gan eraill
·
Bod
cyfrifoldeb gan y Bwrdd i herio
penderfyniadau a sicrhau
bod canllawiau yn cael eu dilyn
·
Bod
angen sicrhau balans cywir fel
bod y disgwyliadau yn cael eu cwrdd
·
Bod yr
17 amcan cynaliadwy yn cael sylw
- awgrym i gynnal sesiwn hyfforddiant
ar yr amcanion
hyn ar y cyd gydag Aelodau’r
Pwyllgor Pensiynau
·
Trefniadau Llywodraethu
Partneriaeth Pensiynau Cymru - awgrym bod Cadeiryddion Byrddau Pensiwn yn cael
mynychu’r cydbwyllgor fel sylwebwyr - yn cael rhoi
mewnbwn ond heb bleidlais
·
Posib argymell
2 sylwebydd (un o’r De ac
un o’r Gogledd)
·
Ni
ddylai cynrychiolydd aelodau fod yn
gadeirydd annibynnol
·
Rhaid i’r ymarfer ychwanegu gwerth
·
Bod CIPFA yn argymell yr
ymarfer a Chronfeydd eraill yn ei
weithredu - angen i Bartneriaeth Cymru wneud yr
un fath
·
Rheolydd Pensiynau
yn pwyso ar y Byrddau i
edrych ar sut mae cronfeydd
yn gweithredu - hyn yn rheswm
da i gael cynrychiolwyr o’r Byrddau Pensiwn ar y Cydbwyllgor
·
Awgrym i’r
Pwyllgor Pensiynau ddod i benderfyniad
ar y mater a chyfeirio’r penderfyniad ymlaen at y Cydbwyllgor
DERBYNIWYD y
wybodaeth
Dogfennau ategol: