Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cyllid (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid:-
·
Adroddiad yn argymell
cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2020/21;
·
Penderfyniad drafft y
Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd
o 3.9%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul
cymuned.
Diolchodd yr Aelod
Cabinet i staff yr Adran Gyllid, ac yn benodol yr Uwch Reolwr Cyllid a gweddill
y tîm cefnogol, am eu holl waith yn absenoldeb y Pennaeth Cyllid am gyfnod.
Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:-
·
Nodwyd bod Fairbourne
wedi dod yn adnabyddus dros y byd fel pentref heb ddyfodol, a bod effaith
Cynllun Rheoli Traethlin y Cyngor yn golygu bod tai yn Fairbourne wedi colli
bron i draean o’u gwerth. Roedd y Cyngor
Cymuned yn flin bod y Dreth Gyngor yn parhau i godi, er bod y pentref wedi’i
gondemnio gan Gyngor Gwynedd, ac yn galw am ostyngiad yn y Dreth. Mewn ymateb, nodwyd ei bod yn bwysig
tanlinellu nad y Cyngor oedd wedi condemnio Fairbourne. Yn hytrach, roedd y Cyngor wedi amlygu’r risg
roedd y pentref yn wynebu i’r dyfodol. O
ran y Dreth Gyngor, yr unig ffordd o gael gostyngiad fyddai i’r Prisiwr edrych
eto ar y bandiau, a rhoddwyd addewid y byddai’r Cyngor yn cysylltu â’r Prisiwr
ar ran pobl Fairbourne i ofyn iddynt ddod yno i edrych ar y sefyllfa.
·
Nodwyd bod y Cyngor
wedi bod yn derbyn a derbyn toriadau ers 12 mlynedd bellach, a bod y codiadau
parhaus yn y Dreth yn cael effaith ddifrifol ar y bobl hynny sydd ar gyflogau
bychain. Holwyd pryd roedd y Cyngor am
sefyll fel un yn erbyn y toriadau sy’n dod o Gaerdydd a San Steffan? Mewn ymateb, nodwyd y deellid y sylwadau, ond
bod rhaid i’r Cyngor osod cyllideb hafal, a’i fod, trwy Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru a nifer o gyrff eraill, yn lobïo’n barhaus.
·
Nodwyd bod y Dreth Gyngor ar Fand D yng Ngwynedd wedi
codi o £889 yn 2004 i £1,699 yn 2018.
Dim ond 5 Cyngor trwy Gymru oedd â lefel treth Band D uwch na Gwynedd,
ac roedd gan y sir hon ardaloedd difreintiedig iawn. Nid oedd cyflogau pobl gyffredin Gwynedd wedi
codi, ac er bod staff y Cyngor wedi derbyn codiad yn eu cyflog yn ddiweddar,
roedd hynny’n cael ei gymryd yn ôl drwy’r codiad yn y dreth. Roedd effaith codi trethi, yn ogystal â chodi
tâl am barcio yn y trefi, yn cael effaith enfawr ar fusnesau Gwynedd. Teimlid nad oedd unrhyw un yn cymryd
cyfrifoldeb dros drethi yng Nghymru ac roedd Llywodraeth Cymru’n parhau gyda’r
model o roi rhyddid i’r cynghorau godi’r dreth heb sylw i’r effaith ar
bobl. Roedd llai o incwm gwario yn
golygu bod llai o wariant yn digwydd yn ein heconomi, ac roedd hynny, yn ei
dro, yn golygu llai o swyddi i bobl, llai o bobl yn talu trethi, ayb.
·
Nodwyd bod prif wariant y Cyngor yn y maes gofal, yn
enwedig yn y maes henoed, ac o ddeall hynny, na welid sut y gallai’r cyhoedd
wrthwynebu’r cynnydd yn y Dreth Gyngor.
Diolchwyd hefyd i’r swyddogion am wrando ar farn y craffwyr gofal a
gwneud eu gorau dros bobl Gwynedd.
·
Nodwyd bod y Cyngor
wedi colli tua £70m dros y 10 mlynedd ddiwethaf, a bod gwaith mawr yn mynd
ymlaen drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i geisio darbwyllo’r gwleidyddion
sy’n gwneud y penderfyniadau yng Nghaerdydd o’r angen am gyllido priodol i
lywodraeth leol. Roedd llywodraeth leol
wedi bod ar waelod y rhestr bob tro, ond eleni, yn sgil cyflwyno achos cryf
iawn i’r Llywodraeth, fe lwyddwyd i gael setliad grant ychydig fwy teg. Pwysleisiwyd y dylid ymfalchïo yn
effeithiolrwydd y Cyngor hwn a’i gadernid cyllidol, a nodwyd bod Cyngor Gwynedd
yn cael ei gydnabod fel un o’r cynghorau mwyaf darbodus a chyfrifol yng
Nghymru.
·
Mewn ymateb i sylw
bod yr argymhelliad i gynyddu’r dreth 3.9% yn dipyn uwch na lefel chwyddiant
cyffredinol, oedd ychydig dros 2.5%, eglurwyd mai’r cynnydd yn y galw yn y
meysydd plant ac oedolion oedd yn bennaf gyfrifol am hyn.
·
Nodwyd nad oedd
Llywodraeth San Steffan yn edrych ar ôl Cymru o gwbl. Cymru oedd â’r tlodi plant gwaethaf ym
Mhrydain ac roedd chwarter poblogaeth Cymru yn byw mewn tlodi bellach. Pobl Cymru oedd â’r disgwyliad oes isaf a
Chymru oedd y wlad fwyaf ddifreintiedig yn economaidd ym Mhrydain, gyda’r tai
mwyaf llaith ac oer yn Ewrop. Roedd
iechyd plant Cymru yn gwaethygu yn flynyddol ac roedd Cymru hefyd yn colli ei
hiaith.
·
Pwysleisiwyd na
ddymunai neb weld cynnydd yn y Dreth Gyngor, ond nid oedd gan y Cyngor ddewis
arall gan fod y Fformiwla Barnett yn rhoi Cymru ar waelod y pentwr bob
tro. Nodwyd hefyd ei bod yn bwysig rhoi
cyhoeddusrwydd ledled y sir i’r ffaith bod y Siambr hon a’r Cyngor hwn yn
herio’r Fformiwla.
·
Gan gyfeirio at fid
cyfalaf 1 – Darpariaeth pwyntiau gwefru cerbydau cyhoeddus (Atodiad 2c i’r
adroddiad), sylwyd nad oedd nifer o feysydd parcio yn gymwys am grant, a holwyd
beth oedd y meini prawf ar gyfer cymhwyso ar gyfer hynny. Mewn ymateb, eglurwyd bod grant ar gael gan y
Llywodraeth ar gyfer darparu rhwyfaint o bwyntiau gwefru, ond roedd y Cyngor, a
hefyd Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn dymuno cyflenwi pwyntiau gwefru mewn
mannau nad oedd yn gymwys am yr arian grant.
·
Nodwyd y cafwyd trafodaeth hirfaith a buddiol yn y
Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu ynglŷn â’r modd o osod y dreth, ac y
daethpwyd i gytundeb bod 3.5% yn taro’r fargen.
Yn fuan ar ôl hynny, daeth bid ychwanegol i mewn gan yr Adran Dai, a
deellid mai hynny oedd y rheswm pam bod y cynnydd yn y Dreth a argymhellid
bellach yn 3.9%, sef 0.4% yn uwch na’r hyn a argymhellwyd yn wreiddiol. Nid oedd yn glir beth oedd amcan y bid
ychwanegol, ond ni chredid y byddai’n ddigon o gyfiawnhad i gefnogi cynnydd o
3.9% yn y Dreth. I’r diben hwnnw, nododd
yr aelod a wnaeth y sylw y byddai’n cynnig cynnydd o 3.5%. Mewn ymateb, eglurwyd mai pwrpas bid yr Adran
Tai oedd ariannu llety dros dro i bobl sy’n ddigartref, a phe na fyddai’r
Cyngor yn ariannu’r bid, byddai’r bobl hynny’n parhau’n ddigartref. Eglurwyd hefyd bod y bid wedi dod i law'r
diwrnod ar ôl y gyntaf yn y gyfres o weithdai aelodau i drafod y gyllideb, a
bod hynny wedi’i gyfathrebu drwy e-bost i’r aelodau fu yn y gweithdy cyntaf
hwnnw erbyn dyddiad y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, lle bu cefnogaeth i’r
cynnig o gynnydd 3.9%. O ran cynnig
gwelliannau i’r gyllideb a’r cynnydd yn y Dreth, eglurwyd bod y gyfundrefn yn
gofyn am rybudd ysgrifenedig o 2 ddiwrnod i gynnig gwelliant, fel bod cyfle i
ystyried yr ymhlygiadau.
·
Nodwyd bod y Cyngor
wedi pleidleisio’n unfrydol yn gynharach dros fabwysiadu Cynllun y Cyngor 2019-23 (Adolygiad 2020/21), felly byddai’n synhwyrol i’r aelodau
bleidleisio dros y gyllideb fyddai’n caniatáu i’r Cyngor wireddu’r cynlluniau
hynny.
Tra’n ategu’r pryderon sylweddol bod y Cyngor wedi gorfod torri flwyddyn
ar ôl blwyddyn, ac yn cytuno bod parhau i herio’r Llywodraethau yng Nghaerdydd
a San Steffan yn gwbl angenrheidiol, mynegodd sawl aelod eu parodrwydd i
gefnogi’r gyllideb, ond gyda chalon drom.
PENDERFYNWYD:
1. Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd
gan y Cabinet, sef:-
(a) Sefydlu cyllideb
o £261,837,750 ar gyfer 2020/21, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o
£187,579,040 a £74,258,710 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.9%.
(b) Sefydlu
rhaglen gyfalaf o £44,247,260 yn 2020/21 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn
Atodiad 4 i’r adroddiad.
2.
Nodi fod yr Aelod
Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 11 Tachwedd 2019, wedi
cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2020/21 yn unol â’r
rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y
Ddeddf”):-
(a) 51,917.91 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen
drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y
Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei sylfaen Dreth Cyngor am y
flwyddyn.
(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned
–
Aberdaron |
547.61 |
|
Llanddeiniolen |
1,832.47 |
Aberdyfi |
981.63 |
Llandderfel |
497.41 |
|
Abergwyngregyn |
117.58 |
Llanegryn |
162.93 |
|
Abermaw
(Barmouth) |
1,154.44 |
Llanelltyd |
292.05 |
|
Arthog |
629.90 |
Llanengan |
2,110.47 |
|
Y
Bala |
780.58 |
Llanfair |
306.29 |
|
Bangor |
3,844.14 |
Llanfihangel
y Pennant |
218.27 |
|
Beddgelert |
306.63 |
Llanfrothen |
224.99 |
|
Betws
Garmon |
134.95 |
Llangelynnin |
413.24 |
|
Bethesda |
1,664.32 |
Llangywer |
137.48 |
|
Bontnewydd |
437.65 |
Llanllechid |
344.29 |
|
Botwnnog |
444.04 |
Llanllyfni |
1,405.19 |
|
Brithdir
a Llanfachreth |
419.04 |
Llannor |
901.31 |
|
Bryncrug |
337.30 |
Llanrug |
1,124.21 |
|
Buan |
224.70 |
Llanuwchllyn |
307.41 |
|
Caernarfon |
3,556.57 |
Llanwnda |
796.76 |
|
Clynnog
Fawr |
449.14 |
Llanycil |
193.56 |
|
Corris |
301.71 |
Llanystumdwy |
866.96 |
|
Criccieth |
944.20 |
Maentwrog |
281.18 |
|
Dolbenmaen |
618.47 |
Mawddwy |
352.78 |
|
Dolgellau |
1,224.77 |
Nefyn |
1,453.53 |
|
Dyffryn
Ardudwy |
802.28 |
Pennal |
220.28 |
|
Y
Felinheli |
1,146.20 |
Penrhyndeudraeth |
781.77 |
|
Ffestiniog |
1,735.84 |
Pentir |
1,243.77 |
|
Y
Ganllwyd |
91.23 |
Pistyll |
249.91 |
|
Harlech |
775.51 |
Porthmadog |
2,022.66 |
|
Llanaelhaearn |
443.62 |
Pwllheli |
1,736.18 |
|
Llanbedr |
329.38 |
Talsarnau |
327.52 |
|
Llanbedrog |
720.23 |
Trawsfynydd |
498.88 |
|
Llanberis |
773.86 |
Tudweiliog |
464.83 |
|
Llandwrog |
1,033.56 |
Tywyn |
1,617.43 |
|
Llandygai |
996.31 |
|
Waunfawr
|
564.51 |
sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth
Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle
bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.
3.
Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y
flwyddyn 2020/21 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-
(a) £392,527,390 |
Sef
cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a
nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros). |
(b) £128,663,670 |
Sef
cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a
nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm). |
(c) £263,863,720 |
Sef
y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b)
uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei
ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net). |
(ch) £187,100,978 |
Sef
cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod
y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a
Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol
o’r dreth annomestig a ganiateir. |
(d) £1,478.54 |
Sef
y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan wedi ei rannu gan y
swm a nodir yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag Adran 33(1) o’r
Ddeddf, sef swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd
a threth cyfartalog cynghorau cymuned). |
(dd) £2,504,030 |
Sef
cyfanswm yr holl eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf
(praeseptau’r cynghorau cymuned). |
(e) £1,430.31 |
Sef
y swm yn 3(d) uchod llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r swm yn 3(dd) uchod
â’r swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 34(2)
fel swm sylfaenol ei Dreth Cyngor am y
flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle nad oes unrhyw
eitem arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor Gwynedd yn unig). |
(f)
Ar gyfer rhannau o
ardal y Cyngor –
Aberdaron |
1,457.70 |
|
Llanddeiniolen |
1,447.66 |
Aberdyfi |
1,467.79 |
Llandderfel |
1,448.40 |
|
Abergwyngregyn |
1,455.82 |
Llanegryn |
1,464.07 |
|
Abermaw (Barmouth) |
1,482.28 |
Llanelltyd |
1,455.99 |
|
Arthog |
1,450.15 |
Llanengan |
1,456.37 |
|
Y Bala |
1,462.34 |
Llanfair |
1,482.55 |
|
Bangor |
1,531.29 |
Llanfihangel y Pennant |
1,482.08 |
|
Beddgelert |
1,466.18 |
Llanfrothen |
1,467.20 |
|
Betws Garmon |
1,449.58 |
Llangelynnin |
1,454.03 |
|
Bethesda |
1,499.74 |
Llangywer |
1,459.41 |
|
Bontnewydd |
1,472.58 |
Llanllechid |
1,473.88 |
|
Botwnnog |
1,444.95 |
Llanllyfni |
1,465.06 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
1,451.79 |
Llannor |
1,450.46 |
|
Bryncrug |
1,467.69 |
Llanrug |
1,483.68 |
|
Buan |
1,447.00 |
Llanuwchllyn |
1,466.09 |
|
Caernarfon |
1,486.12 |
Llanwnda |
1,465.45 |
|
Clynnog Fawr |
1,465.93 |
Llanycil |
1,450.98 |
|
Corris |
1,461.23 |
Llanystumdwy |
1,451.07 |
|
Criccieth |
1,474.79 |
Maentwrog |
1,451.83 |
|
Dolbenmaen |
1,459.41 |
Mawddwy |
1,455.31 |
|
Dolgellau |
1,487.46 |
Nefyn |
1,481.91 |
|
Dyffryn Ardudwy |
1,492.63 |
Pennal |
1,459.18 |
|
Y Felinheli |
1,465.21 |
Penrhyndeudraeth |
1,480.84 |
|
Ffestiniog |
1,565.69 |
Pentir |
1,470.51 |
|
Y Ganllwyd |
1,463.19 |
Pistyll |
1,476.33 |
|
Harlech |
1,520.57 |
Porthmadog |
1,461.25 |
|
Llanaelhaearn |
1,486.66 |
Pwllheli |
1,475.24 |
|
Llanbedr |
1,475.85 |
Talsarnau |
1,497.48 |
|
Llanbedrog |
1,460.16 |
Trawsfynydd |
1,470.40 |
|
Llanberis |
1,469.08 |
Tudweiliog |
1,447.52 |
|
Llandwrog |
1,492.23 |
Tywyn |
1,486.16 |
|
Llandygai |
1,455.81 |
|
Waunfawr |
1,451.57 |
sef y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r
eitem neu eitemau arbennig sy’n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o
ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u
rhannu ym mhob achos gan y swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol
ag Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel symiau sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn
ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu
fwy’n berthnasol.
(ff)
Ar gyfer rhannau o
ardal y Cyngor, y ffigyrau a nodir yn Atodiad 1, sef y symiau a geir trwy
luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5
(1) o’r Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisio arbennig
wedi’i rannu â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir
ym mand prisio D, a gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf,
yn symiau sydd i’w hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai
annedd a restrir yn y gwahanol fandiau prisio.
4.
Nodi ar gyfer y
flwyddyn 2020/21 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi nodi’r
symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r
Ddeddf ar gyfer pob un o’r categorïau o dai annedd a ddangosir isod:
|
Band A |
Band B |
Band C |
Band D |
Band E |
Band F |
Band G |
Band H |
Band
I |
|
193.74 |
226.03 |
258.32 |
290.61 |
355.19 |
419.77 |
484.35 |
581.22 |
678.09 |
5.
Wedi pennu’r
cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4 uchod, bod y Cyngor, yn unol ag
Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r symiau a nodir yn Atodiad 2 ar
gyfer y Dreth Gyngor yn y flwyddyn 2020/21 ar gyfer pob categori o dai annedd a
ddangosir yn yr Atodiad.
Dogfennau ategol: