Agenda item

Cais llawn i godi 4 uned byw hunan gynhaliol a chreu ffordd fynediad ynghyd ag adnoddau cysylltiol

 

AELOD LLEOL:  CYNGHORYDD JASON WAYNE PARRY

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Cofnod:

Cais llawn i godi 4 uned byw hunan gynhaliol i’w defnyddio fel llety dros dro ar gyfer unigolion bregus; creu ffordd fynediad ynghyd ag adnoddau cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y datblygiad  arfaethedig wedi ei leoli ar ran o gyn safle Canolfan Segontiwm o fewn ffiniau datblygu tref Caernarfon sydd wedi ei ddynodi yn y Cynllun Datblygu Lleol fel Canolfan Gwasanaeth Trefol. Amlygwyd mai defnydd olaf y safle oedd Ysgol Pendalar a Chanolfan Segontiwm (Canolfan dydd i oedolion gydag anawsterau dysgu). Nodwyd bod defnydd o’r safle wedi dod i ben ers rhai blynyddoedd gyda’r holl adeiladau wedi eu dymchwel gan adael dim ond lloriau concrid mewn lle.

 

Eglurwyd bod y bwriad yn ymwneud a chodi 4 uned / pod byw sydd wedi eu cynllunio a’u darparu er mwyn cyrraedd anghenion unigolion bregus. Ategwyd mai llety dros dro yw’r unedau fyddai’n cynorthwyo defnyddwyr i sefydlogi eu bywydau a symud ymlaen i lety mwy parhaol. Nodwyd y byddai’r podiau ym mherchnogaeth y Cyngor ac yn cael eu rheoli ar gyfer llety tymor byr drwy’r Cyngor mewn partneriaeth â landlord cymdeithasol cofrestredig.

 

Ystyriwyd bod maint (unllawr cymharol fychan), lleoliad, edrychiadau a gorffeniadau allanol yr unedau yn dderbyniol ac wedi eu dylunio i bwrpas penodol ac na fyddent yn achosi effaith andwyol gweledol. Ystyriwyd bod y pellter rhwng yr adeiladau newydd â’r ffin â chefnau tai Llys Talar yn dderbyniol ac ni fyddai’n creu effaith andwyol sylweddol ar fwynderau trigolion cyfagos. Cydnabuwyd bod sylwadau wedi ei derbyn gan drigolion o Ffordd Cwstenin, Ffordd Llanbeblig a Stryd y Faenol ar ffurf deiseb yn pryderu am effaith y datblygiad ar eu mwynderau a’r ardal yn gyffredinol.

 

Yng nghyd-destun materion priffyrdd, adroddwyd bod bwriad cynnal gwelliannau i’r  ffordd gan gynnwys lledu’r ffordd bresennol a chreu llwybr cerdded ynghyd a chreu man troi i mewn at yr unedau. Ategwyd bod y safle mewn lleoliad hygyrch, oddeutu 400 - 500m o ganol y dref tra bod y gosodiad a’r dyluniad yn sicrhau mynediad i ystod eang o ddefnyddwyr. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad.

 

Yng nghyd-destun materion archeolegol, nodwyd bod y safle wedi ei leoli ger safle Caer Rufeinig Segontiwm sydd yn heneb gofrestredig. Amlygwyd bod trafodaethau wedi ei cynnal ynglŷn ag effaith y datblygiad arfaethedig ar yr heneb gofrestredig. O ganlyniad i sylwadau a phryderon a godwyd gan CADW a Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd, ail ymgynghorwyd yn llawn gyda’r cyrff arbenigol a derbyniwyd ymatebion gydag amodau i’w hystyried.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r holl sylwadau a dderbyniwyd , ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a gofynion polisïau perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod diffyg ymgynghori gyda thrigolion lleol - deiseb wedi ei llofnodi  yn mynegi gwrthwynebiad. Dim digon o sylw at y ddeiseb yn yr adroddiad (5.15 - brawddeg yn unig).

·         Nifer o ymholiadau wedi ei gwneud yn Siop Gwynedd Caernarfon ac i’r Gwasanaeth Cynllunio, ond dim trafodaethau wedi ei cynnal / ymatebion wedi ei derbyn. Oherwydd diffyg ymgynghori a gwybodaeth, trigolion lleol wedi gorfod dibynnu ar wybodaeth yn y wasg

·         Y trigolion lleol yn ffafrio tai o ansawdd da / fforddiadwy

·         Bod nifer o gwestiynau heb eu hateb - ‘pobl fregus’? beth yw’r meini prawf?, materion diogelwch?, gofal 24 awr? - diffyg dealltwriaeth a gwybodaeth o’r bwriad.

·         Yr ardal yn  hanesyddol wedi dioddef o ymddygiadau gwrthgymdeithasol

·         Dim ymdrech wedi ei wneud i wrando a thrafod pryderon trigolion yr ardal

·         Beth fydd yn digwydd i werth y tai gyferbyn?

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

ch)   Cynigiwyd gwelliant i ohirio’r penderfyniad am y rhesymau canlynol:

·           Cynnal ymgynghoriad lleol

·           Cynnal ymweliad safle

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·    Bod y cynllun yn un arloesol a’r egwyddor yn addawol

·      Bod sylwadau / ymatebion yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi eu cynnwys yn yr adroddiad

·      Bod y Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r cais

·      Bod arian gan y Llywodraeth yn cefnogi’r fenter - pryder y byddai’r arian yma yn cael ei golli (amserlen diwedd Mawrth 2020)

·      Dim gwrthwynebiad i’r cynllun, ond awgrym i ymweld â’r safle (materion mynedfa)

·      Derbyn bod ymgynghoriad statudol wedi ei gynnal, ond cynnig cynnal ymgynghoriad / trafodaethau lleol er cwrteisi i’r trigolion lleol neu drafodaeth gyda’r Aelod Lleol

·      Awgrym i ail ymgynghori er mwyn lleddfu poendod

·      Bod angen mwy o wybodaeth am ddefnydd y bwriad a rheolaeth y safle

·      Os caniatáu, yr Adran Tai i gynnal trafodaethau pellach gyda’r gymuned leol

 

dd)  Mewn ymateb i sylw bod angen ymgynghoriad pellach, nododd Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd bod ymgynghoriad statudol wedi ei gynnal a sylwadau ar yr ymatebion a dderbyniwyd wedi ei cynnwys yn yr adroddiad (5.9 - 5.15). Ategwyd bod yr adroddiad yn adlewyrchu yn glir defnydd y bwriad o ddiwallu anghenion y digartref. Nodwyd bod tystiolaeth gadarn o’r angen.

 

 e)  Pleidleisiwyd ar y gwelliant

 

PENDERFYNWYD gohirio’r penderfyniad er mwyn;

·      Trafod egwyddorion y cais a phryderon y gymuned gyda’r Aelod Lleol, yr ymgeisydd a swyddogion cynllunio

·      Cynnal ymweliad safle

·      Derbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â rheolaeth y safle

·      Derbyn gwybodaeth am y dull sgrinio’r fynedfa o dai cyfag

Dogfennau ategol: