Agenda item
Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer dymchwel adeiladau presennol a chodi 7 uned preswyl fel a ganiatawyd yn amlinellol o dan gyferinod C17/0912/35/AM
AELOD LLEOL: CYNGHORYDD EIRWYN WILLIAMS
Cofnod:
Cais materion a
gadwyd yn ôl ar gyfer dymchwel adeiladau presennol a chodi 7 uned breswyl fel y
caniatawyd yn amlinellol o dan gyfeirnod C17/0912/35/AM
a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y
cais gan nodi bod y cais gerbron ar gyfer asesu dyluniad a thirweddu’r unedau
yn unig gan fod yr egwyddor ynghyd â’r materion yn ymwneud gyda mynedfa,
llunwedd a graddfa eisoes wedi eu caniatáu o dan y cais amlinellol.
Pwysleisiwyd bod 2 allan o’r 7 uned breswyl yn unedau fforddiadwy. Nodwyd fod
gwaith mewn cyswllt a’r datblygiad gerbron wedi cychwyn ar y safle, a bod yr
adeiladau presennol eisoes wedi dymchwel, ond nad oes caniatâd cynllunio llawn
yn bodoli ar y safle ar hyn o bryd ac felly mae’r gwaith wedi dod i ben am y
tro.
Yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus, derbyniwyd sylwadau
ynglŷn ag uchder yr adeiladau. Esboniwyd bod y raddfa eisoes wedi ei
ganiatáu o dan y caniatâd amlinellol, ac mae’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan
o’r cais gerbron yn cydymffurfio â’r hyn a ganiatawyd o dan y cais amlinellol.
Nodwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais gerbron yn cadarnhau fod
graddfa ac uchder yr anheddau yn parhau yn unol â’r hyn a ganiatawyd o dan y
caniatâd amlinellol, ac yn cadarnhau lefelau llawr gorffenedig sy’n rhyddhau
amod 13 o’r caniatâd amlinellol hefyd. Mae’r cynllun bloc yn cadarnhau’r
gorffeniad caled a meddal o ran tirweddu sy’n rhyddhau’r elfen materion a
gadwyd yn ôl yn amod 3 o’r caniatâd amlinellol yn ogystal â gofyniad amod 14
sy’n gofyn am gynllun tirlunio. Nodwyd bod y dyluniad bwriedig yn syml ac mai’r
bwriad yw gorffen yr anheddau gyda tho llechi a’r waliau allanol wedi eu rendro
yn lliwiau gwyn a llwyd.
Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd.
Amlygwyd nad yw safle’r cais yn cynnwys y llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg heibio
ochr y safle. Mae’r safle, sydd i gyd o fewn ffin ddatblygu Criccieth, wedi ei
leoli o fewn ardal gyda nodweddion dyluniadol amrywiol sy’n cynnwys cymysg o
anheddau amrywiol ac adeiladau masnachol. Mae’r dyluniad, gorffeniad a’r
tirweddu bwriedig yn syml a nodwyd ei fod yn cydweddu â’r ardal ac yn
dderbyniol o ran effaith weledol. Eglurwyd na fyddai’r bwriad gerbron yn cael
effaith andwyol ar fwynderau cyffredinol na phreifatrwydd y trigolion cyfagos.
Cadarnhawyd fod y materion a gadwyd yn ôl ar ganiatâd
amlinellol i ddymchwel yr eiddo blaenorol a chodi 7 uned breswyl o dan
gyfeirnod C17/0912/35/AM yn dderbyniol ac yn unol â’r polisïau cynllunio.
b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais.
c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r
argymhelliad.
ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan yr aelodau:
·
bod y cais amlinellol wedi cael caniatâd beth
bynnag a doedd dim gwrthwynebiadau i’r materion a gadwyd yn ôl.
·
Cymeradwywyd bod 2 allan o’r 7 uned yn unedau
preswyl fforddiadwy.
PENDERFYNWYD caniatáu y
cais gan nodi fod amodau 13 a 14 o’r caniatâd amlinellol sy’n ymwneud â lefel
llawr gorffenedig a chynllun tirweddu wedi eu rhyddhau fel rhan o’r caniatâd
yma.
Dogfennau ategol: