skip to main content

Agenda item

Cais i newid amod 1 o C14/0061/41/AM ac amod 1 o C18/0249/41/MG er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn y gwaith, newid gosodiad a dyluniad y tai bwriedig ynghyd â’r cyfran o unedau fforddiadwy yn y cytundeb 106 cysylltiol

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD ALED EVANS

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Cofnod:

Cais i newid amod 1 o C14/0061/41/AM ac amod 1 o C18/0249/41/MG er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn y gwaith, newid gosodiad a dyluniad y tai bwriedig ynghyd â’r gyfran o unedau fforddiadwy yn y cytundeb 106 cysylltiol

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y cais yn gais llawn ar gyfer newid amod 1 o ganiatâd cynllunio C14/0061/41/AM ac amod 1 o ganiatâd C18/0249/41/MG er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn gwaith, newid gosodiad a dyluniad y tai bwriedig ynghyd a’r gyfran o unedau fforddiadwy yn y Cytundeb 106 cysylltiol. Eglurwyd bod y caniatâd amlinellol a chaniatâd materion a gadwyd yn ôl eisoes wedi eu rhoi o dan gyfeirnodau C14/0061/41/AM ac C18/0249/41/MG ar gyfer codi 15 preswyl i gynnwys 5 uned fforddiadwy. Nodwyd bod y cais gerbron yn golygu newid gosodiad a dyluniad y tai ynghyd a lleihau’r gyfran o dai fforddiadwy o 5 i 2.

 

Eglurwyd bod egwyddor y bwriad wedi ei dderbyn a’i sefydlu eisoes drwy’r caniatâd cynllunio amlinellol a materion a gadwyd yn ôl sydd eisoes wedi eu caniatáu ar y safle.  Nodwyd bod y caniatadau hyn sydd wedi eu penderfynu yn unol â’r Cynllun Datblygu Unedol ar y pryd a’r polisïau eraill perthnasol, yn parhau ar y safle ac yn sefydlu egwyddor y bwriad gerbron.  Mae hyn yn ystyriaeth faterol cynllunio.  Tynnwyd sylw at  yr angen i ystyried os yw’r amgylchiadau neu’r sefyllfa bolisi cynllunio wedi newid ers caniatáu’r ceisiadau yma yn wreiddiol, ac asesu’r newidiadau yn erbyn y polisïau cyfredol. Erbyn hyn, mae Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn wedi ei fabwysiadu, ac felly mae newid materol wedi bod yn y polisïau ers penderfynu egwyddor y cais amlinellol blaenorol.

 

Amlygwyd, o dan y Cynllun Datblygu Lleol, mae’r canran o dai fforddiadwy yn llai na’r hyn oedd yn ofynnol o dan y Cynllun Datblygu Unedol. Er bod y caniatadau blaenorol yn darparu 5 uned fforddiadwy, mae’r bwriad i ddarparu 2 uned erbyn hyn yn cydymffurfio â gofynion y polisi cynllunio cyfredol (TAI 15). Eglurwyd bod yr unedau fforddiadwy wedi eu lleoli o fewn canol y safle ac yn dai 2 llofft sy’n cydymffurfio â’r angen yn yr ardal am dai fforddiadwy ac wedi ei gadarnhau gan Uned Strategol Tai. 

 

Nodwyd bod y bwriad yn cynnig cymysgedd priodol o 11 3 llofft (rhai gydag a heb fodurdy cysylltiol a maint gerddi gwahanol), dau 2 lofft (fforddiadwy) a dau 4 llofft. Ategwyd bod hyn yn cynnig mwy o amrywiaeth o’i gymharu â’r cynllun blaenorol oedd yn cynnig 11 3 llofft, 3 4 llofft ac un byngalo 2 lofft.  Derbyniwyd cadarnhad gan yr  asiant bod y cymysgedd bwriedig yn seiliedig ar Asesiad Angen Tai Gwynedd. 

 

Nodwyd bod materion mwynderau gweledol, mwynderau cyffredinol a phreswyl a materion trafnidiaeth yn dderbyniol. Ategwyd nad oedd newid yn y cais i faterion llecynnau agored o werth adloniadol na chyfleusterau addysgol.

 

Ystyriwyd bod y datblygiad yn parhau i gydymffurfio â pholisïau tai cyfredol a’r canllawiau cynllunio atodol cyfredol sy’n ymwneud ag Ymrwymiad Cynllunio, Tai Fforddiadwy a Chymysgedd Tai.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod gwell cydbwysedd yn y math o dai

·         Nad oedd gwrthwynebiadau lleol i’r cynllun

·         Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r bwriad

·         Y datblygwr yn lleol ac yn gyfarwydd â’r pentref

·         Dim effaith ar gynlluniau i ail agor y dafarn i’r dyfodol – y datblygiad yn gweithio law yn llaw â hyn

·         Tai fforddiadwy yn dai dwy lofft yn unol â gofynion Tai Teg ac Adran Tai Cyngor Gwynedd

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Pam bod y cais gwreiddiol yn cynnwys 5 fforddiadwy ac erbyn hyn wedi gostwng i 2?

·         A ddylid cyflwyno cais o’r newydd?

·         Pryder mai'r ddau lleiaf yw'r rhai fforddiadwy, ond derbyn os yw hyn yn ymateb i’r angen

·         Wrth adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol (2021) dylid ail asesu hyfywdra ardaloedd  i geisio gwell canran tai fforddiadwy

·         Croesawu bod y datblygwr yn lleol ac yn adnabod yr ardal

·         Bod y cyfraniad addysgiadol yn ymddangos yn rhy isel

 

d)    Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfraniad addysgiadol, nodwyd bod y cyfraniad wedi ei selio ar wybodaeth a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Addysg a gofynion y Canllaw Cynllunio Atodol perthnasol.

 

dd)   O ran cyflwyno cais o’r newydd, nodwyd bod gan y datblygwr hawl i addasu’r math o dai sy’n cael eu cynnig. Ategwyd bod y cynllun gerbron yn welliant, bod nodweddion y dyluniad yn well ac yn cynnig gwell cymysgedd o dai.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r  hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i ddiwygio’r Cytundeb 106 presennol er mwyn newid y nifer o dai fforddiadwy (heb newid i’r cyfraniad addysgol) ac i amodau perthnasol yn ymwneud gyda:

 

1.    2 flynedd (yn unol â’r hyn a ofynnir ar y ffurflen gais)

2.    Gorffeniad allanol

3.    Llechi

4.    SUDS

5.    Amodau Priffyrdd

6.    Amodau Dŵr Cymru

7.    Cynllun Goleuo

8.    Tirlunio

9.    Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir ar gyfer yr unedau fforddiadwy

 

 

Dogfennau ategol: