skip to main content

Agenda item

Lleoli 18 unedau gwyliau teithiol, lleoli cwt bugail symudol ar gyfer cyfleusterau ymolchi i'r unedau teithiol, creu ffyrdd ynghyd a gwelliannau amgylcheddol gan gynnwys creu llwybrau troed a thirlunio

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD SION JONES

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Cofnod:

Lleoli 18 unedau gwyliau teithiol, lleoli cwt bugail symudol ar gyfer cyfleusterau ymolchi i'r unedau teithiol, creu ffyrdd ynghyd a gwelliannau amgylcheddol gan gynnwys creu llwybrau troed a thirlunio

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod yr hawl cynllunio presennol yn caniatáu lleoli 63 carafán deithiol, 6 o fodiau gwersylla a 2 lain ar gyfer unedau a fyddai yn cyrraedd yn hwyr yn y safle. Eglurwyd bod y cais gerbron yn gais llawn ar gyfer ymestyn y safle carafanau teithiol presennol i leoli 18 uned deithiol (carafanau, carafanau modur, pebyll a phebyll trelar) ychwanegol. Esboniwyd bydd yr unedau teithiol yn cael eu symud i safle storio o fewn y maes carafanau presennol tu allan i’r tymor gwyliau.

Pwysleisiwyd bod y safle wedi ei leoli mewn cae sy’n weddol guddiedig oherwydd presenoldeb coed a gwrychoedd ar hyd ei derfynau. Mae gorweddiad y dirwedd ynghyd a thirlunio presennol ar y terfynau hefyd yn creu safle sy’n guddiedig o fannau cyhoeddus. Mae’r cynllun a gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos bwriad i gryfhau’r gwrychoedd presennol drwy blannu ychwanegol a byddai hynny yn lleihau unrhyw effaith ar y tirlun, a nodwyd na fyddai’r bwriad yn amharu’n andwyol ar gymeriad a naws cefn gwlad y tirlun lleol. Nodwyd hefyd nad yw’r safle na’r ardal gyfagos wedi eu cydnabod na’u dynodi fel tirlun o unrhyw ddiddordeb arbennig, ac felly nad oes cymaint o bwyslais ar warchod y tirlun. Pwysleisiwyd bod y safle caeedig yn golygu nad yw’r safle’n weladwy o dŷ’r cymydog agosaf ac na fyddai’r cais gerbron yn cael effaith niweidiol sylweddol ychwanegol ar fwynderau’r tai yn y cyffiniau.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei wasanaethu gan fynedfa bresennol i ffordd sirol dosbarth 2 ac nid oes bwriad i altro’r fynedfa. Nodwyd nad oes gan yr uned drafnidiaeth bryderon ynglŷn ag effaith y bwriad ar unrhyw ffordd neu ffordd arfaethedig a gan ystyried graddfa’r datblygiad nid oes disgwyl y bydd cynnydd sylweddol mewn lefel trafnidiaeth. Pwysleisiwyd bod y bwriad yn dderbyniol o ran materion diogelwch ffyrdd.

 

Eglurwyd bod y bwriad yn cydymffurfio gyda holl ofynion y polisïau perthnasol ac yn dderbyniol ar sail ei leoliad, gosodiad, graddfa a’i effaith ar fwynderau gweledol yr ardal leol.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad.

 

c)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         bod diffiniad carafanau “teithiol” yn aneglur oherwydd eu bod i bob pwrpas yn garafanau statig heb law am y ffaith eu bod yn cael eu symud yn y gaeaf i’w storio.

·         Nodwyd, gan gyfeirio at yr hanes cynllunio perthnasol o fewn y cais, bod y safle hwn yn y gorffennol wedi ymestyn o 35 i 50 o garafanau teithiol ac mae’n parhau i ymestyn. Mynegwyd pryder am y llanast sydd yn gallu cael ei greu yng nghefn gwlad heb rwystr ar faint nac edrychiad carafanau a meysydd carafanau. 

·         Mewn ymateb i sylw’r aelod am y tarmac, nododd y Rheolwr Cynllunio mai’r argymhelliad fydd lliw meddalach na tharmac cyffredin.

·         Mewn ymateb i sylw’r aelod am y cynllun atal llygredd, cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio y bydd y cynllun atal llygredd yn cael ei gytuno cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn.

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais;

 

Amodau

1.    5 mlynedd.

2.    Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.

3.    Tirlunio.

4.    Cyfyngu’r niferoedd i 18 uned deithiol

5.    Cyfyngu'r unedau i ddefnydd gwyliau.

6.    Cyfyngu’r tymor gwyliau.

7.    Cadw cofrestr.

8.    Cadw'r unedau ar safle storio pan nad ydynt yn cael eu defnyddio/tu allan i’r tymor gwyliau

9.    Gweithredu yn unol ag argymhellion yr asesiad ecolegol.

10.  Dim torri coed, gwrychoedd neu glirio llystyfiant o fewn tymor nythu.

11.  Cytuno lliw y tarmac ar gyfer y ffordd gwasanaethu.

12.  Rheoli goleuo.

 

Dogfennau ategol: