Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol.
Cofnod:
‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog
Monitro ynglŷn â’r eitemau canlynol:-
Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2016/17 (eitem 9 ar y rhaglen)
Treth Cyngor: Disgresiwn i ganiatáu disgowntiau – 2016/17 (eitem 10 ar
y rhaglen)
Adolygu Datganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003 (eitem 11
ar y rhaglen)
Rhoddwyd
arweiniad ar lafar i’r aelodau ynglŷn â’r eitem
ganlynol:-
Dyfodol S4C (eitem 14 ar y rhaglen).
(1) Datganodd y Cynghorydd Linda
Wyn Jones fuddiant personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Cynllun Gostyngiadau
Treth Cyngor 2016/17 oherwydd ei bod yn rhedeg cwmni Seren, sy’n cael
gostyngiad treth cyngor.
‘Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.
(2) Datganodd yr aelodau
canlynol fuddiant personol yn eitem 10 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl
Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau – 2016/17, am y rhesymau a nodir:-
·
Y
Cynghorydd Mandy Williams-Davies - oherwydd bod ei
gŵr yn berchen ar eiddo gwag drwy etifeddiaeth.
·
Y
Cynghorydd Wyn Williams - oherwydd ei fod yn gydberchennog eiddo sydd yn wag yn
Nhalafon, Abersoch.
·
Y
Cynghorydd Linda Wyn Jones – oherwydd ei bod yn
rhedeg cwmni Seren, sy’n cael gostyngiad treth cyngor.
·
Y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn – oherwydd ei fod yn berchen ar eiddo sy’n wag.
·
Y
Cynghorydd Beth Lawton – oherwydd ei bod yn bwriadu cyflwyno cais am ddisgownt
Treth Cyngor y flwyddyn nesaf gan mai hi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo
erbyn hyn.
‘Roedd yr aelodau
o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.
·
Y
Cynghorydd Gwen Griffith – oherwydd ei bod yn Gadeirydd Mantell Gwynedd sy’n cynrychioli
mudiadau sy’n ceisio disgownt treth y Cyngor am eu bod yn elusennau.
Nid oedd yr aelod
o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a
chymerodd ran lawn yn y drafodaeth ar yr eitem.
(3) Datganodd yr aelodau
canlynol fuddiant personol yn eitem 11 ar y rhaglen – Adolygu Datganiad o
Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003, am y rhesymau a nodir:-
·
Y
Cynghorydd Selwyn Griffiths – oherwydd ei fod ar gorff rheoli Canolfan
Porthmadog.
·
Y
Cynghorydd Ioan Thomas – oherwydd ei fod yn gyfarwyddwr mewn adeilad sydd â
thrwydded gwerthu alcohol.
·
Y
Cynghorydd Peredur Jenkins – oherwydd ei fod yn Gadeirydd Clwb Rygbi Dolgellau.
·
Y
Cynghorydd Aled Wyn Jones – oherwydd ei fod yn gyfarwyddwr Clwb Trwyddedig y
Tŵr, Trefor.
·
Y
Cynghorydd Stephen Churchman – oherwydd ei fod yn Gadeirydd Pwyllgor Neuadd
Bentref Garndolbenmaen.
·
Y
Cynghorydd Sion Jones – oherwydd ei fod yn Gadeirydd Neuadd Bethel.
·
Y
Cynghorydd Aeron Jones – oherwydd ei fod yn Aelod o Bwyllgor Neuadd Felinwnda.
·
Y
Cynghorydd Eric Merfyn Jones – oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Neuadd
Groeslon.
·
Y
Cynghorydd Jason Humphreys – oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Rheoli
Canolfan Porthmadog.
·
Y
Cynghorydd Linda Wyn Jones – oherwydd ei bod yn
rhedeg gwesty sy’n cael ei drwyddedu.
·
Y
Cynghorydd John Brynmor Hughes – oherwydd bod ganddo dafarn yn Llanengan a’i
fod hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Trwyddedu.
‘Roedd yr aelodau
o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.
(4) Datganodd yr aelodau
canlynol fuddiant personol yn eitem 14 ar y rhaglen – Dyfodol S4C, am y
rhesymau a nodir:-
·
Y
Cynghorydd Selwyn Griffiths – oherwydd bod ei frawd yn gweithio i Tinopolis.
·
Y
Cynghorydd Eryl Jones-Williams – oherwydd ei fod yn gwneud rhywfaint o waith
i’r BBC ac S4C.
·
Y
Cynghorydd Michael Sol Owen – oherwydd bod ei fab yn gweithio i’r BBC.
·
Y
Cynghorydd Alwyn Gruffydd – oherwydd bod ei fab a’i ferch yn gweithio ar
raglenni S4C.
·
Y
Cynghorydd Dafydd Meurig – oherwydd ei fod yn gweithio’n achlysurol i’r BBC ac
yn anuniongyrchol i S4C.
·
Y
Cynghorydd Simon Glyn – oherwydd bod cefnder i’w blant yn ddyn camera ar raglen
‘Heno’.
·
Y
Cynghorydd Gweno Glyn – oherwydd bod perthynas agos yn gweithio yn y diwydiant
a’i bod hithau yn gweithio yn y diwydiant yn achlysurol.
·
Y
Cynghorydd Dilwyn Morgan – oherwydd ei fod yn derbyn gwaith achlysurol gan S4C.
·
Y
Cynghorydd Siân Gwenllian – oherwydd bod ganddi gysylltiadau teuluol yn y
diwydiant darlledu yn lleol.
·
Y
Cynghorydd Eurig Wyn – oherwydd bod ei fab yn cyflenwi ffilmiau i S4C.
·
Y
Cynghorydd Linda Wyn Jones – oherwydd bod ei mab yn
gweithio i S4C yn achlysurol.
·
Y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn – oherwydd bod dau o’i blant yn gweithio i’r BBC.
‘Roedd yr aelodau
o’r farn eu bod yn fuddiannau oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.