Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Gareth Thomas

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

  • Gefnogi’r egwyddor o ddatblygu prosiect cyfalaf buddsoddi i arbed gwerth hyd at uchafswm o £779,314 yn Neuadd Dwyfor er mwyn gwella’r ddarpariaeth a’r cyfleusterau, gwella’r cyfleon i godi incwm a sicrhau diogelwch defnyddiwr;
  • Cydnabod y risg o golled incwm o ganlyniad i gau’r Neuadd yn ystod y gwaith adeiladu os bwrir ymlaen;
  • Cefnogi dyrannu cyfraniad un-tro o gyllideb Trawsnewid y Cyngor ar gyfer buddsoddiad – sef hyd at £570,000 (cyfalaf);
  • Cefnogi ail-broffilio arbedion fel a gytunwyd yn wreiddiol i’r proffil a amlinellir yn nhabl 8.1;
  • Cefnogi cyflwyno ceisiadau i gyrff allanol i geisio lleihau cyfraniad y Cyngor ac uchafu gwerth buddsoddiad y Cyngor;
  • Cefnogi adnabod a chydweithio gyda phartneriaethau a sefydliadau lleol all gefnogi’r Neuadd i gyrraedd y targed arbediad llawn o £100,000 yn y tymor canolig yn dilyn y buddsoddiad – a hynny drwy osod her arnynt i leihau’r bwlch ariannol a chynorthwyo’r Cyngor i wneud arbediad parhaol o £100,000 yn y gyllideb erbyn 2025.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i:

¾     Gefnogi’r egwyddor o ddatblygu prosiect cyfalaf buddsoddi i arbed gwerth hyd at uchafswm o £779,314 yn Neuadd Dwyfor er mwyn gwella’r ddarpariaeth a’r cyfleusterau, gwella’r cyfleon i godi incwm a sicrhau diogelwch defnyddiwr;

¾     Cydnabod y risg o golled incwm o ganlyniad i gau’r Neuadd yn ystod y gwaith adeiladu os bwrir ymlaen;

¾     Cefnogi dyrannu cyfraniad un-tro o gyllideb Trawsnewid y Cyngor ar gyfer buddsoddiad – sef hyd at £570,000 (cyfalaf);

¾     Cefnogi ail-broffilio arbedion fel a gytunwyd yn wreiddiol i’r proffil a amlinellir yn nhabl 8.1;

¾     Cefnogi cyflwyno ceisiadau i gyrff allanol i geisio lleihau cyfraniad y Cyngor ac uchafu gwerth buddsoddiad y Cyngor;

¾     Cefnogi adnabod a chydweithio gyda phartneriaethau a sefydliadau lleol all gefnogi’r Neuadd i gyrraedd y targed arbediad llawn o £100,000 yn y tymor canolig yn dilyn y buddsoddiad – a hynny drwy osod her arnynt i leihau’r bwlch ariannol a chynorthwyo’r Cyngor i wneud arbediad parhaol o £100,000 yn y gyllideb erbyn 2025.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adeilad yn cartrefu theatr, sinema a llyfrgell ym Mhwllheli a phwysleisiwyd nad oes buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud i’r adeilad na’i adnoddau ers 1996. Mynegwyd fod ymgeision wedi ei wneud yn 2013-14 i drosglwyddo’r Neuadd i fudiad ond oherwydd costau uchel o waith diweddaru ni fu modd cytuno i wneud hyn.

 

Mynegwyd fod y penderfyniad yn gofyn am fuddsoddiad yn yr adeilad a bod arian wedi ei gadarnhau ar gyfer cyfran o’r arian. Ychwanegwyd y bydd yr arian yn gwella cyfleusterau ynghyd â’r cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid eraill yn yr ardal.

 

Nodwyd fod yr adeilad yn gartref i’r Llyfrgell yn ogystal a mynegwyd fod rheolaeth yr adeilad a'r llyfrgell yn hanesyddol wedi bod yn ddwy swydd ar wahanol. Pwysleisiwyd ym mis Rhagfyr fod rheolaeth y ddau dîm bellach yn adrodd i’r un rheolwr. Amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol Diwylliant fod gwaith ymgynghori wedi ei wneud i weld beth yw dyheadau’r trigolion lleol a bod yr ymgynghoriad hwn wedi bod yn sylfaen i’r cynllun busnes. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd fod y newidiadau sydd wedi ei gwneud a gobeithir ei gwneud am sicrhau fod yr holl adeilad yn gweithio yn fwy effeithlon, gyda thimau yn gweithio yn nes ac y bydd modd i ehangu ar oriau agor y llyfrgell.

 

Mynegodd yr Aelod Lleol fod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i gymaint yn fwy ‘na sinema a bod y Cyngor yn rhoi buddsoddiad yn yr adeilad yn ffordd ymlaen. Ychwanegodd pe bai’r Cyngor yn penderfynu ei gau y byddai llawer o wariant cynnal a chadw ar yr adeilad. Ategodd fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i’r ardal yn 2021 ac y bydd defnydd yn cael ei wneud o’r adeilad yn ystod yr wythnos honno. Pwysleisiodd fod y Neuadd yn agos at galon trigolion yr ardal a bod gwerth yn ei gadw a buddsoddi ynddo.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Mynegwyd fod llawer o staff ifanc yn gweithio yn y Neuadd a bod cyfleodd yno iddynt. Pwysleisiwyd pwysigrwydd adfywio yn yr ardal.

¾  Nodwyd fod y cynllun yn un cyffrous a bod yr adeilad yn adnodd pwysig yn lleol. Mynegwyd ei bod yn gyfnod cyffroes i newid y meddylfryd am yr adeilad a defnydd o’r adeilad a'i bod yn arbennig o dda fod yr adran yn cymharu’r adeilad gyda datblygiad ‘Story House’ yng Nghaer.

¾  Holwyd o ran ariannu os oes modd cael grantiau neu arian o gyrff eraill. Nodwyd fod trafodaethau wedi ei chynnal gyda Chronfa Treftadaeth a’r Cyngor Celfyddydau Cymru ond fod arian cyfalaf y Cyngor Celfyddydau wedi ei ymrwymo am eleni. Mynegwyd fod modd cael cefnogaeth refeniw i hwyluso gyda’r cyfnod pontio. Mynegwyd eu bod wedi trafod cais i Gronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol - ond fod tri chais wedi ei amlygu ym Mhwllheli ac felly mae’r cystadlaethau yn gryf. Nodwyd nad yw’r cynllun yn gymwys ar gyfer grant gan Groeso Cymru.

¾  Amlygwyd os yn gwneud addasiadau mawr i’r adeilad y bydd angen ail ymweld â’r asesiad cydraddoldeb.

¾  Nodwyd fod angen cefnogaeth gan y trigolion lleol - os yw’r Cyngor yn dangos hyder yn y fenter ac yn buddsoddi y bydd angen i bobl leol ddangos hyder yn yr adeilad yn ogystal.

¾     Mynegwyd fod Neuadd bellach wedi sefydlu ‘Ffrindiau Neuadd Dwyfor’ a gobeithir y bydd cefnogaeth gan y trigolion lleol. Ychwanegwyd fod yr adran yn gobeithio drwy wneud y buddsoddiad yma y bydd modd gwneud arbedion yn y tymor canolig ynghyd a sicrhau adnodd sylweddol ym Mhen Llŷn.

Awdur:Roland Evans

Dogfennau ategol: