Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r
Cyfansoddiad.
Cofnod:
Nododd
y Cadeirydd ei fod yn annog aelodau, os ydynt yn dymuno derbyn gwybodaeth yn
unig, i gysylltu yn uniongyrchol gydag adrannau.
(1) Cwestiwn gan y Cynghorydd Eryl Jones-Williams
(Eglurodd yr aelod
fod pwyllgor o Unllais Cymru wedi gofyn iddo
gyflwyno’r cwestiwn oherwydd eu bod wedi methu cael gwybodaeth gan y Cyngor.)
“Ydi’r Awdurdod Priffyrdd wedi sylweddoli beth yw effaith eu polisi
newydd o ofyn i gynghorau tref a chymuned gymryd drosodd a / neu dalu am
lenwi’r biniau halen yn eu wardiau?”
Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod
Cabinet Amgylchedd
(Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)
“Gan fod y cynghorydd wedi egluro pam mae’n gofyn y cwestiwn, mi fuaswn
yn awgrymu iddo y gallai fod wedi cysylltu â’r adran
a byddai wedi cael yr un esboniad ag sydd yn yr ateb ysgrifenedig.
Mae hyn yn rhan o’r arbedion effeithlonrwydd a gytunwyd yn Rhagfyr 2014
ac mae hynny’n rhywbeth i ni ei ystyried.”
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Eryl
Jones-Williams
“Wnewch chi ail
ystyried hyn a chael trafodaeth iawn hefo’r
cynghorau?”
Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod
Cabinet Amgylchedd
“’Rydym ni fel
Adran wedi gyrru llythyr at bob cyngor cymuned, tref a phlwy, ac wedi gofyn
iddynt ystyried hyn a dod yn ôl atom.
Mae hynny’n rhywbeth y gallent wneud o hyd ac
mae hynny yn agored o hyd ac ‘rwy’n falch o ddweud bod llawer o gynghorau
cymuned wedi manteisio ar hyn ac wedi dod yn ôl atom ac mae ‘na drafodaeth wedi
digwydd. Felly byddwn yn annog pob aelod
sydd yma sy’n aelod o gyngor cymuned i wneud yr un peth, fel eu bod yn mynd yn
ôl at yr Adran Briffyrdd ac yn mynegi eu barn.
Mae rhai wedi gwneud hynny’n barod ac wedi ei
drafod yn ddwys. Mae hynny’n
golygu ein bod yn mynd i arbed £100,000 y flwyddyn sy’n swm nid ansylweddol ac
mi fuaswn yn awgrymu mai dyna’r ffordd i gario ‘mlaen.”
(2) Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones
“Be
yw'r sefyllfa bresennol o gadw Pont Aber, Caernarfon yn agored?”
Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod
Cabinet Amgylchedd
(Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Sion Jones
“Fedrwch chi
gadarnhau i mi, os ydi’r bont yma’n mynd drosodd i
Ymddiriedolaeth yr Harbwr, bod yr amodau yn aros yr un fath, bod y staff yn
saff yn eu gwaith ac na fydd yr Ymddiriedolaeth yn codi toll ar y bont?”
Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod
Cabinet Amgylchedd
“Yn anffodus, mae’r
trafodaethau yn mynd ymlaen, ac ar hyn o bryd ni allaf roi unrhyw warant i’r
aelod o gwbl. Yr unig beth fedraf ddweud
yw bod hwn yn un o hyd at hanner cant o bethau sydd dan ystyriaeth hefo Her
Gwynedd. ‘Rwy’n falch ofnadwy ei fod yn
dangos digon o ddiddordeb yn Her Gwynedd ac yn y mater yma ac ‘rwy’n gobeithio
y bydd yn dangos yr un diddordeb yn y bron i hanner cant arall o bethau da ni’n ceisio dod i benderfyniad call arnynt. Ond bydd raid iddo sylweddoli na allaf drafod
mewn Cyngor agored fel hwn beth yw’r trafodaethau sy’n mynd ymlaen ar hyn o
bryd.”
(3) Cwestiwn gan y Cynghorydd Aeron Jones
(Eglurodd yr aelod
ei fod wedi dod â’r cwestiwn gerbron yn hytrach na
mynd drwy’r adran berthnasol oherwydd bod cymaint o
addewidion wedi’u gwneud gan yr adran berthnasol i unigolion yn Rhostryfan a
ddim wedi eu gwireddu.)
“Pa
waith mae’r Cyngor Sir wedi’i wneud yn Rhostryfan i atal llifogydd rhag
digwydd?”
(Gofynnodd hefyd
i’r Aelod Cabinet roi’r ateb ar lafar gan nad oedd yr aelodau o’r cyhoedd oedd
yn bresennol yn y cyfarfod wedi gweld yr ateb ysgrifenedig.)
Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod
Cabinet Amgylchedd
(Dosbarthwyd ateb
ysgrifenedig yr Aelod Cabinet i’r aelodau ymlaen llaw.)
“Mae hwn yn fater
lleol iawn, os caf awgrymu. Mae’r ateb
sydd wedi’i ysgrifennu yn ymwneud â dau safle ac ‘rwy’n ddigon bodlon rhannu’r
ateb yna gydag unrhyw aelod o’r cyhoedd, os ydynt yn dymuno. Ni chredaf ei bod yn fuddiol i 75 ohonom fod
yn trafod materion mor lleol ac ‘rwy’n awgrymu mai gwaith sydd ar ei hanner ydi
hwn a’n bod yn symud ymlaen. ‘Roeddwn yn
trafod y sefyllfa ddoe gydag Ymgynghoriaeth Gwynedd,
sy’n gweithredu. ‘Rwyf hefyd wedi cael
cyfarfod y pnawn yma gyda’r cyfeillion yn y cefn yn yr oriel ac wedi trafod y
sefyllfa yn ddirfawr gyda hwy. ‘Rydw i
yn pryderu ynglŷn â beth sy’n digwydd yna, ond ‘rydym yn gweithio’n galed
i drio cael datrysiad i’r sefyllfa ac ‘rwy’n gobeithio y bydd hynny’n digwydd mor fuan â phosib’ o dan yr amgylchiadau
presennol.”
Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Aeron Jones
“A gaf addewid
cadarn gan yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd fod y ddau leoliad yma am gael
eu datrys cyn gynted â phosib’ a chael dyddiad penodol a hefyd ydi o’n fodlon
dod gyda mi i weld y safleoedd yma i weld y problemau drosto’i
hun?”
Ateb gan y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod
Cabinet Amgylchedd
“’Rwy’n ddigon
bodlon unrhyw adeg i fynd allan gyda chyfeillion i weld be’ sy’n bosib’, ond lleugwr ydw i. Mae’n
well o lawer i chi drafod hefo’r Adran a gyda Ymgynghoriaeth Gwynedd i weld be’ yn union ydi’r gwaith
sy’n cael ei awgrymu ac sy’n cael ei raglennu i’r broblem yma, ac ‘rwy’n
ymwybodol, ers ddoe, dwi’n cytuno, ond ‘roedd fy rhagflaenydd yn hollol
ymwybodol o hyn ac wedi bod yn ymweld â’r safleoedd
cyn hynny ac felly, ‘rydw i’n gwarantu y bydd yna gymaint o ymdrech â phosib’ i
ddatrys y broblem yma yn y dyfodol agos.”
Nododd y Cadeirydd
y byddai’r Aelod Cabinet yn awyddus iawn i gael unrhyw dystiolaeth sydd gan yr
aelod o unrhyw addewidion gwag sydd wedi’u gwneud.