Diddymu amod rhif 3 o ganiatad Cynllunio C19/0323/11/LL sy’n cyfyngu 2 uned allan o’r 8 i fod yn unedau fforddiadwy
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Steve Collings
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Diddymu amod rhif
3 o ganiatâd Cynllunio C19/0323/11/LL sy’n cyfyngu 2 uned allan o’r 8 i fod yn
unedau fforddiadwy
a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi fe ohiriwyd y cais ym Mhwyllgor
Ionawr 2020 er mwyn derbyn gwybodaeth ychwanegol am bris rhent yr unedau byw,
ac yn benodol yr unedau fforddiadwy sydd i’w darparu fel rhan o’r bwriad.
Gosodwyd yr amod yn wreiddiol gan nad oedd gwybodaeth glir a phendant wedi ei
gyflwyno (yn benodol prisiad marchnad agored) fel rhan o’r cais blaenorol am y
ddarpariaeth fforddiadwy. Yn dilyn y gohiriad ar y cais, derbyniwyd gwybodaeth
gan y datblygwr am bris rhent a phris marchnad agored yr unedau byw. Derbyniwyd hefyd asesiad o werth yr unedau
gan gwmni Syrfewyr Siartredig sydd wedi ei selio ar ofynion y Llyfr Coch
(2017). Byddai gwerth marchnad agored yr unedau yn amrywio o £45,000 i £60,000
a byddai rhent misol yr unedau i gyd yn amrywio o £425 i £475 gydag unedau 4 a
8 o fewn y datblygiad yn cael eu cynnig ar rent o £425 y mis. Mae Atodiad 4 o’r
ddogfen CCA: Tai Fforddiadwy ar gyfer prisiau rhagwelir ar gyfer tai canolradd
ar werth yn ward Deiniol ym Mangor (2018) yn cadarnhau bod gwerth tŷ
canolradd yn £67,876, sy’n golygu bod yr unedau arfaethedig o fewn cyrraedd i
ddeiliad ar gyflog canolig. Mae Uned Strategol Tai y Cyngor hefyd wedi
cadarnhau bod prisiad yr unedau preswyl arfaethedig yn is na lefel prisiau
fforddiadwy (canolradd) ar gyfer ward Deiniol ym Mangor.
Nodwyd yn yr
adroddiad fe ymgynghorwyd gyda’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd er mwyn cael
mwy o wybodaeth am y sefyllfa rent. Cadarnhawyd ganddynt fod paragraff 3.3.2 o
Ganllaw Cynllunio Atodol ‘Tai Fforddiadwy’ (Ebrill 2019) yn datgan y disgwylir
i ddeiliaid tŷ dalu 25% neu lai o’u hincwm gros ar rent ar gyfer unedau a
ddisgrifir fel rhai fforddiadwy. Er bod y canolrif incwm yn amrywio rhwng
wardiau, eglurwyd bod angen ystyried y bwriad yng nghyswllt canolrif incwm
Bangor yn ei gyfanrwydd. Eglurwyd bod datblygiad mewn un man yn gallu cwrdd â’r
angen am dai o fewn y ddinas gyfan oherwydd symudiad rhwydd a naturiol rhwng
wardiau ac agosrwydd y wardiau at ei gilydd (nodwyd bod ward Pentir wedi ei
hepgor o’r ffigyrau ar y sail ei fod yn cynnwys ardaloedd sydd y tu allan i
Fangor). Adroddwyd fod rhent y ddwy uned fforddiadwy sydd wedi eu nodi i fod yn
£425 yr un yn fforddiadwy yng nghyd-destun canolrif incwm Bangor ac o ran
gofynion y CCA a’r NCT perthnasol.
Nodwyd bod prisiau
marchnad agored yr unedau wedi eu cyfyngu’n naturiol i bris fforddiadwy oherwydd
natur, lleoliad a graddfa’r safle a maint yr unedau eu hunain. Datganwyd pe
bai’r wybodaeth yma i gyd wedi ei gyflwyno gyda’r cais gwreiddiol ni fyddai
amod o’r fath wedi cael ei osod gan na fyddai’n angenrheidiol gwneud hynny er
mwyn sicrhau darpariaeth o unedau fforddiadwy h.y. ar sail eu pris marchnad
agored byddent yn fforddiadwy beth bynnag. Byddai
lleihau’r rhent yn lleihau’r gwerth ymhellach a byddai hyn gyda’r potensial i
wneud y cynllun yn anhyfyw. Gall ymyrraeth mewn datblygiad marchnad gwerth
isel effeithio ar ddiddordeb a buddsoddiad gan ddatblygwyr fyddai yn effeithio
ar adfywio’r Stryd Fawr ym Mangor a chanolfannau eraill.
b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r
argymhelliad.
c)
Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant i osod amod cynllunio
newydd sydd yn cyfyngu rhent dau o’r unedau i rent fforddiadwy am y rhesymau
canlynol:
ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Canolrif incwm ward Deiniol yw’r ffigwr addas a
phriodol er mwyn asesu incwm yn hytrach na chanolrif incwm Bangor yn ei
gyfanrwydd oherwydd bod cyflogau ward Deiniol yn is. Nid yw’r rhent, sef £425,
yn fforddiadwy ar sail canolrif incwm ward Deiniol. Nodwyd dylai’r rhent fod yn
£404 i fod yn fforddiadwy yn ward Deiniol. Tynnwyd sylw at y ffaith mai ffigwr
ar gyfer ward Deiniol yn unig sydd wedi ei ddefnyddio ar gyfer pris gwerthiant
yr unedau ond ffigwr ar gyfer Bangor yn ei gyfanrwydd sydd wedi ei ddefnyddio
ar gyfer y rhent, a nodwyd mai dyma yw’r ffigyrau sy’n gyfleus i’r datblygwr.
·
Er yn ddiolchgar i’r swyddogion am
eu hesboniad, anghytunwyd gyda diddymu’r amod ar fater o egwyddor oherwydd
credwyd bod hyn yn mynd yn groes i’r polisi tai fforddiadwy. Nodwyd y byddai
derbyn dadl y datblygwr am hyfywedd tai fforddiadwy yn gosod cynsail
annerbyniol ac felly dylai’r datblygwr orfod dilyn y polisi. Gofynnwyd ar ba
sail mae’r swyddogion yn defnyddio eu disgresiwn i beidio dilyn y polisi tai
fforddiadwy a mynegwyd pryder bod diddymu’r amod yn rhy ffafriol i ddadleuon
economaidd y datblygwr. Ategwyd bod y broblem yma yn codi ar y ddau begwn, os
yw’r datblygiad yn ddrud neu’n rhad, a chyfeiriwyd at geisiadau cynllunio yn y
gorffennol a oedd wedi mynd o blaid y datblygwr oherwydd dadleuon hyfywedd ac
ar draul tai fforddiadwy. Teimlwyd bod angen i’r aelodau gefnogi’r polisi tai
fforddiadwy gan beidio diddymu’r amod oherwydd dyma sy’n bwysig i bobl leol.
·
Nodwyd bod yr unedau’n
fforddiadwy’n barod a buasai’r datblygwr yn ennill yr achos ar apêl.
·
Anghytunwyd bod modd cyfeirio at
yr unedau fel rhai fforddiadwy am byth oherwydd gyda newidiadau economaidd a
chymdeithasol nid oes posib rhagweld y dyfodol.
d)
Mewn ymateb i sylwadau’r aelodau eglurwyd bod y
ddadl am hyfywedd mewn datblygiadau drud a rhad yn ddwy ddadl wahanol a bod
cyfraniad tai fforddiadwy wastad yn cael ei wneud ond weithiau ei fod ar ffurf
swm o arian. Nodwyd bod y polisi tai fforddiadwy hefyd yn cydnabod amgylchiadau
penodol ble nid yw’n bosib neu nid oes angen i gael canran o’r unedau yn
fforddiadwy, ac mae’r cais gerbron yn enghraifft o hyn. Pwysleisiwyd bod
tystiolaeth glir a phendant yn yr adroddiad yn dangos bod y farchnad yn sicrhau
bod yr unedau a’r rhent yn fforddiadwy beth bynnag heb reolaeth neu ymyrraeth
bellach o ran gosod amod cynllunio ac felly nid oes unrhyw unedau fforddiadwy
yn cael eu colli drwy ddiddymu’r amod. Byddai lleihau’r rhent yn lleihau’r
gwerth ymhellach a byddai hyn gyda’r potensial i wneud y cynllun yn anhyfyw.
Eglurwyd os nad yw’r aelodau yn argyhoeddedig bod y rhent am fod yn fforddiadwy
rhaid dangos tystiolaeth glir sy’n cefnogi hyn. Yn dilyn asesiad trylwyr yn yr
adroddiad, esboniwyd nad yw’n debygol buasai gosod amod i gyfyngu’r rhent yn
cwrdd gyda’r meini prawf cyffredinol ar gyfer dilysrwydd amodau cynllunio gan
nad yw’n angenrheidiol na’n rhesymol.
PENDERFYNWYD
o blaid y gwelliant i greu amod newydd sydd yn cyfyngu rhent dau o’r unedau er
mwyn sicrhau eu bod yn rhent fforddiadwy.
1.
Angen
cydymffurfio gyda gweddill yr amodau ar ganiatad rhif C19/0323/11/LL.
Dogfennau ategol: