Agenda item

Cais llawn i godi 4 uned byw hunan gynhaliol a chreu ffordd fynediad ynghyd ag adnoddau cysylltiol

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD JASON W PARRY

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais llawn i godi 4 uned byw hunan gynhaliol a chreu ffordd fynediad ynghyd ag adnoddau cysylltiol

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a’r sylwadau manwl a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd.

 

               Roedd yr aelodau wedi ymweld â’r safle

 

Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y cais wedi ei ohirio yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 10/02/20 oherwydd penderfynwyd yn y cyfarfod hwnnw bod angen cynnal ymweliad safle; derbyn mwy o wybodaeth am y dull o sgrinio’r fynedfa o dai cyfagos; derbyn mwy o wybodaeth am reolaeth y safle a chynnal cyfarfod i drafod egwyddorion y cais gyda’r Aelod Lleol. Eglurwyd bod y bwriad yn ymwneud a chodi 4 uned / pod byw sydd wedi eu cynllunio a’u darparu er mwyn cyrraedd anghenion unigolion bregus. Nodwyd y byddai’r unedau ym mherchnogaeth y Cyngor ac yn cael eu rheoli ar gyfer llety tymor byr drwy’r Cyngor neu Gymdeithas Tai cofrestredig.

 

Amlygwyd bod y datblygiad wedi ei leoli ar ran o gyn safle Canolfan Segontiwm o fewn ffiniau datblygu tref Caernarfon sydd wedi ei ddynodi yn y Cynllun Datblygu Lleol fel Canolfan Gwasanaeth Trefol. Ategwyd bod y safle ger Caer Rufeinig Segontiwm sydd yn heneb gofrestredig a bod trafodaethau wedi ei cynnal gyda CADW a Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd ynglŷn ag effaith y datblygiad arfaethedig ar yr heneb gofrestredig. Nodwyd bod y safle yn un eang ac mewn ymateb i bryderon trigolion lleol o ddefnydd gweddill y safle i’r dyfodol, adroddwyd bod CADW wedi awgrymu fod bwriad i ddynodi gweddill y safle fel heneb gofrestredig fyddai’n debygol o atal datblygiadau pellach.

 

Adroddwyd bod cyfarfod wedi ei gynnal gyda’r Aelod Lleol a bod y cyfarfod hwnnw wedi bod yn un buddiol.

 

Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad ac yng nghyd-destun mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o ran dyluniad, maint, graddfa a deunyddiau allanol ac na fydd y bwriad yn debygol o gael effaith andwyol sylweddol annerbyniol ar unrhyw drigolion neu eiddo lleol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r holl sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a gofynion polisïau perthnasol.

 

a)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

b)    Mewn ymateb i gais o ddarparu ffens bren ychwanegol ar hyd ffin rhan o’r safle a thŷ cyfochrog, nodwyd na ystyriwyd fod hyn yn angenrheidiol ac nad oedd yn wybyddus os oedd perchennog yr eiddo yn dymuno cael ffens soled ar ei ffin. Er hyn, awgrymwyd fod yr ymgeisydd yn cynnal trafodaethau pellach gyda’r perchennog i dderbyn cadarnhad o’u dymuniad ynglŷn â gosod ffens ac i adrodd hyn yn ôl i’r swyddogion cynllunio er mwyn cadarnhau barn y perchennog a llunio amod priodol os oedd angen un.

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Bod y cynllun yn un arloesol a’r egwyddor yn addawol

·           Gyda’r safle yn un eang y byddai modd gwneud defnydd gwell ohono

·           Bod angen sicrhau nad oes camddefnydd o’r unedau - annelwig pa gategori o bobl sydd yn mynd i elwa o’r unedau

·           Bod y ddarpariaeth yn ymateb i’r angen

·           Os bydd y cynllun yn llwyddiannus, bod angen ystyried y math o ddarpariaeth i    ardaloedd eraill

·           Bod angen sicrhau bod y ffens bren yn un hirdymor

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu y cais unwaith bydd yr ymgeisydd wedi cadarnhau yn ysgrifenedig y bwriad gyda’r ffens.

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda’r cynlluniau     

3.         Tirlunio

4.         Amodau  bioamrywiaeth

5.         Amodau priffyrdd

6.         Oriau gweithio

7.         Archeoleg

8.         Darparu storfa biniau cyn preswylio

9.         Ffens i’w gosod cyn preswylio

10.       Dŵr Cymru

11.       Tynnu PD

 

 

Nodiadau:

Dŵr Cymru

SUDS

Priffyrdd

 

 

 

Dogfennau ategol: