Agenda item

Ymestyn cyfnod meddiannu gwyliau i fod yn agored drwy’r flwyddyn i bwrpas gwyliau

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD DEWI W ROBERTS

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Ymestyn cyfnod meddiannu gwyliau i fod yn agored drwy’r flwyddyn i bwrpas gwyliau

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i ymestyn y cyfnod meddiannu ar y safle carafanau gwyliau sefydlog fel bod tymor gwyliau o 12 mis.  Amlygwyd bod caniatadau presennol y parc yn cyfyngu amser meddiannu’r carafanau i rhwng 1 Mawrth mewn un flwyddyn a 17 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol.  Byddai’r bwriad yn cynyddu’r cyfnod meddiannu am ryw 6 wythnos yn y flwyddyn. Pwysleisiwyd nad oedd bwriad ychwanegu at y nifer carafanau sefydlog sydd ar y safle, dim ond ehangu’r cyfnod meddiannu. Ategwyd bod sawl maes carafanau eisoes wedi cael caniatâd i ymestyn y cyfnod meddiannu ac felly bod y cynsail eisoes wedi ei osod.

Nodwyd bod Polisi TWR 4 yn gefnogol i gynigion i ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer safleoedd carafanau sefydlog a sialetau presennol os gellid dangos bod y llety yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gwyliau yn unig ac nad yw’n dod yn brif neu unig gartref y deilydd.   Adroddwyd bod gan Grŵp Haulfryn fesurau eu hunain yn eu lle i sicrhau fod y carafanau sefydlog yn cael eu defnyddio i bwrpas gwyliau yn unig ac nad yw’r perchennog i ddefnyddio’r garafán fel preswylfa barhaol. Er y mesurau hyn, ystyriwyd os caniateir y cais y byddai’n briodol cynnwys amod bod y carafanau sefydlog at ddefnydd gwyliau yn unig a bod cofrestr yn cael ei gadw o enwau meddianwyr y carafanau, hyd y cyfnod aros a chyfeiriad eu prif gartref. 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod Grŵp Haulfryn yn berchen ar bum Parc Gwyliau yng Ngwynedd gan gynnwys Y Warren. Nodwyd bod y parc yn cael ei ystyried yn ased twristiaeth werthfawr i’r ardal ac yn darparu nifer o swyddi yn lleol. Eglurwyd bod galw am lety gwyliau yn ystod hanner tymor ysgol mis Chwefror ac ar gyfer Santes Dwynwen a Gŵyl Sant Ffolant. Ategwyd bod Grŵp Haulfryn yn cynnig gwasanaeth gosod ar ran perchnogion y carafanau i gynorthwyo gydag arosiadau byr yn ystod y flwyddyn.  Ystyriwyd y byddai ymestyn y tymor gwyliau yn annog ymwelwyr i wario yn yr economi leol gan gynorthwyo i gynnal y gymuned leol, diogelu a chreu cyflogaeth leol fyddai’n arwain at fuddsoddiad pellach. Yn bresennol mae 60 o staff rhan amser a 40 llawn amser yn y Warren ac ystyriwyd y byddai hyn yn newid i 80 rhan amser a 55 llawn amser drwy fod yn agored trwy’r flwyddyn.   

Ystyriwyd bod y cais, gydag amodau priodol i sicrhau y defnyddir y carafanau sefydlog ar gyfer gwyliau yn unig ac i gadw cofrestr yn dderbyniol ar sail polisi.  Adroddwyd y byddai modd hefyd gynnwys amodau a argymhellwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar faterion llifogydd.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod galw am lety gwyliau yn ystod hanner tymor ysgol mis Chwefror ac ar gyfer Santes Dwynwen a Gŵyl Sain Ffolant.

·         Bod cynnydd yn y galw am wyliau / seibiant byr

·         Byddai’r bwriad yn cefnogi’r economi leol

·         Bod y cwmni wedi buddsoddi £8 miliwn yn ddiweddar yn uwchraddio a  gwella’r safle

·         Bod agor 12 mis y flwyddyn yn cynyddu cyfleoedd gwaith llawn amser – y Warren yn cyflogi nifer yn lleol

·         Y byddai’r safle yn defnyddio mesurau i sicrhau bod y carafanau sefydlog yn cael eu defnyddio i bwrpas gwyliau yn unig - bydd y gofrestr a manylion preswylwyr yn cael ei gadw ar fas data ac yn cael ei ddiweddaru yn flynyddol

·         Bod parciau eraill yng Ngwynedd eisoes gyda chyfnod meddiannu gwyliau 12 mis

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·      Tynnwyd sylw at sylwadau’r Uned AHNE

·      Pryder sut bydd y sefyllfa yn cael ei reoli

·      Derbyn bod patrwm / tymor gwyliau yn newid – gwyliau bellach yn cael ei gymryd unrhyw amser o’r flwyddyn

·      Buddion i’r economi leol – creu mwy o waith a busnes i siopau lleol

·      Bod y safle eisoes yn bodoli ac felly nid oes effaith niweidiol

·      Nad oedd sail i wrthod gan fod cynsail eisoes wedi ei osod

·      Dyletswydd i gyfeirio unrhyw amheuon neu bryderon o dorri amodau at yr Uned Gorfodaeth

 

PENDERFYNWYD

 

1.            Defnydd gwyliau a chadw cofrestr.

2.            Cyflwyno a chytuno diweddariad i’r Cynllun Ymateb Llifogydd.

3.            Sicrhau fod y carafanau ar y tir is ar flaen y safle wedi eu rhwymo’n ddiogel yn eu lle.

 

Dogfennau ategol: