skip to main content

Agenda item

Cais ar gyfer addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a llefydd parcio

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD LINDA A JONES

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Cais ar gyfer addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a llefydd parcio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn un ar gyfer addasu tafarn i 5 fflat preswyl hunangynhaliol ynghyd a chreu llefydd parcio a mynedfa ar safle Gwesty’r Manod Arms. Amlygwyd bod defnydd tafarn wedi dod i ben ar ddechrau 2017 a bod yr adeilad wedi cau. Ategwyd bod caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o dy tafarn i swyddfeydd ynghyd a llefydd parcio ar y safle, ond nad oedd hyn wedi ei ddechrau.

 

Cyfeiriwyd at adran 5.1 - 5.7 yn yr adroddiad oedd yn amlinellu bod y datblygiad yn dderbyniol mewn egwyddor a bod yr Uned Strategol Tai yn datgan angen cydnabyddedig am fflatiau 1 a 2 ystafell wely yn y dref.

 

Disgwylid i 10% o’r unedau fod yn fforddiadwy a chyfeiriwyd at wybodaeth a ddaeth gyda’r cais ynghyd a gwybodaeth hwyr a ddaeth i law, yn cadarnhau bod y prisiau marchnad agored a rhent ar gyfer pob uned eisoes yn fforddiadwy i’r ardal ac nad oedd angen cyfyngiad pellach.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd bod y safle wedi ei leol o fewn ffin datblygu Blaenau Ffestiniog ac mewn lle amlwg o fewn ardal breswyl a chyhoeddus. Derbyniwyd gwrthwynebiadau yn nodi’r effaith negyddol sylweddol ar ddeiliad tai cyfagos, ond gan ystyried mai defnydd tafarn yw defnydd cyfreithiol yr adeilad, byddai potential i’r dafarn greu mwy o broblemau nag uned breswyl. Ystyriwyd y byddai fflatiau yn addas ac yn y tymor hwy yn fodd o sicrhau cyflwr yr adeilad i’r dyfodol.

 

Yng nghyd-destun materion priffyrdd, amlygwyd bod bwriad creu mynedfa a llefydd parcio newydd ac er nad oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad roeddynt yn argymell cynnwys amodau priodol ar unrhyw ganiatad.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·           Bod y cynlluniau yn cynnwys estyniad newydd fyddai yn gwella golwg yr adeilad

·           Bod defnydd preswyl i’r adeilad yn fwy addas na thafarn

·           Bod lleoliad pwrpasol ar gyfer gosod biniau ysbwriel a storfa beiciau

·           Er bod Cyngor Tref wedi herio’r angen am fflatiau, yr Uned Strategol Tai wedi datgan bod angen cydnabyddedig am fflatiau 1 a 2 stafell wely yn y dref

·           Er nad oes prinder tai yn y dref, mae prinder fflatiau

·           O ran fforddiadwyedd, mae’r prisiau yn isel oherwydd ardal incwm isel

·           Bod gwybodaeth gan ddau gwmni gwerthu tai yn datgan gwerth prynu a rhentu'r fflatiau

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod trigolion Manod wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu’r cais

·         Bod y tafarn yn ei amser wedi bod yn llwyddiannus iawn ac  y byddai’r gymuned leol wedi dymuno defnyddio’r safle ar gyfer Canolfan i’r pentref

·         Anghytuno gyda’r farn bod angen fflatiau ym Manod - yn dilyn ymholiadau yn y gymuned leol, amlygwyd mai tai sydd eu hangen ac nid fflatiau

·         Byddai’r fflatiau yn anaddas i’r henoed

·         Bod cymdeithas mam a’i phlentyn wedi datgan nad yw’r fflatiau yn addas

·         Bod y safle yn fach ac ni fuasai’r estyniad yn ddigonol

·         Y safle yn sefyll cyfochrog a’r A470 a bod y mynediad yn gyfyng - dim digon o le i’r hyn a amlinellir yn y cynlluniau

·         Cynnig y dylai’r Pwyllgor gynnal ymweliad safle

 

d)    Cynigiwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle

 

 

Dogfennau ategol: