Ystyried adroddiad y
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm).
Cofnod:
Gosododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y cyd-destun, gan egluro:-
·
Bod yr adroddiad oedd gerbron y tro hwn ychydig yn
wahanol i’r arferol oherwydd bod gan Grŵp Plaid Cymru fwyafrif clir ar y
Cyngor erbyn hyn.
·
O weithredu’r rheolau sy’n ymwneud â chydbwysedd gwleidyddol
yn llawn, byddai gan Grŵp Plaid Cymru yr hawl i gael mwyafrif ar bob
pwyllgor unigol, ond cytunwyd mewn cyfarfod o’r Grŵp Busnes y dylid ceisio
rhoi sylw i arbenigedd a phrofiad, yn hytrach na gweithredu’r rheolau yn
haearnaidd ym mhob achos.
·
O ganlyniad, ‘roedd yr argymhellion yn yr adroddiad
yn cynnwys tri phwyllgor lle nad oedd gan Grŵp Plaid Cymru fwyafrif, sef y
Pwyllgor Craffu Corfforaethol, y Pwyllgor Apelau Cyflogaeth a’r Cyd-Bwyllgor
Addysg Anghenion Arbennig.
·
Er mwyn cymeradwyo’r argymhellion, a hynny oherwydd
nad oedd y rheolau’n cael eu gweithredu’n llawn, byddai’n rhaid i’r Cyngor eu
cymeradwyo’n ddiwrthwynebiad. Fel arall,
byddai’n rhaid cyflwyno ffigurau diwygiedig i’r Cyngor a olygai y byddai’r
grwpiau Annibynnol, Llais Gwynedd a Llafur yn colli ymhellach ar rai
pwyllgorau.
Nododd ymhellach:-
·
Y derbyniwyd rhybudd yn ystod y cyfarfod fod y
Cynghorydd Louise Hughes yn ymuno â’r Grŵp Annibynnol ac erfyniwyd ar y
grwpiau i gyflwyno’r math yma o rybuddion yn llawer cynt yn y dyfodol.
·
Mai canlyniad y newid ar y cydbwysedd gwleidyddol ac
argymhellion yr adroddiad oedd bod y Grŵp Annibynnol yn ennill dwy sedd, y
naill ar y Pwyllgor Craffu Cymunedau a’r llall ar y Pwyllgor Trwyddedu Canolog,
a hynny ar draul yr aelodau unigol, ond gan mai’r Cynghorydd Louise Hughes oedd
yr aelod unigol ar y ddau bwyllgor dan sylw, nid olygai unrhyw newid pellach yn
aelodaeth y pwyllgorau hynny.
Rhoddodd yr Arweinydd esboniad pellach, gan nodi:-
·
Bod gan bob aelod, ar draws yr holl grwpiau
gwleidyddol gyfraniad i’w wneud a gyda phrin 16 mis tan yr etholiadau
llywodraeth leol nesaf, y cytunwyd y dylid parhau gyda’r diwylliant o
gydweithio ac o weld cyfraniadau yn dod ar draws y sbectrwm gwleidyddol.
·
Y golygai hynny fod pwysau ar yr holl aelodau i
bresenoli eu hunain mewn cyfarfodydd.
·
Bod
angen edrych eto ar ddyraniad y seddau ar y Pwyllgor Pensiynau gan fod yr aelod
o’r Grŵp Llafur fyddai’n colli ei sedd ar y pwyllgor wedi derbyn
hyfforddiant yn y maes.
Galwyd am bleidlais gofrestredig ar y cynnig.
Yn unol â’r Rheolau Gweithdrefn, cofnodwyd y bleidlais ganlynol ar y
cynnig:-
O blaid y cynnig: (58) Y Cynghorwyr Stephen Churchman, Annwen Daniels, Anwen
Davies, Lesley Day, Gwynfor Edwards, Dyfed Edwards, Elwyn Edwards, Thomas Ellis,
Alan Jones Evans, Aled Evans, Gweno Glyn, Simon Glyn, Gwen Griffith, Selwyn
Griffiths, Alwyn Gruffydd, Siân Gwenllian, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes,
Louise Hughes, Sian Wyn Hughes, Peredur Jenkins, Aeron M.Jones, Aled Wyn Jones,
Anne Lloyd Jones, Brian Jones, Charles W.Jones, Eric Merfyn Jones, John Wynn
Jones, Sion Wyn Jones, Eryl Jones-Williams, Beth Lawton, June Marshall, Dafydd
Meurig, Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Dewi Owen, Michael Sol Owen, W.Roy Owen,
William Tudor Owen, Nigel Pickavance, Caerwyn Roberts, Gareth A.Roberts, John
Pughe Roberts, W.Gareth Roberts, Angela Russell, Dyfrig Siencyn, Mike Stevens,
Glyn Thomas, Ioan Thomas, Hefin Underwood, Ann Williams, Elfed Williams,
Gruffydd Williams, Hefin Williams, Owain Williams, R.H.Wyn Williams, Mandy
Williams-Davies ac Eurig Wyn.
Atal: (0)
Yn erbyn: (0)
PENDERFYNWYD
(a) Mabwysiadu dyraniad seddau ar bwyllgorau’r
Cyngor yn unol â’r tabl isod:-
PWYLLGORAU CRAFFU
|
Plaid Cymru |
Annibynnol |
Llais Gwynedd |
Llafur |
Democratiaid
Rhyddfrydol |
Aelod Unigol |
Corfforaethol |
9 |
5 |
2 |
1 |
1 |
|
Cymunedau |
10 |
5 |
1 |
1 |
1 |
|
Gwasanaethau |
10 |
4 |
2 |
1 |
|
1 |
Archwilio |
10 |
5 |
2 |
1 |
|
|
PWYLLGORAU ERAILL
|
Plaid Cymru |
Annibynnol |
Llais Gwynedd |
Llafur |
Democratiaid
Rhyddfrydol |
Aelod Unigol |
|
Gwasanaethau
Democratiaeth |
8 |
4 |
2 |
1 |
|
|
|
Iaith |
8 |
4 |
2 |
1 |
|
|
|
Cynllunio |
8 |
4 |
1 |
1 |
1 |
|
|
Trwyddedu Canolog |
8 |
5 |
2 |
|
|
|
|
Apelau Cyflogaeth |
3 |
1 |
1 |
1 |
|
1 |
|
Penodi Prif
Swyddogion |
8 |
4 |
1 |
1 |
1 |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nifer y seddau |
82 |
39 |
16 |
9 |
4 |
4 |
154 |
|
Plaid Cymru |
Annibynnol |
Llais Gwynedd |
Llafur |
Democratiaid
Rhyddfrydol |
Aelod Unigol |
|
||||
Pensiynau |
4 |
2 |
0 |
0 |
1 |
|
|
||||
Cydbwyllgor
Ymgynghorol Lleol |
6 |
2 |
1 |
2 |
|
|
|
||||
Cydbwyllgor Addysg
Anghenion Arbennig |
3 |
2 |
1 |
|
|
1 |
|
||||
Pwyllgor Polisi
Cynllunio ar y Cyd |
4 (3 sedd ac un
eilydd) |
2 |
1 |
1 |
|
|
|
||||
CYSAG |
4 |
2 |
1 |
|
|
|
|
||||
|
|
|
|
|
|
|
|
||||
Cyfanswm y Seddau |
103 |
49 |
20 |
12 |
5 |
5 |
194 |
||||
(newidiadau
wedi’u hamlygu mewn llwyd)
Dogfennau ategol: