I ystyried cais gan Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is-bwyllgor yn unig)
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol
• Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest
• Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu
• Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Ms A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor
wrthod y cais.
Gwahoddwyd yr ymgeisydd a’i darpar gyflogwraig i ymhelaethu ar y cais a
rhoi gwybodaeth am gefndir y collfarnau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.
Eglurodd yr ymgeisydd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS yn rhai
hanesyddol ac wedi digwydd pan oedd yn mynd drwy gyfnod anodd yn ei harddegau.
Ategodd ei bod gyda phlentyn ei hun erbyn hyn ac eisiau gosod esiampl dda a
chael sefydlogrwydd yn ei bywyd. Nododd darpar gyflogwraig yr ymgeisydd ei bod
yn ymwybodol o gefndir Ms A, ond bod ganddi ffydd ynddi ac yn barod i roi cyfle iddi. Ategwyd
ei bod wedi derbyn geirda gan gyngyflogwr Ms A fel gofalwr mewn cartref plant.
b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd a’i darpar gyflogwr
ch) Rhoddwyd
ystyriaeth benodol i’r materion canlynol
Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd ym Mehefin 2003 gan
Heddlu Gogledd Cymru am ymosodiad a achosodd niwed corfforol i berson arall yn
groes i Ddeddf Troseddau yn erbyn y Person 1861.
Ym Medi 2004 derbyniodd gollfarn gan Lys Ieuenctid Conwy am
drosedd yn gysylltiedig â chymryd cerbyd heb awdurdod sydd yn groes i Ddeddf
Lladrata 1968. Cafodd orchymyn wedi ei gyfeirio am 5 mis a gorchymyn i dalu
costau o £20. Yn Mai 2006 derbyniodd yr ymgeisydd ddwy gollfarn gan Lys
Ieuenctid Gwynedd - un cyhuddiad o wrthsefyll neu rwystro person oedd yn
cynorthwyo heddwas, ac un o ymosod ar heddwas, yn groes i Ddeddf Yr Heddlu
1996. Derbyniodd Orchymyn Cynllun
Gweithredu am 3 mis ar gyfer y naill drosedd ynghyd a gorchymyn i gwblhau gweithgaredd
cymunedol a gorchymyn penodol o 10 awr i wneud yn iawn am ei hymddygiad. Yng Ngorffennaf 2015 derbyniodd rybudd arall am ddirfod i
eiddo oedd yn groes i Ddeddf Difrod Troseddol 1971.
Ystyriwyd
paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes
rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag
cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am
gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei
fod yn berson addas a phriodol. Mae paragraff 2.3 o’r Polisi yn cadarnhau bod
“materion eraill i’w hystyried” yn cynnwys rhybuddion.
Ystyriwyd paragraff 4.5
sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau)
(Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf
1974 neu beidio.
Mae paragraff 6.0 o’r
Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr
trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn
rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny
sydd â throseddau yn ymwneud a thrais. Mae paragraff 6.4 o’r Polisi yn nodi y
bydd cais am drwydded yn cael ei atal neu ddirymu os oes collfarn yn erbyn yr
ymgeisydd am drosedd a restrir, a bod y gollfarn o fewn 10 mlynedd cyn dyddiad
y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill, ymosodiad ar
yr Heddlu. Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel
rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried am ymosodiad
cyffredin sydd yn llai na 3 blynedd cyn dyddiad y
cais.
Ystyriwyd paragraff 8.0
o’r Polisi sydd yn cyfarch troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi
y cymerir golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn sy'n ymwneud ag
anonestrwydd. Mae paragraff 8.2 yn nodi bydd cais fel arfer yn cael ei wrthod
os bydd gan yr ymgeisydd gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn
llai na 3 blynedd cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y
rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith eraill, mynd a cherbyd heb ganiatâd.
Mae
paragraff 16.1 o’r Polisi yn ymwneud ag ail-droseddu.
Rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn
unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu sydd yn dangos diffyg
parch at les eraill ac eiddo. O dan y
Polisi rhaid bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar.
d)
Daeth yr Is-bwyllgor i gasgliad bod rhybudd 2003 yn
drosedd o drais, fodd bynnag, gan fod y rhybudd wedi digwydd dros 16 mlynedd yn
ôl (sydd tu hwnt i’r cyfnod 3 blynedd), nid oedd paragraff 6.5 yn goroesi ac
felly nid yn sail i wrthod y cais. Ystyriwyd bod collfarn
2004 yn ymwneud â throsedd o anonestrwydd fodd bynnag,
gan fod y gollfarn wedi digwydd dros 16 mlynedd yn ôl (sydd tu hwnt i’r cyfnod
3 blynedd) nid oedd paragraff 8.2 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y
cais.
Ystyriwyd bod collfarn 2006 yn ymwneud â throsedd o drais ac yn cael
ei restru fel ‘ymosodiad ar yr heddlu’ o
fewn paragraff 6.4. Fodd bynnag, gan fod y gollfarn wedi digwydd dros 13
mlynedd yn ôl, (sydd tu hwnt i’r cyfnod 10 mlynedd) nid oedd paragraff 6.4 yn
goroesi ac felly nid yn sail i wrthod y cais ar ei rinweddau ei hun. Ystyriwyd
rhybudd 2015 hefyd fel un yn ymwneud a throsedd o
drais. Fodd bynnag, gyda’r rhybudd dros 4 mlynedd yn ôl (sydd tu hwnt i’r
cyfnod 3 mlynedd) nid oedd yn sail i wrthod y cais.
Drwy
ystyried rhybudd 2003, collfarn 2004, collfarn 2006 a rhybudd 2015 gyda’i
gilydd, ffurfi’r patrwm o aildroseddu
sydd yn dangos diffyg parch at les eraill neu at eiddo. Gyda’r diwethaf o’r digwyddiadau hyn wedi
digwydd 4 blynedd yn ôl ac felly o fewn cyfnod 10 mlynedd, daeth yr Is-bwyllgor
i’r casgliad bod darpariaethau paragraff 16.1 yn berthnasol ac yn sail o blaid
gwrthod y cais.
Amlygodd y
Cyfreithiwr nad yw darpariaethau'r
Polisi yn orfodol a bod modd gwyro oddi ar yr argymhellion os yw ffeithiau'r
achos yn cyfiawnhau hynny. Rhoddwyd sylw arbennig i baragraff 5.1 o’r
adroddiad, sydd yn cynnwys difrifoldeb y troseddau, perthnasedd, dyddiad y
cafodd y drosedd ei chyflawni, dyddiad y gollfarn ac oedran yr ymgeisydd ar
adeg y gollfarn, y ddedfryd a roddwyd gan y Llys ac os yw’r troseddau yn
perthyn i batrwm o droseddu, yn ogystal ag unrhyw ffactorau perthnasol eraill.
Ystyriwyd mai
rhybudd 2015 oedd yr unig ddigwyddiad a gofnodwyd o fewn y degawd diwethaf gyda
rhybudd 2003 a chollfarnau 2004 a 2006 wedi digwydd pan oedd yr ymgeisydd o dan
18 oed. Derbyniwyd eglurhad llawn gan yr ymgeisydd am gefndir y digwyddiadau
unigol a daethpwyd i’r canlyniad nad oedd cyswllt
ffeithiol rhwng y digwyddiadau hyn.
dd) Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth
ar wybodaeth yn ofalus, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon gwyro oddi wrth y
dybiaeth o blaid gwrthod y cais yn yr achos yma ac o dan yr amgylchiadau
penderfynwyd bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i’r ymgeisydd