Ty Beechwood, Stryd y Bont, Dolgellau
I ystyried y cais
Cofnod:
TŶ BEECHWOOD, BRIDGE STREET, DOLGELLAU
Ar ran yr eiddo: Dean
Hawkins (Ymgeisydd)
Llinos Rowlands (Cynllun
Gwarchod Tafarndai / Perchennog Dylanwad Da)
Eraill a wahoddwyd: Ian Williams (Heddlu Gogledd
Cymru)
Lis
Williams (Heddlu Gogledd Cymru)
Mark
Mortimer (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Croesawyd
Lis Williams i’r cyfarfod fel cynrychiolydd newydd Heddlu Gogledd Cymru gan y
byddai Mr Ian Williams yn ymddeol o’r Heddlu. Diolchwyd i Mr Williams am ei
wasanaeth a'i gefnogaeth a dymunwyd ymddeoliad iach a hapus iddo.
Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i
hyd at 10 munud i gyflwyno eu sylwadau
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Tŷ
Beechwood, Bridge Street, Dolgellau. Gwnaed y cais mewn perthynas ag eiddo ar gyfer siop drwyddedig a bar, drwy drawsnewid y
llawr gwaelod. Y bwriad yw gwerthu alcohol oddi ar yr eiddo.
Tynnwyd sylw at
fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad.
Amlygwyd, ers cyhoeddi’r adroddiad bod yr ymgeisydd wedi cytuno i oriau
cyfyngedig ac felly ystyriwyd y cais fel un
diwygiedig. Nodwyd bod gan Swyddogion yr
Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â
gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac
amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw
at un gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod
ymgynghori oedd yn mynegi pryder ar faterion gwrthgymdeithasol o ran sŵn,
cwsmeriaid yn ysmygu tu allan ynghyd a materion glanweithdra y tu ôl i’r eiddo.
Nid oedd gan yr Heddlu na’r Gwasanaeth Tân
wrthwynebiadau i’r cais ond roedd yr Heddlu wedi nodi sylwadau mewn perthynas â
Theledu Cylch Cyfyng. Roedd yr ymgeisydd hefyd wedi cytuno i amodau Adran
Gwarchod y Cyhoedd o ran cyfaddawdu gyda’r oriau agor.
b)
Wrth
ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.
·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r
hyn oedd wedi ei gyflwyno.
Ategodd y sylwadau
canlynol:
·
Mai ar gyfer digwyddiadau arbennig e.e., Sesiwn
Fawr fyddai’r amseroedd ansafonol
·
Ei fod yn derbyn yr amodau a gynigiwyd gan Adran
Gwarchod y Cyhoedd a’i fod yn barod i
gwtogi'r oriau agor
·
Bod bwriad i greu bar o safon fel rhywle i ymlacio
ac nid creu awyrgylch tŷ tafarn. Creu rhywbeth gwahanol yn y dref fel bod
modd cadw pobl yn lleol a chyfrannu at yr economi leol.
Ategwyd y sylwadau canlynol gan Llinos Rowlands
·
Bod cynlluniau’r fenter yn
fanwl
·
Bod y fenter yn ychwanegiad da
i’r dref
·
Byddai’r fenter yn cyflogi pobl leol ac yn cyfrannu
at yr economi leol
·
Bod modd gosod mwy o oleuadau
a chamerâu teledu cylch cyfyng i leihau pryderon
·
Bod cyfrifoldeb ar yr
ymgeisydd i reoli yn dda
Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu dystiolaeth i wrthwynebu’r cais gan
mai cais o’r newydd ydoedd. Derbyniwyd bod trafferthion wedi digwydd yn y
gorffennol gyda thafarn ‘The Stag Inn’ ond bod y trafferthion hynny yn
amherthnasol i’r eiddo dan sylw.
Ategodd y sylwadau canlynol:
·
Ei fod yn fodlon gyda chynlluniau a threfniadau
rheoli'r safle
·
Bod amod Teledu Cylch Cyfyng
wedi ei gynnwys ar y cais
·
Bod yr oriau yn rhai rhesymol
iawn
Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y
Cyhoedd bod trafodaethau a chydweithio da wedi digwydd gyda’r ymgeisydd a
chyfaddawd wedi ei gytuno ynglŷn â’r oriau agor
Ategodd y sylwadau canlynol:
·
Bod amodau wedi eu gosod ar y
cais
·
Nad oedd caniatâd i gynnal
digwyddiadau tu allan (dim lle)
·
Byddai modd rheoli gwastraff
drwy’r drefn cynllunio
·
Bod y pryderon a fynegwyd yn y gwrthwynebiad yn cyfeirio at dafarndai
eraill gerllaw
Wrth grynhoi ei achos ategodd yr ymgeisydd,
·
Nad
oedd mynediad i blant ar ôl 8pm – arwyddion i’w gosod yn hysbysu teuluoedd o’r
rheolau
·
Nad oedd
mynediad i’r bar o’r storfa beics yn y cefn – mynediad i’r fflatiau uwchben yn
unig
·
Bod
toiledau ychwanegol y cael eu gosod o fewn yr eiddo
c)
Ymneilltuodd
yr ymgeisydd a’r ymgynghorai o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais
d) Wrth gyrraedd y
penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y
partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu,
yn ogystal â sylwadau llafar a dderbyniwyd yn y gwrandawiad. Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r
Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:
i.
Atal trosedd ac anhrefn
ii.
Atal niwsans cyhoeddus
iii.
Sicrhau diogelwch
cyhoeddus
iv.
Gwarchod plant rhag niwed
PENDERFYNWYD
caniatáu y cais
Wrth dderbyn
pryderon perchennog busnes cyfagos am gynnydd mewn materion gwrthgymdeithasol o
ran sŵn, cwsmeriaid yn ysmygu tu allan a materion
glanweithdra tu ôl i’r eiddo, nid oedd yr Is-bwyllgor wedi eu perswadio y
byddai rhoi’r drwydded yn tanseilio’r amcanion trwyddedu. Ni chafwyd
tystiolaeth y byddai rhoi’r drwydded yn arwain at gynnydd mewn sŵn,
cwsmeriaid yn ysmygu a phroblemau glanweithdra ac felly yn achosi niwsans
cyhoeddus.
Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais am drwydded fel y’i diwygiwyd yn
gydnaws â’r amcanion trwyddedu.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r
penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn
bresennol.
Dogfennau ategol: