Cyflwyniad
gan Huw Ynyr a Gwern ap Rhisiart
Cofnod:
Nodwyd bod
holl aelodau’r Fforwm wedi derbyn copi o adroddiad a baratowyd gan y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth ar
y cyd â Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion ar y Cynllun Grant Seilwaith Mewn
Ysgolion - Hwb. Eglurwyd na lwyddwyd i
gynnwys yr adroddiad ar raglen y Fforwm oherwydd na dderbyniwyd y ffigurau
terfynol gan Lywodraeth Cymru tan yr unfed awr ar ddeg.
Manylwyd ar
gynnwys yr adroddiad. Nodwyd:-
·
Yng
Ngorffennaf 2019, y cyhoeddodd y Gweinidog Addysg raglen ariannu i helpu i
drawsnewid Technoleg Addysg Mewn Ysgolion yng Nghymru.
·
Y
byddai’r fenter £50m yn defnyddio ‘catalog TGCh Cymru Gyfan’ newydd fel cyfrwng
i helpu awdurdodau lleol i brynu’r cyfarpar addas angenrheidiol ar ran eu
hysgolion.
·
Yn
unol ag amodau’r cynllun, awdurdodau lleol fyddai’n gwasanaethu fel y partner
cyflenwi strategol ar gyfer y rhaglen a byddai’n rhaid defnyddio’r cyllid yn
briodol er mwyn sicrhau bod pob ysgol yn cael ei huwchraddio yn unol â’r safon
cenedlaethol.
·
Bod
Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyswllt ar gyfer ysgolion y sir ac wedi cytuno i
egwyddorion craidd safoni, cysondeb ac, yn bwysicaf oll, cynaliadwyedd.
·
Bod y grant yn galluogi adnewyddu rhwydwaith ysgolion
Gwynedd er mwyn cyrraedd y safon genedlaethol, gan uwchraddio pwyntiau
rhwydwaith diwifr a chabinetau rhwydwaith a gosod ceblau newydd lle bo angen.
·
Bod
y caledwedd ar gyfer uwchraddio’r rhwydwaith wedi ei archebu, a byddai’r gwaith
mewnosod yn digwydd dros y ddau dymor nesaf.
·
Gan
fod y Cyngor wedi ymrwymo i gynaliadwyedd yr offer yma, ni fyddai yna
oblygiadau cost ar yr ysgolion pan fyddai’r offer a osodid drwy’r grant yn
cyrraedd diwedd ei oes.
·
Y
buddsoddwyd yn agos i £1.4m o’r grant eleni ar galedwedd i uwchraddio’r
rhwydwaith.
·
Bod
asesiad o niferoedd a chyflwr y dyfeisiadau presennol ar draws ysgolion Gwynedd
yn dangos bod ystod eang o ddyfeisiadau ar gael yn yr ysgolion, ond bod llawer
ohonynt wedi dyddio.
·
Bod
Strategaeth Addysg Ddigidol yr Adran Addysg wedi gosod uchelgais o ran cyfradd
dyfais i blentyn o 1:4 yn y cyfnod sylfaen ac 1:1 yng nghyfnodau allweddol 2, 3
a 4, ynghyd â dyfais i bob athro/athrawes ac i nifer o’r staff cynhaliol.
·
Byddai
peidio cynnal cyfradd 1:1 yn y sector uwchradd yn golygu cadw elfennau o’r hen
system ac yn golygu cynnydd sylweddol mewn costau cynnal a chadw’r offer.
·
Amcangyfrifid
bod angen 13,676 o ddyfeisiadau ar gost o £2,908,205.02. Byddai’r grant yn ein galluogi i brynu’r
dyfeisiadau hyn.
·
Yn
seiliedig ar gylch adnewyddu o 5 mlynedd byddai’n rhaid canfod 20% o gost y
dyfeisiadau hyn bob blwyddyn am y 5 mlynedd nesaf. Ar ddiwedd y 5 mlynedd, byddai set newydd o ddyfeisiadau
yn cael eu cyflwyno. Byddai’r costau fel
a nodir yn y tablau isod:-
|
Nifer Disgyblion |
Nifer
cyfrifiaduron (ar sail
ratio) |
Cost (ar sail
ratio) |
Cyfraniad Adnewyddu |
Cost y
Disgybl |
CS |
3,530 |
883 |
£293,431.25 |
£58,686.00 |
£16.62 |
CA2 |
5,150 |
5,150 |
£916,242.16 |
£183,248.43 |
£35.58 |
CA3 a 4 |
6,455 |
6,455 |
£1,017,759.85 |
£203,551.97 |
£31.53 |
Cyfanswm |
15,135 |
12,488 |
£2,227,433.26 |
£445,486.65 |
£29.43 |
Athrawon
|
Nifer
Athrawon |
Nifer
cyfrifiaduron (ar sail ratio) |
Cost (ar sail
ratio) |
Cyfraniad
Adnewyddu |
Cost yr Athro |
Pob ysgol* |
1,188 |
1,188 |
£462,452.76 |
£92,490.55 |
£6.11 |
*£218,319 ei
angen ar gyfer Gorsaf Ddocio, Monitor, Bysellfwrdd a Llygoden – ni chynhwyswyd y rhain yn y costau adnewyddu gan y dylent
oresgyn y cyfnod adnewyddu.
·
Byddai
cost cynaliadwyedd y cynllun felly’n £537,976 ar gyfer y ddau sector gyda
£280,939 o’r cynradd a £257,038 o’r uwchradd.
·
Ar
gyfer ysgolion cynradd byddai disgwyl i ysgol sydd â 100 o blant gyfrannu tua
£3,250, ysgol sydd â 200 o blant £5,900, ac ysgol â 300 o blant £9,500.
·
Byddai
amcan gost cynaliadwyedd y cynllun ar gyfer yr uwchradd fel a nodir yn y tabl
isod:-
Ysgol |
|
Ardudwy |
£12,723.13 |
Botwnnog |
£17,022.62 |
Bro Idris (Ysgol 3-16) |
£11,612.64 |
Brynrefail |
£24,428.27 |
Dyffryn Nantlle |
£14,186.52 |
Dyffryn Ogwen |
£16,213.59 |
Eifionydd |
£15,052.72 |
Friars |
£44,842.83 |
Glan y Môr |
£19,266.51 |
Syr Hugh Owen |
£28,662.73 |
Tryfan |
£13,058.23 |
Tywyn |
£13,418.84 |
Godre’r Berwyn (Ysgol 3-19) |
£13,234.61 |
Y Moelwyn |
£13,314.43 |
·
Na
ragwelid y byddai yna unrhyw ofyn ar ysgolion i gyfrannu tuag at gynaliadwyedd
y cynllun yn y flwyddyn gyllidol nesaf.
·
Bod hyd at £800,000 ar gael
ar gyfer dyfeisiadau eleni, ac na ellid gwario’r grant heb ymrwymiad i
gynaliadwyedd y buddsoddiad hwn.
·
Fel
arwydd o ymroddiad y Cyngor i’r Strategaeth Addysg Ddigidol, a’r ymrwymiad i
sgiliau digidol y dysgwyr, bod yr Adran Addysg yn dymuno buddsoddi yng
nghynaliadwyedd y cynllun hwn. Byddai
unrhyw fuddsoddiad gan yr Adran yn lleihau cost cynaliadwyedd yr ysgolion.
Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad, nodwyd:-
·
Er
na dderbyniwyd y ffigurau terfynol ynglŷn â’r grant tan yr unfed awr ar
ddeg, bod rhaid rhoi archeb i mewn erbyn hanner dydd ar y 4ydd o Fawrth am
werth £798,000 o offer.
·
Y
cynhaliwyd nifer o drafodaethau gyda’r Pennaeth Addysg ynglŷn â sut y
gallai’r Adran gefnogi’r buddsoddiad yng nghynaliadwyedd y ddarpariaeth. Bwriedid edrych ar bob cyllideb o fewn yr
Adran gan hefyd gynnal trafodaethau gyda Chabinet y Cyngor. Cadarnhawyd y byddai’r Adran yn cefnogi’r
buddsoddiad, ond ni ellid cadarnhau beth fyddai’r union swm ar hyn o bryd.
·
Bod
yr Adran am ymrwymo i 20% o’r £800,00 ar unwaith, neu ni fyddai’n bosib’
gwario’r grant.
Croesawyd
bwriad yr Adran i fuddsoddi yng nghynaliadwyedd y ddarpariaeth.
Pwysleisiwyd
bod yr ysgolion angen gwybod pryd y byddai’r offer newydd yn cyrraedd, fel y
gallent gynllunio ar gyfer hynny. Mewn
ymateb, eglurwyd, yn hytrach na rhedeg dwy system na fyddai, o bosib’, yn
siarad â’i gilydd, y bwriedid dod ag un system i
mewn. Gan hynny roedd yr amseru’n bwysig
iawn.
Nodwyd bod
yr ysgolion angen gwybodaeth am y penderfyniadau hyn yn ystod yr wythnosau
nesaf. Mewn ymateb, eglurwyd ei bod yn
anodd i’r Cyngor o safbwynt cynllunio, gan nad oedd yn
hysbys eto faint yn union o arian oedd yn y pot ar gyfer y flwyddyn nesaf. Gan hynny roedd yn debygol na
fyddai’r offer newydd ar gael tan yn fuan ar ôl y Nadolig, ond byddai’r gwaith
o’u paratoi wedi ei wneud cyn hynny a’r cwbl fyddai angen ei wneud fyddai eu
dosbarthu i’r ysgolion.
Nodwyd, er
mai Cynnal sy’n paratoi adroddiad blynyddol ar ansawdd, mai’r Cyngor sy’n
gwneud y penderfyniad bod yr offer yn safonol.
Mynegwyd y farn bod hyn yn dir llwyd ac awgrymwyd y byddai’n fuddiol
darparu cytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer yr ysgolion.
Awgrymwd y
byddai’n syniad darparu rhyw fath o newyddlen bob bythefnos ar gyfer yr
ysgolion hynny oedd heb sedd ar y Fforwm.
Mewn ymateb, eglurwyd bod dwy newyddlen yn cael eu hanfon i’r ysgolion
yn fisol. Awgrymwyd hefyd y gellid gofyn
i’r cynrychiolwyr ar y grwpiau strategol / technegol adrodd yn ôl i’r
penaethiaid.
Dogfennau ategol: