Agenda item

Adroddiad llafar

Penderfyniad:

Nodi’r wybodaeth a diolch i staff am eu gwaith yn ystod y cyfnod argyfwng.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Nodi’r wybodaeth a diolch i staff am eu gwaith yn ystod y cyfnod argyfwng.

 

TRAFODAETH

 

Bu i’r Prif Weithredwr nodi y bydd yn rhoi diweddariad a fydd yn amlinellu beth mae’r Cyngor yn ei wneud  i ymateb i’r argyfwng Covid-19.  Mynegwyd y bydd aelodau  etholedig yn derbyn nodyn diweddariad cyn diwedd yr wythnos.

 

Rhoddwyd cliplun o’r sefyllfa staffio gan nodi fod 137 yn y categori gwarchodaeth y Llywodraeth, 175 o staff yn sâl gyda 46 o’r rheini o ganlyniad i symptomau covid-19. Ychwanegwyd fod dros 1800 o staff bellach yn gweithio o’u cartrefi ac mai dim ond 132 o aelod o staff sydd bellach yn gweithio o swyddfa. Mynegwyd, ar hyn o bryd, fod y maes gofal yn dygymod yn eithaf ond fod achosion wedi codi mewn tri chartref henoed, ond fod y sefyllfaoedd bellach yn cael eu rheoli.

Mynegwyd fod ystadegau yn dangos Gwynedd yn lled llwyddiannus a bod yr achosion ar waelod yr amrediad a amlygwyd yn y senarios posib. Ychwanegwyd unwaith y bydd y rheoliadau yn cael ei lleihau ac y bydd angen cynllunio ar gyfer y cyfnod nesaf. Nodwyd fod llawer o sôn am gyfarpar diogelwch PPE ond pwysleisiwyd y lefel cyfarpar yng Ngwynedd yn iawn ond fod nifer y masgiad yn peri pryder. Mynegwyd fod cyflenwadau gan y Llywodraeth a nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud i weld lefel y costau ychwanegol a fydd yn wynebu’r sector breifat.

 

Pwysleisiwyd fod cyfundrefn gwirfoddolwyr yn gweithio yn dda, gyda byddin o bobl Gwynedd yn barod i gynorthwyo. Mynegwyd fod addysg yn parhau i warchod plant gweithwyr allweddol a bregus. Pwysleisiwyd fod y gwasanaeth biniau wedi parhau drwy’r cyfnod ond y bydd Canolfannau Ailgylchu yn parhau ar gau ar hyn o bryd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth                                                                   

¾  Diolchwyd i’r Prif Weithredwr a Prif swyddogion am yrru'r gwaith drwy’r cyfnod. Ychwanegwyd fod yr aelodau Cabinet wedi bod yn cyfarfod yn anffurfiol yn gyson.

¾  Nododd yr Aelod Cabinet dros Gyllid ddiolch i staff yr adran am eu gwaith yn ystod y cyfnod yn benodol i staff Technoleg Gwybodaeth i sicrhau fod modd i staff weithio o’u cartrefi. Pwysleisiwyd yn ogystal na fydd unrhyw dreth cyngor yn cael ei adennill hyd ddiwedd Mehefin a mynegwyd fod gwaith yn cael ei wneud er mwyn mesur effaith y cyfnod yn ariannol ar y Cyngor.

¾  Pwysleisiwyd fod y cyfnod hwn yn un argyfyngus ble mae taro pawb yn wahanol i’r argyfyngau sydd wedi taro'r sir o’r blaen, ble mae cymunedau penodol wedi eu taro. Mynegwyd o ran y maes Oedolion fod y staff yn gweithio yn galed a diolchwyd am eu gwaith o dan yr amodau heriol.

¾  Diolchodd yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol i’r staff am fod yn barod i weithio ac i sicrhau gwasanaeth i drigolion Gwynedd. Mynegwyd fod tipio wedi bod yn codi pryder ond fod lefel yr achosion sydd wedi bod ddim llawer yn uwch nac arferol.

¾  Nodwyd fod yr unigolion sydd yn ddigartref bellach wedi eu cartrefu yn ystod y cyfnod argyfwng. Ychwanegwyd fod yr adran Eiddo wedi sicrhau 10 gwely ychwanegol yn y cartref Bryn Blodau ar gyfer y cyfnod.

¾  Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd fod trefniadau amgen ar gyfer y maes cynllunio wedi ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Ategwyd fod gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi bod yn brysur yn arwain ar y gwaith o leihau sgamio sydd wedi cael ei amlygu yn ystod y cyfnod.

¾  Diolchwyd i’r adran Cefnogaeth Gorfforaethol am eu parodrwydd i newid eu ffordd o weithio. Pwysleisiwyd fod Siop Gwynedd bellach wedi cau a bod staff Galw Gwynedd yn parhau i weithio o adref.

¾  Pwysleisiwyd fod taliadau uniongyrchol yn cael ei wneud i rieni plant sydd yn cael cinio am ddim ac ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei wneud i gynnig darpariaeth addysgol. Mynegwyd fod angen 2000 o ddyfeisiadau i ddisgyblion i sicrhau darpariaeth addysgiadol, gan ychwanegu y bydd y rhain yn dod o’r ysgolion yn uniongyrchol. Diolchwyd i staff ac athrawon am eu gwaith yn ystod y cyfnod.

¾  Nododd yr Aelod Cabinet dros Economi fod yr adran wedi bod yn gweithio yn wahanol iawn i’r arfer a diolchwyd i staff am hynny. Mynegwyd mai cefnogi busnes yw’r brif flaenoriaeth ac i sicrhau na fydd effaith hir dymor ar fusnesau’r ardal. Ategwyd fod gwaith wedi bod yn cael ei wneud i sicrhau gwydnwch cymunedol a bod 23 aelod yn rhan o’r tîm i sicrhau fod pobl fregus yn gallu cysylltu i gael cymorth.

¾  Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd fod yr adran wedi bod yn gweithio yn galed a bod llawer o straeon positif o fewn yr adran.

¾     Mynegwyd fod staff wedi derbyn cyfarpar PPE ac yn deall sut i’w ddefnyddio ac wedi dod o hyd i ffordd wahanol o weithio a chefnogi pobl ifanc a phlant.

¾     Mynegwyd fod y meysydd gofal - plant ac oedolion- ar agor i bobl bregus. A diolwch i’r staff i gyd a pharodrwydd staff y Cyngor a thrigolion i fod yn barod i gynorthwyo yn y maes gofal.

Awdur:Dilwyn Williams