skip to main content

Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Craig ab Iago

Penderfyniad:

Cymeradwywyd ariannu’r gost net ychwanegol o £150,500 drwy ddefnydd o gynnyrch treth y Premiwm Treth Cyngor ar dai gwag ac ail gartrefi, er mwyn gwireddu newidiadau i strwythur staffio’r Gwasanaeth Tai, fel amlygwyd ym mharagraffau 3.4 a 3.7 o’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd ariannu’r gost net ychwanegol o £150,500 drwy ddefnydd o gynnyrch treth y Premiwm Treth Cyngor ar dai gwag ac ail gartrefi, er mwyn gwireddu newidiadau i strwythur staffio’r Gwasanaeth Tai, fel amlygwyd ym mharagraffau 3.4 a 3.7 o’r adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y sefyllfa dai yn yng Ngwynedd yn argyfyngus gyda niferoedd digartref yn codi ynghyd a nifer uchel o dai'r sir yn cael ei defnyddio fel tai haf. Mynegwyd yn dilyn Adolygiad Rheolaethol y llynedd penderfynwyd creu adran Tai ac Eiddo. Pwysleisiwyd fod yr adran yn dangos potensial gyda swyddogion yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

 

Nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i edrych ar strwythur yr adran a bod angen arian er mwyn gwireddu newidiadau i’r strwythur staffio. Pwysleisiwyd os na fydd ail strwythuro  ni fydd modd newid y sefyllfa. Ychwanegwyd fod yr adran wedi dod o hyd i £200k o arbedion drwy newid cyflenwyr yn y maes eiddo ac mae posibilrwydd o ddefnyddio’r arian hwn er mwyn ariannu’r ail strwythuro.

 

Ychwanegodd Pennaeth yr Adran Tai mai dim ond 5 mis oed oedd yr adran pan fu i argyfwng Covid-19 daro. Mynegwyd yn ystod y 5 mis fod y Pennaeth wedi cael amser i ddysgu mwy am y maes tai ac i adnabod mwy o opsiynau a chynlluniau newydd. Nodwyd y bydd angen i’r adran fod yn barod wrth fynd yn ôl i normalrwydd gan fod posibilrwydd cryf y bydd y sefyllfa yn waeth, gan fod niferoedd digartref yn parhau i godi yn ystod y cyfnod argyfwng. Ategodd fod yr ailstrwythuro yn gosod seiliau ar gyfer y dyfodol.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Mynegwyd fod problemau tai yn broblem sydd i’w gweld gan bob Cynghorydd ar draws y Sir a dangoswyd cefnogaeth i’r ail strwythuro. Amlygwyd yr argyfwng tai yng Ngwynedd yn benodol digartrefedd cudd drwy orlenwi tai gan bwysleisio fod y sefyllfa wedi bod yn waeth yn ystod y cyfnod ble mae cyfyngiadau. Nododd un Aelod Cabinet ei bod yn gwrthwynebu’r cais i ariannu drwy’r premiwm Treth Cyngor ar dai gwag ac ail gartrefi, gan fod yr arian hwnnw ar gael i gael tai i deuluoedd lleol. Holwyd pryd y bydd cynllun gweithredol ar gael a nodwyd fod Cynllun Gweithredu yn ei le ac y bydd yn cael ei rannu mor fuan a bo modd.

¾     Mynegwyd yr eironi fod argyfwng tai yng Ngwynedd, ond nad oes prinder tai i’w gweld yma. Nododd fod defnyddio canran bychan iawn o’r Premiwm Treth Cyngor yn ddefnydd dilys o’r arian.

¾     Holwyd o ran yr 1% y bydd y Cyngor yn ei dderbyn o unrhyw arbedion a gaiff ei gwireddu gan awdurdod arall, os yn defnyddio Fframwaith Gwynedd, os bydd hwn yn flynyddol neu yn un taliad. Mynegwyd nad ydynt yn gwbl sicr eto gan ei bod yn ddibynnol ar faint o siroedd fydd yn rhan o’r Fframwaith. Ychwanegwyd y bydd modd cael mwy o arbedion gan fod yr arbedion yma am gyflenwad nwy yn unig.

¾     Nododd y Prif Weithredwr mai cam un oedd cael Pennaeth i’r adran newydd a rhan dau oedd cynnal adolygiad i sicrhau fod yr adran yn gwneud y mwyaf o’r gyllideb oedd ar gael. Pwysleisiwyd fod achos cryf iawn yma o ganlyniad i argyfwng tai'r sir gan fod 10% o stoc tai yn cael ei ddefnyddio fel ail gartrefi ac o ganlyniad nid oes cyflenwad tai ar gael. Nodwyd fod angen i Lywodraeth Cymru chwarae ei ran yn amddiffyn cynnyrch treth o’r premiwm. Mynegwyd fod ariannu’r swyddi o’r Premiwm Treth Cyngor yn ddoeth, gan fod tebygolrwydd bydd angen yr arbedion ar gyfer osgoi toriadau gwasanaeth wrth fantoli cyllideb y Cyngor, yn sgil gwariant cyhoeddus yn ymateb i argyfwng Covid-19.

 

Awdur:Dafydd Gibbard

Dogfennau ategol: